Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael gwared ar chwain

Parasitiau yw chwain sy'n bwydo oddi ar anifeiliaid gwaed-cynnes megis cathod a chŵn. Maen nhw'n achosi annifyrrwch a bydd anifeiliaid anwes yn aml yn crafu neu'n cnoi eu hunain i geisio atal y cosi. Fe all chwain cathod a chŵn frathu pobl hefyd gan achosi annifyrrwch ar y croen ac adwaith alergaidd.

Mae chwain aeddfed yn 2mm o hyd, does ganddyn nhw ddim adenydd ac maen nhw'n amrywio o ran lliw o ryw frown llwydaidd i frown tywyll. Maen nhw wedi ymaddasu'n dda i'w ffordd o fyw - mae eu 'harfwisg' yn ei gwneud hi bron yn amhosib i'w gwasgu, ac mae eu corff cul yn gadael iddyn nhw symud o gwmpas yn gyflym o gwmpas blew neu blu. Mae eu coesau ôl yn hynod o gryf sy'n golygu eu bod yn gallu neidio'n uchel iawn. Y tri math o chwain a geir yn y DU yw chwannen y gath (y fwyaf cyffredin yng nghartrefi Prydain), chwannen y ci a'r chwannen ddynol (prin iawn).

Pam eu bod nhw'n broblem?

Fe wyddon ni bod chwain yn cario clefydau ac maen nhw hefyd yn gallu bod yn gyfrifol am drosglwyddo llyngyr parasitaidd megis llyngyr cun. Yn y DU, fodd bynnag, nid yw chwain fel arfer yn gyfrifol am ledaenu heintiau, ond maen nhw'n gallu ac maen nhw'n brathu'r sawl maen nhw'n byw arno a hynny'n ddigon cas. Mewn pobl, bydd brathiadau gan chwain yn ymddangos fel smotyn coch tywyll bach gydag ardal goch o'i hamgylch. Bydd y brathiad yn cosi am ychydig o ddiwrnodau. Weithiau, bydd pobl yn mynd yn arbennig o sensitif i'r rhain.

Sut maen nhw'n magu?

Bydd chwain yn mynd drwy dri cham cyn dod allan fel oedolion. Mae wyau chwain yn rhy fach i'w gweld gyda'r llygad. Byddan nhw'n cael eu dodwy mewn amrywiaeth o lefydd gan gynnwys blew'r sawl lle mae'r chwain yn byw neu yn ei wely. Bydd yr wyau'n dodwy mewn oddeutu wythnos gan droi'r larfa bach heb goesau, sy'n bwydo ar amrywiaeth o bryfed marw, darnau o groen a baw'r chwannen aeddfed. Bydd larfa chwain yn hoffi byw mewn mannau tywyll llaeth, megis carpedi a gwelyau anifeiliaid. Wedyn, bydd y larfa'n troi'n chwiler, ac ar ôl tua thair wythnos, bydd yr oedolion yn deor gan ymateb i ddirgryniadau lletywr sy'n mynd heibio. Bydd y cylch oes cyflawn fel arfer yn cymryd pedair wythnos, ond fe allai gymryd mwy o amser ar dymheredd isel.

Beth allwch chi ei wneud i atal chwain yn eich cartref

Bydd cathod a chun yn codi chwain yn yr awyr agored gan fod anifeiliaid gwyllt fel arfer yn cario llawer o chwain. Dyma rai o'r camau y gallech eu cymryd i atal problemau gyda chwain:

  • golchi gwely anifeiliaid anwes bob wythnos (fel arfer, bydd wyau'n cael eu dodwy yn y fan lle mae'r anifail yn cysgu)
  • defnyddiwch y peiriant sugno llwch ar garpedi, matiau, dodrefn meddal, ac o gwmpas y sgertin bob wythnos, glanhewch eich carpedi a'ch matiau â stêm bob yn hyn a hyn
  • wrth osod llawr newydd, ystyriwch roi llawr pren neu wyneb arall sy'n hawdd i'w lanhau
  • cribwch flew eich anifail yn rheolaidd (bob dydd yn yr haf) gan ddefnyddio crib fetel â dannedd mân (ar gael yn yr archfarchnadoedd ayb ac mae'n fwy effeithiol o lawer na chrib blastig) - gallwch foddi unrhyw chwain a gesglir mewn powlen o ddur a sebon

Beth allwch chi ei wneud i gael gwared ar chwain

Os oes modd, ceisiwch ganfod ffynhonnell y broblem. Yn aml iawn, bydd hyn yn golygu un o anifeiliaid anwes y teulu. Os tybiwch chi mai anifail anwes yw'r ffynhonnell, dylech holi eich milfeddyg a fydd yn gallu cadarnhau eich amheuon ai peidio. Mae'n bosib trin anifeiliaid anwes gyda chwistrell aer sy'n cynnwys pryfleiddiad, hylif i'w dywallt arnyn nhw neu dabled. Bydd eich milfeddyg yn esbonio ymhle a sut i ddefnyddio'r pethau hyn ac fe all hyn gynnwys trin gwely'r anifail. Dylech wastad ddilyn y cyfarwyddiadau ar gyfer defnyddio'r pethau hyn yn ofalus.

Gallwch drin eich cartref eich hun gyda chwistrell aer sy'n cynnwys pryfleiddiad a fwriedir at y diben hwn, ond unwaith eto, mae'n bwysig dilyn y cyfarwyddiadau. Holwch eich milfeddyg neu'r swyddog rheoli pla yn eich cyngor lleol i gael gwybod beth sydd ar gael. Neu, fe all y swyddog rheoli pla drin eich cartref gyda chyfuniad o bryfleiddiaid a deunyddiau sy'n atal chwain rhag datblygu.

Allweddumynediad llywodraeth y DU