Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Llywodraeth ddatganoledig yn y DU

Yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae rhai polisïau a gwasanaethau cyhoeddus y llywodraeth yn wahanol i'r rhai yn Lloegr. Mae llywodraeth ganolog y DU wedi rhoi rhai pwerau i lywodraethau datganoledig, fel y gallant wneud penderfyniadau ar gyfer eu hardaloedd eu hunain.

Datganoli pwerau

Yn dilyn refferendwm yng Nghymru a'r Alban yn 1997, ac yn y ddwy ran o Iwerddon yn 1998, trosglwyddodd Senedd y DU amryw o bwerau i lywodraethau neu gynulliadau cenedlaethol.

Sefydlwyd Senedd yr Alban, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chynulliad Gogledd Iwerddon, ac aethant ati i reoli yn 1999. Mae'r trefniadau yn wahanol yn y tair rhan o'r wlad, gan adlewyrchu eu hanes a'u strwythurau gweinyddol.

Gallwch gael gwybod am gyfrifoldebau a phwerau'r gweinyddiaethau datganoledig ym mhob rhan o'r DU drwy ddilyn y dolenni isod. Fe welwch fwy o ddolenni i wefannau'r llywodraethau datganoledig, sy'n cynnwys gwybodaeth am sut mae eu llywodraeth yn gweithio a sut caiff eu gwasanaethau cyhoeddus eu rhedeg.

Senedd y DU a materion datganoledig

Llywodraeth y DU parhau i fod yn gyfrifol am bolisi cenedlaethol ar yr holl faterion nad ydynt wedi cael eu datganoli, yn cynnwys materion tramor, amddiffyn, nawdd cymdeithasol, rheoli macro-economaidd a masnach.

Mae hefyd yn gyfrifol am bolisi llywodraeth yn Lloegr ac am yr holl faterion sydd wedi'u datganoli i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Llywodraeth y DU yn gallu deddfu ar gyfer unrhyw ran o'r DU o hyd, ond yn ymarferol dim ond gyda materion datganoledig y mae'n ymdrin â nhw gyda chytundeb y llywodraethau datganoledig.

Gweinidogion llywodraeth y DU

Yn llywodraeth y DU, Ysgrifenyddion Gwladol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am Swyddfa yr Alban, Swyddfa Cymru a Swyddfa Gogledd Iwerddon.

Maent yn sicrhau bod datganoli yn gweithio'n llwyddiannus, ac yn helpu i ddatrys unrhyw broblemau. Maent yn cynrychioli eu rhannau o'r wlad yn llywodraeth y DU, ac yn cynrychioli llywodraeth y DU yn y rhannau hynny o'r wlad.

Mae'r rhan fwyaf o'r cyswllt rhwng llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig yn digwydd rhwng adrannau unigol y llywodraeth sy'n delio â'r materion penodol hynny.

Additional links

Arbed Arian
Arbed Ynni

Ewch i dudalen LLEIHAU'CH CO2 i ganfod ffyrdd hawdd o arbed arian ac ynni

Allweddumynediad llywodraeth y DU