Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae rheolau llym ar gyfer dod â rhai mathau o fwydydd a chynnyrch cysylltiedig, megis crwyn anifeiliaid, i mewn i wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) oherwydd gallant gludo plâu a chlefydau anifeiliaid a phlanhigion. Mae’r adran hon yn esbonio’r rheolau ar gyfer beth yn union y gallwch ddod yn ôl gyda chi o’ch teithiau.
Os byddwch yn dod â bwyd neu blanhigion yn ôl i'r DU ar gyfer eich defnydd chi, mae'n cael ei alw'n 'fewnforio personol'. Chewch chi ddim mewnforio cig neu gynnyrch cig a llaeth/cynnyrch llaeth at eich defnydd personol o'r rhan fwyaf o wledydd y tu allan i'r UE.
Mae rheolaethau llym hefyd yn gysylltiedig â dod â'r cynhyrchion canlynol i mewn i'r DU:
Mae'r un rheolau'n berthnasol:
Os dowch ag eitemau gwaharddedig i mewn i'r wlad, neu eitemau sydd dros y terfynau maint a phwysau penodedig, bydd yr holl nwyddau'n cael eu cadw a'u dinistrio.
Crwyn anifeiliaid
Os ydych am ddod â chrwyn anifeiliaid (naill ai gyda neu heb flew/ffwr) i mewn i’r DU, mae’n rhaid iddynt fod wedi cael eu trin. Does dim terfyn penodol ar faint y gallwch ddod â chi.
Gellir defnyddio crwyn anifeiliaid ar gyfer rygiau a chrogluniau neu i roi clawr ar ddrymiau, er enghraifft. Y broses o galedu’r crwyn drwy ddefnyddio cyfryngau llysieuol neu gemegol yw trin (‘tanning’ yn Saesneg). Mae perygl difrifol o gael anthracs drwy drafod crwyn anifeiliaid sydd heb gael eu trin. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan yr Asiantaeth Diogelu Iechyd.
Rhywbeth i’w datgan?
Y sianelau coch neu wyrdd yw'r mannau yr ydych yn cerdded trwyddynt i adael meysydd awyr, gorsafoedd trenau rhyngwladol a phorthladdoedd.
Os ydych yn ansicr ynghylch unrhyw gynnyrch bwyd yr ydych yn dod i mewn i’r wlad gyda chi, siaradwch gyda swyddog Asiantaeth Ffiniau'r Deyrnas Unedig yn y sianel goch neu ar ffôn y man coch. Os bydd eich cynhyrchion yn anghyfreithlon, bydd y nwyddau'n cael eu cadw a'u dinistrio ond ni chymerir rhagor o gamau yn eich erbyn (er enghraifft dirwy neu erlyn).
Os ewch drwy'r sianel werdd a swyddogion Asiantaeth Ffiniau'r DU yn dod o hyd i eitemau nad ydych wedi'u datgan, gallech wynebu oedi hir, bydd y nwyddau'n cael eu cadw a'u dinistrio a gallech gael eich erlyn.
Darllenwch y rheolau cyn i chi deithio drwy ddefnyddio'r dolenni isod neu drwy ffonio Llinell Gymorth Defra ar 08459 335 577. Dylai galwyr o du allan y DU ffonio +44 (0)207 238 6951.