Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall rhai rhywogaethau adar fod yn niwsans, gan wneud sŵn, baeddu a hyd yn oed difrodi eiddo. Fodd bynnag, mae pob aderyn yn y DU yn cael eu gwarchod gan y gyfraith. Yma, cewch wybod am yr opsiynau posib wrth ddelio â phroblemau sy’n ymwneud ag adar.
Mae dewis y peth gorau i’w wneud yn hanfodol, gan ei bod hi’n anghyfreithlon i niweidio adar yn fwriadol neu eu lladd. Nid oes hawl gennych ddwyn wyau adar, ac mae tarfu, niweidio neu ddinistrio nythod yn erbyn y gyfraith.
Mae amrywiaeth eang o dechnegau ar gyfer delio â'r niwsans sy'n cael ei greu gan adar. Mae hyn yn cynnwys:
Defnyddio rhwydi
Enghraifft o ddefnydd da o’r rhwydi yw gyda’r Wylan Benwaig. Mae’r wylan fel arfer yn nythu ar doeau lle gallant fod yn niwsans gyda’u sŵn ac wrth hedfan at bobl. Gall roi rhwydi dros y safle cyn i’r gwylanod ddychwelyd yn y gwanwyn atal y broblem rhag ailgodi.
Adnabod aderyn
Os cewch chi broblemau gydag adar, mae'n werth nodi pa fath o aderyn sy'n achosi'r broblem. Gallai effeithio ar yr hyn y gallech ei wneud ynghylch y broblem. Er enghraifft, mae tarfu ar adar sydd dan warchodaeth arbennig tra eu bod ar y nyth neu gerllaw’r nyth yn anghyfreithlon, felly ni fyddai codi ofn arnynt yn addas.
Dilynwch y dolenni isod er mwyn:
Ni fydd pob cam y byddwch yn ei gymryd yn ateb hirdymor. Mae’r gyfraith yn cydnabod y gallech gymryd camau mewn rhai amgylchiadau a fyddai fel arfer yn cael ei ystyried yn drosedd (gelwir hyn yn ‘trwyddedu’). Dim ond ar gyfer math arbennig o broblem y cynigir trwyddedau:
Cysylltwch â Natural England am wybodaeth ynghylch sefyllfaoedd lle mae trwyddedu’n berthnasol.
Mae’n bosib gall y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA) roi cyngor i chi ynghylch sut mae delio gydag adar sy’n niwsans ac adar weddi’u hanafu.
Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar
Gall yr RSPB gynnig cyngor i chi am adar a chyfreithiau sy’n ymwneud ag adar, ond nid ydynt yn casglu cywion nac adar wedi’u gadael – dylech adael y rheini lle cawsoch hyd iddynt. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy am adar gwyllt a’r gyfraith.
Y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid
Gall yr RSPCA neu bractis milfeddygol preifat eich cynghori ynghylch beth i’w wneud gydag adar wedi’u hanafu.
Dim ond rhywfaint o sgôp sydd gan gynghorau lleol i ddelio â phroblemau sy’n ymwneud ag adar gan nad ydyw’n gyfrifoldeb arnyn nhw fel arfer. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib y byddant yn gweithredu dan drwydded gyffredinol i leihau colomennod gwyllt neu niferoedd y gwylanod am resymau’n ymwneud ag iechyd cyhoeddus.