Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Gymanwlad

Cymdeithas wirfoddol o wledydd annibynnol yw'r Gymanwlad, y cyfan bron ohonynt wedi bod yn diriogaethau Prydeinig ar un adeg. Mae 53 o aelodau yn cynnwys y Deyrnas Unedig, sy'n cydweithredu ar sail diddordebau cyffredin y bobl.

Egwyddorion a nodau

Mae'r Gymanwlad yn hyrwyddo heddwch a diogelwch rhyngwladol, democratiaeth, rhyddid a hawliau cyfartal, yn ogystal â datblygiad economaidd a chymdeithasol. Mae'n gwrthwynebu pob math o gamwahaniaethu hiliol.

Mae'n cynrychioli bron i ddwy filiwn o bobl - bron i draean o boblogaeth y byd - o amrywiaeth eang o gredoau, hiliau, diwylliannau a thraddodiadau.

Nid oes gan y Gymanwlad siarter neu gyfansoddiad ffurfiol. Mae'r strwythur yn seiliedig ar weithdrefnau anysgrifenedig a thraddodiadol, ond caiff ei arwain gan gyfres o gytundebau ar egwyddorion a nodau. Datganiadau yw'r rhain sydd wedi'u cyhoeddi gan Benaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad mewn cyfarfodydd amrywiol.

Pennaeth y Gymanwlad

Y Frenhines yw Pennaeth y Gymanwlad. Mae hon yn rôl symbolaidd ac unedig, sy'n atgyfnerthu'r cysylltiadau y mae'r Gymanwlad yn uno pobl gyda'i gilydd o amgylch y byd.

Mae'r Frenhines ac aelodau eraill o'r Teulu Brenhinol yn ymweld â gwledydd y Gymanwlad yn rheolaidd. Mae'r Frenhines hefyd yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda Phenaethiaid Llywodraethau gwledydd y Gymanwlad, ac yn mynychu'r dathliadau Diwrnod y Gymanwlad yn Llundain bob blwyddyn, ar yr ail ddydd Llun ym mis Mawrth.

Teyrnasoedd y Gymanwlad

Y Frenhines hefyd yw Pennaeth y Wladwriaeth yn y DU a 15 o wladwriaethau annibynnol eraill, eu tiriogaethau tramor a'u dibynwledydd. Ceir rhestr isod o'r gwledydd hyn, a elwir yn deyrnasoedd y Gymanwlad:

  • Anigua a Barbuda
  • Awstralia
  • Y Bahamas
  • Barbados
  • Belize
  • Canada
  • Grenada
  • Jamaica
  • Seland Newydd
  • Papua Guinea Newydd
  • St Christopher a Nevis
  • St Lucia
  • San Vincent a'r Grenadines
  • Ynysoedd Solomon
  • Tuvalu

Ymhob gwlad lle mae'r Frenhines yn Ben ar y Wladwriaeth, fe'i cynrychiolir yno gan Lywodraethwr Cyffredinol, a benodir ganddi ar sail y cyngor a gaiff gan weinidogion y wlad dan sylw, ac yn annibynnol ar lywodraeth y DU.

Yn y tiriogaethau tramor, cynrychiolir y Frenhines fel arfer gan lywodraethwyr sy'n gyfrifol i lywodraeth y DU am weinyddu'r gwledydd y maent yn gwasanaethu ynddynt.

Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad

Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad, yn Llundain, yw prif asiantaeth rynglywodraethol y Gymanwlad. Mae'n helpu llywodraethau i drefnu Cyfarfodydd Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad, sy'n cael eu cynnal bob dwy flynedd mewn gwlad wahanol yn y Gymanwlad.

Mae'r Ysgrifenyddiaeth hefyd yn helpu i drefnu cyfarfodydd gweinidogion a chynadleddau eraill. Mae'n gweinyddu'r rhaglenni cymorth y cytunir arnynt yn y cyfarfodydd hyn, gan gynnwys rhaglenni Cronfa'r Gymanwlad ar gyfer Cydweithredu Technegol, sy'n darparu arbenigedd, gwasanaethau cynghori a hyfforddiant i wledydd y Gymanwlad sy'n datblygu.

Gemau'r Gymanwlad

Mae Gemau'r Gymanwlad yn ddigwyddiad cyfeillgar, o'r radd flaenaf, a gynhelir bob pedair blynedd. Maent yn agored i gystadleuwyr cymwys o bob cenedl yn y Gymanwlad.

Er mai un wlad yn y Gymanwlad yw'r Deyrnas Unedig, mae Cymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Guernsey, Jersey ac Ynys Manaw yn cystadlu yn y Gemau fel cenedl ar wahân.

Cynhaliwyd Gemau'r Gymanwlad 2002 ym Manceinion. Dyma'r digwyddiad chwaraeon mwyaf a gynhaliwyd erioed yn y DU, gyda mwy na 5,000 o athletwyr a swyddogion tîm yn cymryd rhan mewn 17 o chwaraeon gwahanol.

Cynhaliwyd Gemau 2006 yn Melbourne, Awstralia. Bydd Gemau 2010 yn cael eu cynnal yn Delhi, India, a chaiff Gemau 2014 eu cynnal yn Glasgow, yr Alban.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Cael gwybod am y gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU