Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Llywyddiaeth yr UE

Nid un person sy'n gyfrifol am Lywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd, ond gwlad gyfan yn hytrach. Mae'r llywyddiaeth yn newid bob chwe mis rhwng yr aelod-wladwriaethau. Fodd bynnag, mae cynlluniau ar y gweill i ddisodli'r system rota hon gydag un llywydd llawn amser.

Cadeirio cyfarfodydd

Un o brif gyfrifoldebau'r wlad sy'n gyfrifol am Lywyddiaeth yr UE yw bod yn gyfrifol am holl gyfarfodydd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cynnwys sawl math o gyfarfodydd:

  • cyfarfodydd arweinwyr cenedlaethol y Cyngor Ewropeaidd
  • cyfarfodydd gweinidogion o bob aelod-wladwriaeth am feysydd polisi penodol
  • cyfarfodydd Pwyllgor y Cynrychiolwyr Parhaol, sy'n cynnwys llysgenhadon yr UE
  • gweithgorau a phwyllgorau, sy'n ystyried cynigion ac yn paratoi penderfyniadau

Caiff pob cyfarfod ei drefnu a'i gadeirio gan y gweinidog neu'r swyddogion sy'n cynrychioli'r wlad sy'n gyfrifol am y llywyddiaeth.

Cynrychioli'r Cyngor

Un o brif rolau eraill y llywyddiaeth yw cynrychioli Cyngor yr Undeb Ewropeaidd mewn trafodaethau gyda chyrff eraill yr UE, yn cynnwys Senedd Ewrop a'r Comisiwn Ewropeaidd.

Pan fyddant yn dal y llywyddiaeth, mae llawer o aelod-wladwriaethau'n manteisio ar y cyfle i drafod a chynnig deddfwriaeth ar faterion sy'n bwysig iddynt hwy, megis cyllid neu fusnes. Mae'n rhaid iddynt hefyd barhau â thrafodaethau nad ydynt wedi'u datrys ers llywyddiaeth y wlad flaenorol ac os yw'n angenrheidiol, eu trosglwyddo i'r wlad ddilynol.

Yn ystod ei llywyddiaeth, y wlad honno fydd yn cynrychioli'r UE ym mhob cwr o'r byd ac mae'n bosib y gofynnir iddi siarad ar ran yr UE mewn cyfarfodydd gyda sefydliadau pwysig megis y Cenhedloedd Unedig neu Sefydliad Masnach y Byd.

Cytundeb Lisbon: Llywydd y Cyngor Ewropeaidd

Nod Cytundeb Lisbon, a lofnodwyd ym mis Rhagfyr 2007, yw gweithredu'r newidiadau y mae eu hangen er mwyn i'r UE weithio'n fwy effeithiol. Un o'r newidiadau hyn yw penodi Llywydd parhaol, llawn amser ar y Cyngor Ewropeaidd.

Bydd y llywydd llawn amser yn wleidydd a ddewiswyd gan arweinwyr yr aelod-wladwriaethau. Bydd y llywydd yn treulio dwy flynedd a hanner yn ei swydd, yn hytrach na bod gwlad arall yn cymryd rheolaeth bob chwe mis. Dylai hyn sicrhau mwy o gysondeb.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Gytundeb Lisbon ar y wefan isod.

Mwy o wybodaeth

Y tro diwethaf i'r DU fod yn gyfrifol am Lywyddiaeth Cyngor yr Undeb Ewropeaidd oedd rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2005. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y llywyddiaeth ar y wefan isod.

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Cael gwybod am y gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU