Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth a tholl ar nwyddau a ddaw i mewn i’r DU o’r Undeb Ewropeaidd

Os ydych chi’n teithio i’r DU o’r Undeb Ewropeaidd (UE), cewch ddod â faint bynnag o nwyddau a fynnwch gyda chi at eich defnydd personol fwy neu lai. Ni fydd yn rhaid i chi dalu treth na tholl arnynt, ond mae rheolau penodol yn berthnasol.

Cyrraedd o wledydd sy’n rhan o’r UE

Pan fyddwch yn cyrraedd y DU o wlad sy’n rhan o’r UE cewch ddod â faint bynnag o nwyddau a fynnwch gyda chi fwy neu lai.

Ar gyfer nwyddau ecseis fel alcohol a thybaco, does dim cyfyngiadau. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • rhaid i chi gludo’r nwyddau eich hun
  • rhaid i’r nwyddau fod ar gyfer eich defnydd personol chi neu’n anrheg i rywun arall - os bydd y sawl y byddwch yn rhoi’r nwyddau iddo yn eich talu mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys eich ad-dalu am unrhyw gostau neu daliad ymarferol), yna nid yw’n anrheg ac mae’n bosibl y cymerir y nwyddau oddi arnoch
  • rhaid i chi dalu toll a threth ar y nwyddau yn y wlad sy’n rhan o’r UE lle cawsoch y nwyddau hynny

Os nad ydych yn bodloni'r amodau hyn, mae’n bosibl y cymerir y nwyddau (ac unrhyw gerbyd y cawsant eu cludo ynddo) oddi arnoch.

Gallwch ddarllen mwy am Doll Gartref yn ein canllaw ‘Toll Dramor, Toll Gartref a TAW Mewnforio: cyflwyniad’. Byddwch yn dod o hyd i ddolen i hwn ar ddiwedd y dudalen.

Tanwydd modur

Yn ogystal â’r tanwydd sydd yn nhanc safonol eich cerbyd, cewch ddod â thanwydd wrth gefn ar gyfer y cerbyd hwnnw heb dalu dim Toll Gartref arno. Mae’n rhaid i’r tanwydd fod mewn cynhwysydd priodol.

Archwiliadau swyddogion y tollau wrth ddod o’r UE

Os bydd un o swyddogion y tollau o Asiantaeth Ffiniau’r DU yn meddwl eich bod yn dod â nwyddau ecseis gyda chi er mwyn eu gwerthu, efallai y bydd yn eich stopio i ofyn cwestiynau i chi ac i gynnal archwiliadau. Efallai y gofynnir i chi am y canlynol:

  • y math a faint o nwyddau rydych chi wedi’u prynu
  • pam eich bod wedi’u prynu
  • sut y gwnaethoch dalu amdanynt
  • pa mor aml y byddwch chi’n teithio
  • faint fyddwch chi’n ysmygu neu’n yfed fel arfer

Er nad oes cyfyngiadau ar faint o alcohol a thybaco a gewch ddod gyda chi o’r rhan fwyaf o’r gwledydd sy’n rhan o’r UE, bydd swyddogion y tollau yn fwy tebygol o ofyn cwestiynau i chi os bydd gennych fwy na’r canlynol:

Dod â nwyddau i’r DU o’r Undeb Ewropeaidd (y person) Hyd 30 Medi 2011 O Hydref 2011
Sigaréts 3,200 800
Sigarau 200 200
Sigarilos 400 400
Tybaco 3 kilogram 1 kilogram
Cwrw 110 litr 110 litr
Gwin 90 litr 90 litr
Gwirodydd 10 litr 10 litr
Gwin cadarn (er enghraifft port neu sieri) 20 litr 20 litr

Os bydd Cyllid a Thollau EM yn fodlon bod y nwyddau at ddefnydd masnachol, mae’n bosibl y caiff y nwyddau, ac unrhyw gerbyd a ddefnyddiwyd i’w cludo, eu cymryd oddi arnoch ac ni chânt eu rhoi yn ôl i chi.

Datgan nwyddau i swyddogion y tollau

Mae’n rhaid i chi ddatgan unrhyw nwyddau o wledydd sy’n rhan o’r UE i swyddogion y tollau.

Os byddwch am wneud hyn, dylech ddefnyddio’r sianel goch neu’r ffôn pwynt coch. Bydd swyddog y tollau’n rhoi gwybod i chi os bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth neu doll arnynt a sut mae talu.

Sylwch fod y rheolau’n wahanol os byddwch yn dod â nwyddau’n ôl at ddibenion masnachol.

Faint o doll neu dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu?

Cyfraddau Toll Gartref

Gallwch weld y cyfraddau tybaco cyfredol ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Nwyddau gwaharddedig a nwyddau y cyfyngir arnynt

Ceir rhywfaint o nwyddau, fel arfau bygythiol a chyffuriau anghyfreithlon, na chewch ddod â nhw i’r DU waeth o ble bynnag y byddwch yn teithio. Ceir cyfyngiadau ar nwyddau eraill, fel drylliau.

Mae’n bosibl y cyfyngir ar rai bwydydd a chynhyrchion planhigion:

  • os oes plâu ac afiechydon arnynt
  • os nad ydynt ar gyfer eich defnydd personol chi
  • os na chawsant eu tyfu yn yr UE

Cael rhagor o help a chyngor

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ddod â nwyddau i’r DU o’r UE, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth TAW, Tollau Tramor a Chartref drwy ddilyn y ddolen isod.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Gwirio pa fwydydd o wledydd tramor y gellir eu mewnforio

Cael gwybod beth y gallech ac na allech fewnforio pan yr ydych yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU