Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Nato

Mae'r Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd (NATO) yn gynghrair o 26 o wledydd o Ewrop a Gogledd America, a ffurfiwyd yn 1949. Nod Nato yw amddiffyn rhyddid a diogelwch ei aelod wledydd, yn wleidyddol ac yn filwrol. Mae bellach yn chwarae rhan bwysig yn y broses o gadw heddwch, rheoli argyfwng a brwydro yn erbyn terfysgaeth.

Hanes y Cytuniad Gogledd Iwerydd

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, cafodd Ewrop ei hun yn rhanedig - yn ddaearyddol ac yn wleidyddol - gyda'r Undeb Sofietaidd yn rheoli Dwyrain Ewrop. Llofnododd y DU a naw gwlad arall o Orllewin Ewrop, yn ogystal â'r Unol Daleithiau a Chanada, Sefydliad Cytuniad Gogledd Iwerydd (NATO) i wrthbwyso'r risg y byddai'r Undeb Sofietaidd yn ceisio ymestyn ei reolaeth dros rannau eraill o'r cyfandir.

Ymrwymodd yr aelodau a sefydlodd Nato - y DU, Gwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, Gwlad yr Ia, yr Eidal, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd, Norwy, Portiwgal, ac UDA a Chanada - i amddiffyn ei gilydd pe digwyddai ymosodiad milwrol ar unrhyw un ohonynt.

Yr hyn a roddodd nerth i'r cytundeb oedd ei fod wedi rhwymo Gogledd America i amddiffyn Gorllewin Ewrop. Roedd hyn yn neges glir i'r Undeb Sofietaidd y byddai UDA yn camu i mewn petaent yn ceisio gwthio ymhellach tua'r gorllewin i mewn i Ewrop. Roedd cytundeb NATO hefyd yn sicrhau y byddai polisïau amddiffyn cenedlaethol holl wledydd NATO yn integreiddio'n raddol, gan wneud yr undeb yn gryfach.

Yn ystod yr 1950s, daeth swyddogaeth NATO'n bwysicach, gan na wnaeth y darpar fygythiad gan yr Undeb Sofietaidd wanhau o gwbl. Ymunodd Twrci a Gwlad Groeg â'r Gynghrair yn 1952, gyda Gorllewin yr Almaen yn dilyn flwyddyn yn ddiweddarach. Ar gais rhai o lywodraethau Ewrop, sefydlwyd canolfannau milwrol UDA hefyd yn Ewrop er mwyn atal ymhellach unrhyw fygythiad o Moscow.

Rôl Nato heddiw

Ni newidiodd swyddogaeth NATO fawr ddim nes i'r Undeb Sofietaidd ddymchwel a rhyddhau Dwyrain Ewrop. Erbyn yr 1990 credai llawer o bobl nad oedd angen Nato rhagor. Nid oedd yr 'hen elyn' yn fygythiad rhagor ac fe gwtogodd llawer o wledydd eu gwariant milwrol.

Fodd bynnag, llwyddodd Nato i ddod o hyd i swyddogaeth newydd wrth i wrthdaro godi yng ngwledydd y Balcan a rhannau o'r hen Undeb Sofietaidd. Bu'r rhyfeloedd hyn yn fodd o gryfhau'r gynghrair rhwng gwledydd Nato ac atgyfnerthu'r farn mai cydamddiffyn a chydweithredu oedd y ffordd orau o sicrhau diogelwch o hyd.

Ymunodd Sbaen yn 1982, gyda Gweriniaeth Tsiec, Hwngari a Gwlad Pwyl yn ymuno yn 1999. Ymunodd saith gwlad arall yn 2004: Bwlgaria, Estonia, Latfia, Lithwania, Romania, Slofacia a Slofenia. Daeth hyn â nifer y gwledydd Nato i'r cyfanswm presennol o 26.

Mae Nato wedi helpu i roi diwedd ar yr ymladd yn Bosnia a Kosovo, ac atal rhyfel cartref yn hen Weriniaeth Iwgoslafaidd Macedonia. Mae lluoedd a arweinir gan Nato bellach yn helpu i ddod â sefydlogrwydd yn Kosovo, Afghanistan, Irac a Darfur.

Swyddogaethau Nato

Mae bod yn aelod o Nato yn ganolog i bolisi amddiffyn y DU. Dyma swyddogaethau penodedig ffurfiol Nato:

  • bod o gymorth i ddarparu gwarchodaeth a sefydlogrwydd yn yr ardal Ewro-Atlantig
  • darparu fforwm traws-Atlantig er mwyn i'r aelod wladwriaethau allu ymgynghori ar faterion sy'n peri pryder iddynt i gyd
  • atal ac amddiffyn rhag unrhyw fygythiad i dir unrhyw un o aelodau Nato
  • cyfrannu at reoli argyfyngau ac atal gwrthdaro ar sail achos-wrth-achos
  • hybu partneriaeth, cydweithrediad a deialog gyda gwledydd eraill yn yr ardal Ewro-Atlantig

Sut mae Nato yn gweithio

Seilir pob un o benderfyniadau Nato ar gonsensws. Mae hyn yn golygu bod rhaid i bob un o wledydd Nato gytuno cyn y gellir gwneud penderfyniad. Er y gall hyn arwain at drafodaethau hirfaith, mae dwy fantais i'r drefn. Yn gyntaf, perchir sofraniaeth ac annibyniaeth pob gwlad sy'n aelod, ac yn ail, pan wneir penderfyniad, caiff gefnogaeth lawn holl wledydd Nato. Mae hyn yn helpu i gryfhau swyddogaeth Nato.

Y corff gwneud-penderfyniadau pwysicaf yn Nato yw Cyngor Gogledd Iwerydd, a bydd gan bob gwlad sy'n aelod gynrychiolydd arno. Stewart Eldon, CMG OBE yw cynrychiolydd presennol Prydain. Yn gefn iddo, ceir gweision sifil o'r Swyddfa Dramor a'r Weinyddiaeth Amddiffyn a swyddogion milwrol o bob un o'r tri gwasanaeth amddiffyn. Bydd gweinidogion tramor yr aelod wledydd yn cyfarfod yn y Cyngor o leiaf ddwywaith y flwyddyn.

Penodir Cadfridog Diogelwch yn bennaeth ar Nato - sef uwch wladweinydd rhyngwladol o un o'r aelod wledydd. Penodwyd Jaap de Hoop Scheffer o'r Iseldiroedd i'r swydd yn 2004, am dymor o bedair blynedd. Rhwng 1999-2003 cyn Ysgrifennydd Amddiffyn Prydain, George Robertson, oedd yn y swydd (sef erbyn hyn, Arglwydd Robertson o Port Ellen).

Additional links

Cyfrifo eich ôl-troed carbon!

Cael gwybod am y gyfrifiannell Lleihau'ch CO2 a sut y gallwch chi fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Allweddumynediad llywodraeth y DU