Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rheoli bywyd gwyllt anfrodorol

Mae planhigion ac anifeiliaid a ddaw i'r DU o dramor yn gallu achosi llawer iawn i ddifrod i fywyd gwyllt brodorol. Dysgwch sut gallwch chi helpu i stopio rhywogaethau niweidiol rhag lledaenu, a deall y cyfreithiau am ddod â phlanhigion ac anifeiliaid i'r DU.

Pam mae bywyd gwyllt anfrodorol yn fygythiad?

Amcangyfrifir bod rhywogaethau anfrodorol yn costio o leiaf £2 biliwn y flwyddyn i economi Prydain

Mae pobl wedi bod yn dod ag anifeiliaid a phlanhigion i'r wlad hon ers cannoedd o flynyddoedd. Nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn achosi problem. Serch hynny mae rhai planhigion ac anifeiliaid yn lledaenu'n fwy ymosodol, a gallant fygwth bywyd gwyllt brodorol drwy gystadleuaeth, clefydau neu drwy eu hysglyfaethu.

Gall hyn amharu ar gydbwysedd bywyd gwyllt yn y wlad hon. Mewn achosion eithafol gallai hyn arwain at rai o rywogaethau'r DU yn diflannu unwaith ac am byth.

Gall planhigion ac anifeiliaid anfrodorol achosi difrod ariannol i ddiwydiannau megis coedwigaeth, amaethyddiaeth a physgodfeydd ac achosi difrod strwythurol i adeiladau ac i ffyrdd. Mae clymog Japan er enghraifft yn gallu tyfu drwy wyneb caled ffyrdd hyd yn oed, ac unwaith iddo ennill ei le mae'n anodd ac yn ddrud gael gwared arno.

Enghreifftiau o fywyd gwyllt anfrodorol sy'n achosi problemau

Clymog Japan

Mae clymog Japan yn chwyn sy'n tyfu'n gyflym ac ymddengys nad oes ganddo ddim gelynion naturiol ym Mhrydain. Mae'n lledaenu'n gyflym a gall ddifrodi eiddo (er enghraifft mae'n tyfu drwy darmac neu hyd yn oed drwy loriau tai). Gall darn o wraidd mor fach â 0.8 gram dyfu i ffurfio planhigyn newydd.

Llyffant Mawr America

Mae llyffant mawr America yn bwyta bron i bob rhywogaeth arall, ac mae'n cludo clefyd sydd wedi difa nifer o boblogaethau llyffaint a brogaod eraill yn llwyr. Mae'n bridio'n gyflym, gyda bob benyw yn dodwy hyd at 30,000 o wyau'r tro.

Y wiwer lwyd

Mae'r wiwer lwyd wedi lledaenu'n eang, gyda phoblogaeth o oddeutu 2 miliwn erbyn hyn. Maent yn achosi difrod i goetir, ac maent yn bennaf gyfrifol am y gostyngiad yn niferoedd y wiwer goch yn Lloegr. Maent yn gryfach ac yn gallu addasu'n well na'r wiwer goch a gallant gludo'r feirws Brech y gwiwerod, sy'n lladd gwiwerod coch.

Mae rhestr o rai o'r prif rywogaethau anfrodorol, disgrifiadau a lluniau ar gael ar y wefan Rhywogaethau Anfrodorol.

Mae rhagor o gyngor am sut mae delio â phlanhigion ymledol a chwyn sy'n achosi difrod yn yr adran 'Cartref a chymuned'.

Sut mae rhywogaethau anfrodorol yn cyrraedd yma?

Bydd pobl yn dod â rhai planhigion ac anifeiliaid anfrodorol i'r wlad yma'n fwriadol. Weithiau byddant yn dod i'r wlad ar ddamwain - gellir cludo pryfed, anifeiliaid bach, hadau, a darnau o blanhigion yn ddamweiniol ar fagiau neu mewn cargo sy'n cael eu cludo'n rhyngwladol.

Sut gallwch chi atal lledaeniad rhywogaethau anfrodorol

Mae camau gallwch chi eu cymryd i atal planhigion ac anifeiliaid anfrodorol rhag lledaenu tu hwnt i reolaeth.

Planhigion

Pan fyddwch yn prynu planhigion neu hadau, neu ddeunydd gardd compostio, gallwch gymryd rhai rhagofalon i stopio rhywogaethau anfrodorol rhag lledaenu:

  • ceisiwch ddefnyddio planhigion sy'n frodorol i'r DU
  • gwaredwch ddeunydd planhigion neu wastraff gardd yn gyfrifol bob tro - peidiwch â'i ddympio

Mae cyfyngiadau ar y math a faint o blanhigion cewch ddod yn ôl gyda chi o dramor. Mae rhagor o fanylion am y cyfyngiadau hyn ar gael yn y daflen 'If in Doubt, Leave it Out' gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

Anifeiliaid

Mae nifer o gyfyngiadau ar ddod ag anifeiliaid i'r DU, a bydd angen trwydded arnoch chi i ddod â'r rhan fwyaf o anifeiliaid anfrodorol yma. Mae'r cyfreithiau mewnforio anifeiliaid yn helpu i amddiffyn cnydau a bywyd gwyllt brodorol, atal clefydau megis y gynddaredd a stopio'r fasnach mewn rhywogaethau sydd mewn perygl.

Ni chaiff rhai anifeiliaid ddod i mewn i'r DU oherwydd y perygl i fywyd gwyllt brodorol. Bydd angen gwirio anifeiliaid eraill am glefydau cyn iddynt gael dod i mewn.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod â phlanhigion ac anifeiliaid i'r DU, llwythwch y daflen i lawr ar fewnforio planhigion ac anifeiliaid anfrodorol oddi ar wefan Defra.

Rhyddhau anifeiliaid anfrodorol i'r gwyllt

Os ydych chi'n mewnforio neu'n cadw anifail sy'n anfrodorol yn y DU, rhaid i chi sicrhau na fydd yn dianc. Chi sy'n gyfrifol am les yr anifail a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei gadw'n ddiogel ac yn saff.

Os bydd eich anifail yn dianc, neu os ydych yn ei ryddhau i'r gwyllt, gellir eich erlyn dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Mewn rhai achosion gallwch gael trwydded i ryddhau anifeiliaid anfrodorol i'r gwyllt. I gael mwy o wybodaeth am drwyddedau i ryddhau bywyd gwyllt anfrodorol i'r gwyllt edrychwch ar wefan Natural England.

Additional links

Ei wneud ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU