Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Delio â phlanhigion goresgynnol

Mae rhai mathau o chwyn yn niweidiol i anifeiliaid, a cheir rhai rheolau cyfreithiol ynghylch modd y rheolir planhigion penodol. Mae'r rheolau hyn yn cael eu nodi yn Neddf Chwyn 1959. Yma, cewch wybod beth i'w wneud i atal chwyn niweidiol rhag ymledu.

Chwyn niweidiol

Mae pum planhigyn penodol yn cael eu hystyried yn chwyn 'niweidiol', a nodir y rhain yn Neddf Chwyn 1959.

Dyma’r pum planhigyn :

  • Llysiau'r Gingroen
  • Marchysgall
  • Ysgall y Maes
  • Tafol Crych
  • Dail Tafol

Mae'r gingroen yn arbennig yn niweidiol i geffylau a da byw gan fod pob rhan o'r planhigyn yn wenwynig. Os bydd Llysiau'r Gingroen yn cronni mewn anifail, gall ei ladd. Mae'r gingroen yn niweidiol pan mae'n wyrdd neu pan mae wedi sychu mewn porthiant, ond mae ceffylau a da byw yn fwy tebygol o'i fwyta pan mae wedi sychu. Mae'r broblem yn effeithio'n arbennig ar wartheg, ceffylau, merlod ac asynnod. Cewch wybod mwy am y gingroen gan English Nature a hefyd gan Gymdeithas Ceffylau Prydain.

Rheoli chwyn niweidiol rhag iddynt ymledu

Deiliaid y tir sy'n gyfrifol am reoli chwyn niweidiol rhag iddynt ymledu. Fodd bynnag, os oes perygl i un o'r pum planhigyn niweidiol ymledu i dir cyfagos, mae'r Ddeddf Chwyn yn rhoi'r grym i Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) gyflwyno hysbysiad gorfodi i berchennog neu ddeilydd y tir i atal y chwyn rhag ymledu i dir cyfagos. Mae’n drosedd peidio â chydymffurfio â rhybudd o'r fath heb reswm digonol.

Os ydych chi'n amau bod chwyn niweidiol yn tyfu ar dir gerllaw i chi, gallwch gysylltu â nifer o sefydliadau yn dibynnu ar lle mae'r chwyn yn tyfu:

  • ar gyfer tir preifat, cysylltwch ag adran Chwyn Niweidiol Defra
  • ar gyfer lleiniau o dir ar fin ffyrdd bach neu dir ym mherchnogaeth y cyngor, cysylltwch â'ch cyngor lleol
  • ar gyfer lleiniau o dir ar briffyrdd mawr (cefnffyrdd) neu draffyrdd, cysylltwch â'r Asiantaeth Priffyrdd
  • ar gyfer tir rheilffordd neu argloddiau cysylltwch â Network Rail

Allweddumynediad llywodraeth y DU