Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Datgan arian wrth ddod i'r DU neu wrth adael

Os ydych yn teithio i wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd neu oddi yna bydd yn rhaid i chi ddatgan unrhyw arian parod dros 10,000 ewro neu fwy (neu swm cyfwerth mewn arian cyfred arall) i Gyllid a Thollau EM. Cewch wybod yma beth y mae angen i chi ei wneud i ddatgan arian wrth ddod i’r DU neu wrth adael.

Pryd y bydd angen i chi ddatgan arian

Dim ond os ydych yn dod i’r DU neu’n gadael y DU o wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac yn cario arian parod o 10,000 ewro neu fwy, neu swm cyfwerth mewn arian cyfred arall, y bydd angen i chi ddatgan arian.

Diffiniad o’r Undeb Ewropeaidd

Yng nghyswllt datgan arian, mae’r Undeb Ewropeaidd yn cynnwys:

yr Almaen, Awstria, Bwlgaria, Cyprus, Denmarc, y Deyrnas Unedig (heb gynnwys Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel), yr Eidal, Estonia, y Ffindir, Ffrainc, Gibraltar, Groeg, Gwlad Belg, Gwlad Pwyl, Hwngari, yr Iseldiroedd, Iwerddon, Latfia, Lithwania, Lwcsembwrg, Malta, Portiwgal, Rwmania, Sbaen (gan gynnwys yr Ynysoedd Dedwydd), Slofacia, Slofenia, Sweden a’r Weriniaeth Tsiec.

Diffiniad o arian

Mae'r term ‘arian’ yn cynnwys:

  • darnau a phapurau arian
  • drafftiau banc
  • sieciau o bob math, gan gynnwys sieciau teithio

Sut mae datgan arian wrth Gyllid a Thollau EM

Rhaid i chi ddatgan arian ar ffurflen C9011, a phostio rhan uchaf Copi 1 wedi'i llenwi yn y blwch priodol a ddarperir yn y porthladd neu'r maes awyr.

Gallwch gael y ffurflen hon yn y porthladd neu’r maes awyr a’i llenwi yno, neu gallwch ei llwytho a’i hargraffu drwy ddilyn y ddolen isod.

Gall Swyddogion Tollau Asiantaeth Ffiniau'r DU ofyn am gael gweld tystiolaeth eich bod wedi datgan arian. O’r herwydd, mae’n bwysig i chi gadw copi o’r ffurflen orffenedig. Os cewch y ffurflen yn y porthladd neu’r maes awyr, gwneir copi carbon yn awtomatig wrth i chi lenwi’r ffurflen, a dyma fydd Copi 2 y ffurflen. Os byddwch yn llwytho’r ffurflen a’i hargraffu, bydd angen i chi wneud llungopi o Gopi 1. (Nid oes angen i chi lenwi Copi 2 y ffurflen a lwythwyd i lawr.)

Os na fyddwch yn datgan yr arian neu os byddwch yn rhoi gwybodaeth anghyflawn neu ffug, mae'n bosib y byddwch yn cael dirwy.

Eich hawliau os cymerir meddiant o'ch arian

Ni fydd swyddogion Asiantaeth Ffiniau'r Deyrnas Unedig yn cadw arian sydd wedi'i ddatgan onid oes ganddynt sail resymol dros amau y bwriedir ei ddefnyddio'n anghyfreithlon neu ei fod wedi'i ennill drwy ddulliau anghyfreithlon. Ni ellir cadw arian y cymerir meddiant ohono am fwy na 48 awr heb orchymyn llys (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus a phenwythnosau).

Gall llys orchymyn bod yr arian y cymerwyd meddiant ohono:

  • yn cael ei gadw tra cynhelir ymchwiliadau
  • yn cael ei gadw’n barhaol os bydd yr ymchwiliad yn dangos ei fod yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol

Os meddiannir eich arian, fe gewch chi wybodaeth sy’n egluro sut y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad.

Cael rhagor o gymorth a chyngor ynghylch datgan arian

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ynghylch datgan arian wrth ddod i'r DU neu wrth adael, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Masnach Genedlaethol a Thollau Tramor a Chartref drwy ddilyn y ddolen isod.

Additional links

Gwirio pa fwydydd o wledydd tramor y gellir eu mewnforio

Cael gwybod beth y gallech ac na allech fewnforio pan yr ydych yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU