Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae nifer o rywogaethau anfrodorol o blanhigion yn bodoli yn y DU heb achosi problem, ond mae rhai'n mynd yn ymwthiol. Maen nhw'n tarfu ar gydbwysedd yr ecosystem am eu bod nhw'n fwy, yn tyfu'n gynt neu'n fwy ymosodol na'r rhywogaethau brodorol, ac yn aml gallant oresgyn rhai gerddi yn llwyr.
Gallwch gymryd sawl cam i atal lledaeniad planhigion ymwthiol:
I gael rhagor o wybodaeth am sut i helpu wrth rwystro ymlediad planhigion anfrodorol ymwthiol
cliciwch ar y ddolen isod.
Tri o'r planhigion anfrodorol mwyaf ymwthiol yw Canclwm Japan, yr Efwr Enfawr a'r Ffromlys Chwarennog.
Canclwm Japan
Ymddengys nad oes gan Ganclwm Japan unrhyw elynion naturiol ym Mhrydain ac mae'n anodd ei reoli. Gall darnau bychain (cyn lleied â 0.7 gram o'i wreiddyn) gynhyrchu planhigyn hyfyw. Gall y planhigyn hwn dyfu cymaint â 2 gentimedr y dydd, ac fe wnaiff dyfu mewn unrhyw fath o bridd, waeth pa mor sâl ydyw. Gall dyfu drwy waliau a choncrid hefyd.
Mae'r planhigyn yn creu clystyrau trwchus hyd at 3 metr o uchder. Mae ganddo ddail mawr, gwyrdd, trionglog a choesyn gwag, yn debyg i fambŵ ond yn aml â brychni coch tywyll. Mae Canclwm Japan yn cynhyrchu blagur bras cochlyd. Gall y rhain gyrraedd uchder o 1.5 metr erbyn mis Mai a 3 metr erbyn mis Mehefin.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y planhigyn hwn a sut mae ei reoli a chael gwared arno gan Asiantaeth yr Amgylchedd, fforwm Canclwm Dyfnaint a Natural England (ffôn 0117 959 8622).
Yr Efwr Enfawr
Mae gan yr Efwr Enfawr goesyn gwyrdd ac arno batsys coch tywyll neu biws a dail gwyrdd tywyll pigog. Gall y planhigyn dyfu hyd at 5 metr. Mewn ardaloedd lle mae'r pridd yn llaith, fel ar lan afon, y mae'n tyfu fel arfer.
Gall pen pob blodyn gynhyrchu hyd at 50,000 o hadau, sy'n cael eu cludo'n hawdd gan ddŵr. Gall hadau aros yn fyw am hyd at 15 mlynedd, felly rhaid bod yn ofalus iawn wrth eu gwaredu.
Gall yr Efwr Enfawr gael effaith andwyol ar y croen. Fel arfer, gellir gweld y symptomau o fewn 24 awr. Gall y croen chwyddo, a gall pothelli ymddangos, a'r rheini'n gwaethygu yn yr haul. Os nad ydych chi'n teimlo'n dda ar ôl i chi ddod i gysylltiad ag Efwr Enfawr, siaradwch â'ch meddyg.
Rhestrir Canclwm Japan a'r Efwr Enfawr yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Golyga hyn ei bod yn anghyfreithlon eu plannu yn y gwyllt. Caiff gwastraff o rai planhigion anfrodorol ei reoli gan y gyfraith ac felly rhaid cydymffurfio â rheoliadau penodol wrth gael gwared ar y fath ddeunydd.
Y Ffromlys Chwarennog
Daethpwyd â'r Ffromlys Chwarennog i Brydain am y tro cyntaf yn y 19eg ganrif. Mae ganddo goesau cochbinc a dail gwyrdd tywyll. Mae'n tyfu'n gyflym a gall gyrraedd hyd at 2 i 3 metr o uchder. Gall y planhigyn gynhyrchu llawer o hadau. Bydd yr hadau'n cael eu creu mewn capsiwlau ac wrth i'r rhain ffrwydro, teflir yr hadau sawl metr.
Caiff pum planhigyn neilltuol eu dosbarthu fel chwyn 'niweidiol', neu chwyn niweidiol o dan y Ddeddf Chwyn 1959. Dyma’r pum planhigyn:
Mae Llysiau'r Gingroen yn niweidiol i geffylau a da byw, a gall y planhigyn eu lladd. Mae pob rhan o'r planhigyn yn wenwynig.
Cysylltwch â Chymdeithas Genedlaethol y Contractwyr Amaethyddol er mwyn cael rhestr o gontractwyr a gymeradwyir i reoli chwyn niweidiol - neu ffoniwch 01733 362920.
Os yw'r mathau hyn o chwyn yn tyfu ar eich tir, nid yw hynny'n drosedd. Fodd bynnag, ni ddylid gadael iddynt ymledu i dir amaethyddol, yn enwedig tir pori neu dir a ddefnyddir i gynhyrchu bwyd i anifeiliaid. Efallai y bydd Natural England yn cyhoeddi rhybudd gorfodi er mwyn rhwystro ymlediad chwyn niweidiol i dir amaethyddol.
Os ydych chi'n amau bod chwyn niweidiol ar dir gerllaw mae nifer o fudiadau y gallwch gysylltu â nhw: