Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofroddion a rhywogaethau dan fygythiad

Meddyliwch ddwywaith cyn prynu cofrodd a wnaed o gynhyrchion anifeiliaid neu blanhigion. Os yw'r gofrodd wedi'i gwneud o rywogaeth sydd dan fygythiad, mae'n bosib na chewch ddod â'r gofrodd yn ôl gyda chi, a gallech gael eich erlyn hyd yn oed. Yma cewch wybod beth y dylech ei osgoi ac ar gyfer pa eitemau y mae angen trwydded arnoch i ddod â hwy'n ôl i'r DU.

Beth i gadw llygad amdano wrth siopa dramor

Mewn rhai gwledydd, mae'n bosib defnyddio planhigion neu anifeiliaid dan fygythiad i wneud anrhegion neu fwydydd. Dyma rai rhywogaethau sydd dan fygythiad:

  • planhigion fel tegeirian, coed mahogani, cactws a ramin
  • anifeiliaid fel eliffantod, rhinoseros, morfilod, crwbanod, cwrel a nifer o ymlusgiaid

Ni ddylech brynu cofrodd bywyd gwyllt oni bai eich bod yn siŵr na ddefnyddiwyd rhywogaethau dan fygythiad i greu'r gofrodd. Rydych mewn perygl o dorri'r gyfraith a chael swyddogion y tollau yn mynd â'ch nwyddau oddi arnoch pan fyddwch yn dychwelyd i'r DU os nad ydych chi'n gwybod:

  • o ble ddaeth y gofrodd
  • a oes angen trwydded arnoch ai peidio i ddod â'r gofrodd i'r Undeb Ewropeaidd (UE)

Gallech hyd yn oed gael eich erlyn mewn rhai achosion.

Rhywogaethau sydd dan fygythiad ac wedi'u gwarchod

Caiff dros 33,000 o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion dan fygythiad eu gwarchod drwy'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl (CITES). Mae CITES yn rheoleiddio masnachu rhyngwladol drwy system o dystysgrifau a thrwyddedau.

Gwaherddir rhywogaethau sydd fwyaf dan fygythiad rhag cael eu masnachu'n rhyngwladol.

Mae rhywogaethau eraill sydd dan fygythiad wedi'u gwarchod, ac mae angen trwydded CITES arnoch os ydych am ddod ag unrhyw gynhyrchion sy'n cynnwys y rhywogaethau hyn, neu a wneir ohonynt, i'r UE.

Mae Gwasanaeth Trwyddedu a Chofrestru Bywyd Gwyllt yr asiantaeth Iechyd Anifeiliaid yn cyhoeddi tystysgrifau a thrwyddedau CITES ar gyfer y DU. Gallant ddweud wrthych a oes angen trwydded CITES arnoch ai peidio er mwyn dod â chynnyrch planhigion neu anifeiliaid penodol yn ôl gyda chi.

I gael rhagor o wybodaeth ac arweiniad am drwyddedau CITES dilynwch y ddolen i adran iechyd a lles anifeiliaid ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra).

I gael mwy o wybodaeth gyffredinol dilynwch y ddolen i adran CITES ar wefan Defra.

Eitemau i'w hosgoi (lle gwaherddir masnachu rhyngwladol)

Dyma rai eitemau i'w hosgoi, ond nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr:

Ifori Eliffantod

Mae'n anghyfreithlon masnachu ifori yn rhyngwladol, ond mae pobl yn dal i gynnig gemwaith a cherfiadau ifori i dwristiaid, yn enwedig yn Affrica ac Asia. Ceir rhai eithriadau i'r gwaharddiad ym Motswana, Namibia, De Affrica a Simbabwe oherwydd bod ganddynt boblogaeth iach o eliffantod. Os ydych chi'n teithio i un o'r gwledydd hyn dylech gysylltu â'r asiantaeth Iechyd Anifeiliaid.

Meddyginiaeth draddodiadol sy'n cynnwys rhywogaethau dan fygythiad

Honnir bod rhai meddyginiaethau Tsieineaidd yn cynnwys darnau o gorff teigr, rhinoseros neu lewpard, er enghraifft.

Cregyn crwbanod y môr

Mae'r cregyn yn dal i gael eu defnyddio i wneud gemwaith, cribau a fframiau sbectol haul a gaiff eu gwerthu yn y Caribî ac mewn trefi gwyliau trofannol eraill.

Cynhyrchion a wneir o gathod mawr

Mae unrhyw beth sy'n cynnwys neu a wneir o deigr, jagwar neu lewpard, wedi'i wahardd (dannedd, ewinedd a genau a ddefnyddir gan amlaf).

Shahtoosh

Math o siôl yw shahtoosh sy'n cael ei gweu gyda gwallt antelop Tibet neu Chiru, sy'n cael ei ladd am ei gôt.

Cig anifeiliaid y gwylltir (Bushmeat)

Mae hyn yn golygu cig unrhyw anifail gwyllt sy'n cael ei hela am fwyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE). Yn ogystal â niweidio rhywogaethau dan fygythiad, gall cig anifeiliaid y gwylltir beryglu iechyd pobl a da byw.

Eitemau y mae angen trwydded mewnforio ar eu cyfer

Os ydych chi'n ystyried prynu cofrodd bywyd gwyllt egsotig pan rydych dramor, dylech gysylltu ag Iechyd Anifeiliaid cyn i chi adael y DU. Byddant yn dweud wrthych a yw'r rhywogaeth dan sylw wedi'i gwarchod, ac os ydyw, sut mae cael trwydded CITES.

Er enghraifft, fel rheol bydd angen trwydded arnoch i ddod â’r canlynol yn ôl gyda chi:

  • cwrel – gan gynnwys gemwaith ac addurniadau
  • cregyn tro mawr – gan gynnwys gemwaith ac addurniadau
  • sawl rhywogaeth o degeirian a chactws
  • y rhan fwyaf o gynhyrchion a wneir o groen ymlusgiaid, gan gynnwys bagiau llaw, pyrsiau ac esgidiau
  • mwy na 125g o gafiar

Trwyddedau allforio

Cyn rhoi trwydded mewnforio, bydd Iechyd Anifeiliaid yn gwneud yn siŵr bod gennych drwydded allforio o'r wlad lle gwnaethoch brynu'r nwyddau. Rhaid i chi gael y ddwy ddogfen cyn y gallwch ddod â'r nwyddau i'r UE. Dylai deliwr dibynadwy sy'n masnachu rhywogaethau dan fygythiad allu eich cynghori ar reolau lleol ynghylch trwyddedau allforio.

Gyda phwy y dylech gysylltu i gael cyngor

Y peth cyntaf y dylech ei wneud yw holi a yw masnachu eitem neu rywogaeth benodol wedi'i reoleiddio neu'i wahardd dan CITES. Os ydych am holi, dyma fanylion cyswllt Gwasanaeth Cofrestru a Thrwyddedu Bywyd Gwyllt yr asiantaeth Iechyd Anifeiliaid:

  • ffôn - 44 (0)117 372 8774
  • ffacs - 44 (0)117 372 8206
  • e-bost - wildlife.licensing@animalhealth.gsi.gov.uk

Additional links

Gwirio pa fwydydd o wledydd tramor y gellir eu mewnforio

Cael gwybod beth y gallech ac na allech fewnforio pan yr ydych yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU