Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwasanaethau rheoli pla

Mae cynghorau'n darparu gwasanaethau rheoli pla i eiddo domestig a masnachol er mwyn cael gwared ar lygod mawr, llygod bach a phryfed cyffredin sy'n bla megis cacwn.

Plâu y bydd cynghorau yn delio â hwy

Yn y rhan fwyaf o achosion, fe wnaiff adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor ddarparu gwasanaethau rheoli pla ar gyfer amrywiol bryfed a llygod sy'n bla, gan gynnwys:

  • llygod bach
  • llygod mawr
  • chwain
  • morgrug
  • chwain gwely
  • chwilod carped
  • chwilod du
  • cacwn

Nid yw cynghorau'n darparu fel arfer ar gyfer rheoli anifeiliaid mwy megis ceirw, llwynogod, cwningod, gwiwerod, tyrchod daear neu adar.

Mae cynghorau lleol yn gyfreithiol gyfrifol am gadw'u hardaloedd yn rhydd rhag cnofilod megis llygod a llygod mawr, cyn belled ag y bo hynny'n ymarferol.

Rhoi gwybod i'ch cyngor am broblemau gyda phla

Codir ffi fechan fel arfer am y gwasanaeth rheoli pla. Fodd bynnag, darperir gwasanaeth rheoli pla am ddim mewn cartrefi pobl sy'n derbyn budd-dal sy'n gysylltiedig ag incwm. Os oes gennych nifer fawr o gnofilod (llygod mawr neu lygod bach) ar eich tir (ac nad yw'r tir yn dir amaethyddol) yna rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol.

Fe all y cyngor ofyn i dirfeddianwyr a phreswylwyr reoli pla o gnofilod ar eu tir neu gallant wneud y gwaith rheoli eu hunain ac adfer y gost gan y tirfeddiannwr neu'r preswylydd. Nid yw cynghorau'n darparu fel arfer ar gyfer rheoli anifeiliaid mwy megis ceirw, llwynogod, cwningod, gwiwerod, tyrchod daear neu adar.

Bydd y dolenni isod yn gofyn i chi roi manylion ble'r ydych yn byw ac yna'n mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol ble gallwch gael mwy o wybodaeth am adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor neu roi gwybod am broblem gyda phla.

Delio â phroblemau eich hun

Efallai bod modd i chi drin mân broblemau gyda phla eich hun drwy ddefnyddio cynnyrch sydd ar gael mewn canolfannau garddio neu siopau DIY. Efallai y bydd eich cyngor yn gwrthod trin ar gyfer llygod mawr neu lygod bach lle rydych chi'ch hun wedi gosod abwyd yn ddiweddar, ac ni fyddant fel arfer yn bwrw ymlaen â gwaith a wnaed gan gwmnïau rheoli pla preifat.

Os bydd eich triniaeth eich hun yn aflwyddiannus neu nad ydych chi am ddefnyddio plaladdwyr neu drapiau eich hun, dylech gysylltu ag adran iechyd yr amgylchedd eich cyngor.

Mae adar a rhai anifeiliaid megis ystlumod yn cael eu gwarchod gan y gyfraith ac mae'n bosib y bydd angen cyngor arnoch gan y Gwasanaeth Datblygu Gwledig (fydd yn rhan o Natural England yn Hydref 2006), cyn ceisio cael gwared â nhw.

Allweddumynediad llywodraeth y DU