Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Ers datganoli, mae rhai polisïau a gwasanaethau yn wahanol yng Ngogledd Iwerddon. Cynulliad Gogledd Iwerddon a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am y rhan fwyaf o faterion bob dydd pobl Gogledd Iwerddon.
Sefydlwyd Cynulliad Gogledd Iwerddon fel rhan o Gytundeb Belfast (a elwir hefyd yn Gytundeb Gwener y Groglith) yn 1998. Cafodd y broses o ddatganoli Gogledd Iwerddon ei gohirio ym mis Hydref 2002 a'i hadfer ar 8 Mai 2007.
Mae'r Cynulliad yn trafod ac yn deddfu, ac yn craffu ac yn gwneud penderfyniadau ar waith adrannau llywodraeth Gogledd Iwerddon.
Mae'n cynnwys hyd at 108 o Aelodau etholedig o'r Cynulliad Deddfwriaethol (MLAau), ac yn cyfarfod yn Adeiladau'r Senedd yn Stormont ym Melfast.
Llywodraeth ddatganoledig Gogledd Iwerddon yw Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae'n gyfrifol am lawer o faterion, yn cynnwys materion economaidd a chymdeithasol, datblygiad amaethyddol a gwledig, diwylliant, celfyddydau, addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a diogelwch y cyhoedd.
Mae Pwyllgor y Weithrediaeth yn cyfarfod i gytuno ar faterion o bwys, ac yn llywio cynigion ar gyfer deddfau newydd i'r Cynulliad eu hystyried. Mae'n cynnwys y Prif Weinidog a'r dirprwy Brif Weinidog, a deg o weinidogion adrannau'r llywodraeth.
Mae gwefan nidirect yn rhoi mynediad i wasanaethau cyhoeddus a gwybodaeth am Ogledd Iwerddon. Cewch wybodaeth yn y categorïau canlynol: