Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Cael gwared ar lygod a llygod mawr

Gall llygod a llygod mawr achosi llawer o broblemau gan gynnwys lledaenu afiechydon ac achosi difrod drwy gnoi drwy strwythurau a cheblau. Mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd i reoli ac atal pla.

Nodi'r broblem

Mae llygod tŷ yn fach, fel arfer rhwng saith a naw centimedr o hyd, ac yn llwyd. Mae llygod tŷ fel arfer yn effro yn y nos, er mae'n bosib y gwelwch chi nhw yn ystod y dydd. Maen nhw'n gwneud eu nyth gyda deunydd ffibraidd wedi'i rwygo megis papur ac maen nhw'n edrych yn debyg i bêl o ddeunydd wedi'i weu'n llac at ei gilydd, fel arfer tua 12 i 15 modfedd o hyd. Mae'n bosib y gwelwch chi rywfaint o fwyd ac ôl cnoi arno a darnau bach o faw llygod.

Mae llygod mawr yn fwy (32cm i 43cm) o'u trwyn i'w cynffon ac maent yn llwyd-frown gyda chynffon hir foel. Yr arwydd mwyaf cyffredin bod pla o lygod mawr wrth law yw eu bod yn gadael eu baw wrth ymyl ffynonellau bwyd, ynghyd â thystiolaeth o gnoi, marciau rhwbio, olion, tyllau tyrchu a nythod.

Mae llygod a llygod mawr yn llygru'r amgylchedd lle maen nhw'n byw gyda'u hwrin, eu baw a'u blew. Maen nhw'n gallu cario amrywiaeth fawr o glefydau y gellir eu trosglwyddo i bobl, naill ai drwy lygru bwyd yn uniongyrchol gyda'u baw a'u hwrin, neu drwy lygru arwynebau. Gall llygod mawr yn enwedig gario Clefyd Weils, sy'n gallu lladd rhywun, ac mae oddeutu 15 i 30 y cant o lygod mawr yn ei gario.

Maen nhw hefyd yn gallu achosi difrod strwythurol mawr i eiddo. Maen nhw'n gallu cnoi i mewn i lawer o wahanol ddeunyddiau. Mae risg sylweddol o dân a thrydaneiddio o ganlyniad i lygod a chnofilod yn cnoi drwy geblau a gwifrau trydan yn enwedig.

Lleihau'r risg o lygod bach a llygod mawr yn eich cartref

Mae'n bosib cadw llygod bach a llygod mawr draw ac atal pla drwy wella hylendid eich cartref a chau unrhyw lefydd lle gallant ddod i mewn:

  • gwnewch yn siŵr fod briciau aer yn eu lle ac yn gyfan (peidiwch â'u blocio)
  • edrychwch o gwmpas peipiau nwy, trydan a dŵr i weld a oes tyllau mynediad
  • gwnewch yn siŵr bod eich drysau'n cau'n dynn
  • rhowch gôn o gwmpas gwaelod peipiau draeniau i atal llygod mawr rhag dringo i fyny
  • rhowch falun metel ar waelod peipiau draeniau i'w hatal rhwng dringo i fyny'r tu mewn iddynt

Bydd gwella hylendid yn golygu bod llai o fwyd ar gael i lygod a llygod mawr, sy'n golygu bod llai o siawns iddyn nhw aros yno a magu'n llwyddiannus. Dyma ambell enghraifft o sut i wella hylendid:

  • cadwch eich bwyd yn ofalus fel nad oes ffynhonnell fwyd ar gael iddynt yn rhwydd
  • glanhewch unrhyw beth gollwch chi ar lawr ar unwaith
  • symudwch sbwriel a deunyddiau eraill y gall llygod eu defnyddio
  • glanhewch o dan unedau gweithio a llefydd eraill lle gall gweddillion bwyd hel

Rheoli llygod

Weithiau, fe gewch chi broblem gyda llygod tŷ er eich bod yn cadw'r lle'n lân ac yn ceisio'u cadw allan. Dan amgylchiadau fel hyn, bydd rhaid i chi gymryd camau rheoli er mwyn atal y pla. Mae dau ddull ar gael:

  • trapio
  • rhoi abwyd sy'n wenwyn

Os oes gennych broblem gyda llygod ac nad ydych chi'n awyddus i ddelio â hyn eich hun, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd yn eich cyngor lleol neu cysylltwch â chwmni rheoli pla.

Mae'r daflen gan Defra 'Llygod tŷ' yn rhoi cyngor i chi am y gwahanol ddulliau y gallwch eu defnyddio i gael gwared ar lygod.

Rheoli llygod mawr

Cyn ceisio mynd i'r afael â phroblem llygod mawr eich hun, mae'n hanfodol cael gwybod ymhle maen nhw'n byw, yn bwyta ac yn yfed a'r llwybrau maen nhw'n eu dilyn rhwng yr ardaloedd hyn. Chwiliwch am:

  • dyllau ac olion tyrchu
  • rhedfeydd a llwybrau
  • baw
  • olion traed
  • arwyddion eraill megis gweld llygoden neu oglau mysglyd

Ceisiwch gael gwybod sut mae'r llygod mawr yn mynd i mewn i'ch cartref (gallwch wneud hyn drwy gau unrhyw dyllau gyda phapur newydd (neu rywbeth tebyg) a dod yn ôl ymhen 24 awr i weld pa dyllau sydd wedi'u hailagor). Yna, gallwch gymryd camau ataliol i gau'r tyllau mynediad yn barhaol.

Os oes gennych broblem gyda llygod mawr ac nad ydych chi'n awyddus i ddelio â hyn eich hun, cysylltwch ag adran iechyd yr amgylchedd yn eich cyngor lleol neu cysylltwch â chwmni rheoli pla.

Mae'r daflen gan Defra 'Nodyn Cyngor Technegol 04 - Gwasanaeth Datblygu Gwledig - Llygod Mawr' yn rhoi cyngor i chi am y gwahanol ddulliau y gallwch eu defnyddio i gael gwared ar lygod mawr.

Allweddumynediad llywodraeth y DU