Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Treth a tholl ar nwyddau a ddaw i mewn i’r DU o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd

Pan fyddwch chi’n teithio i’r DU o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, cewch ddod â nifer penodol o nwyddau di-doll/di-dreth gyda chi at eich defnydd personol. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘lwfans’. Os byddwch yn mynd dros y lwfans hwn, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu toll a/neu dreth.

Lwfansau di-doll a di-dreth - pobl sy’n cyrraedd o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE

Mae’r lwfansau isod yn cynnwys y rhan fwyaf o’r eitemau mwyaf cyffredin y gallwch ddod â nhw gyda chi i’r DU o’r tu allan i’r UE heb dalu toll a/neu dreth arnynt.

Mae’n rhaid i chi hefyd fodloni amodau penodol a restrir yn yr adran ‘Amodau ychwanegol wrth ddod â nwyddau i’r DU’. Os na fyddwch yn bodloni’r amodau hyn, neu os byddwch yn mynd dros y lwfans, bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw Doll Dramor, Toll Gartref a/neu TAW Mewnforio sy’n ddyledus.

Ar gyfer teithwyr sy’n cael eu cludo ac yn newid awyren mewn maes awyr yn yr UE, ceir amodau sy’n berthnasol yng nghyswllt hylifau, gan gynnwys unrhyw nwyddau y byddwch wedi’u prynu’n ddi-dreth.

Lwfansau alcohol

Gallwch ddod ag un o’r canlynol gyda chi, ond nid y ddau:

  • 1 litr o wirodydd neu wirodlynnau (liqueurs) cryf sydd â chyfaint o dros 22 y cant
  • 2 litr o win cadarn (fel port neu sieri), gwin pefriog neu unrhyw ddiod alcoholig arall sydd â chyfaint o lai na 22 y cant

Neu gallwch gyfuno’r lwfansau hyn. Er enghraifft, os byddwch yn dod ag 1 litr o win cryf (hanner eich lwfans llawn) cewch hefyd ddod â hanner litr o wirodydd (hanner eich lwfans llawn). Byddai hyn yn cyfri fel eich lwfans llawn.
Chewch chi ddim mynd dros gyfanswm eich lwfans alcohol.

Yn ogystal â hyn, cewch hefyd ddod â’r ddau ganlynol yn ôl gyda chi:

  • 16 litr o gwrw
  • 4 litr o win llonydd

Lwfansau tybaco

Cewch ddod ag un oddi ar y rhestr ganlynol gyda chi:

  • 200 o sigaréts
  • 100 o sigarilos
  • 50 o sigarau
  • 250 gram o dybaco

Neu cewch gyfuno’r lwfansau hyn. Er enghraifft, os byddwch yn dod â 100 o sigaréts (hanner eich lwfans llawn) cewch hefyd ddod â 25 o sigarau (hanner eich lwfans llawn). Byddai hyn yn cyfri fel eich lwfans tybaco llawn, chewch chi ddim mynd dros gyfanswm eich lwfans tybaco.

Chewch chi ddim cyfuno lwfansau alcohol a thybaco.

Nwyddau eraill, gan gynnwys persawr a chofroddion

Cewch ddod â nwyddau eraill hyd at £390 yn eu gwerth heb dalu dim treth a/neu doll. Os byddwch yn cyrraedd mewn awyren neu gwch preifat, dim ond nwyddau hyd at £270 yn eu gwerth y cewch ddod gyda chi heb dalu treth na tholl arnynt.

Os byddwch yn dod ag unrhyw eitem sy’n werth mwy na’ch lwfans, bydd yn rhaid i chi dalu toll a/neu dreth ar werth llawn yr eitem, nid dim ond ar y gwerth sydd dros y lwfans. Hefyd, chewch chi ddim rhoi lwfansau unigol mewn grŵp gyda’i gilydd er mwyn dod ag eitem sydd werth mwy na’r cyfyngiad gyda chi.

Amodau ychwanegol wrth ddod â nwyddau i’r DU

I fod yn gymwys ar gyfer y lwfansau di-dreth/di-doll, bydd angen i chi fodloni’r amodau canlynol hefyd:

  • rhaid i chi gludo’r nwyddau eich hun
  • rhaid i’r nwyddau fod at eich defnydd personol chi eich hun neu fel anrheg - os bydd y sawl y byddwch yn rhoi’r nwyddau iddo’n eich talu mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys eich ad-dalu am unrhyw gostau), yna nid yw’n anrheg a bydd yn rhaid i chi dalu’r doll a/neu’r dreth
  • rhaid i chi fod yn 17 neu’n hŷn i ddod ag alcohol neu dybaco gyda chi

Datgan nwyddau i swyddogion y tollau

Mae’n rhaid i chi wneud datganiad i swyddogion y tollau wrth ddod i’r DU o wledydd nad ydynt yn rhan o’r UE:

  • os byddwch yn mynd dros eich lwfansau
  • os yw’r nwyddau at ddefnydd masnachol (gweler y ddolen isod i gael gwybodaeth am nwyddau mewn bagiau)
  • os oes gennych 10,000 neu fwy o ewros (neu swm sy’n cyfateb i hynny) mewn arian parod
  • os ydych chi’n credu bod gennych nwyddau sydd wedi’u gwahardd neu nwyddau y cyfyngir arnynt

Os byddwch am wneud hyn, dylech ddefnyddio’r sianel goch neu’r ffôn pwynt coch. Bydd swyddog y tollau o Asiantaeth Ffiniau’r DU yn rhoi gwybod i chi os bydd yn rhaid i chi dalu unrhyw dreth neu doll a sut mae talu.

Faint o doll neu dreth y bydd yn rhaid i chi ei thalu?

Os byddwch yn mynd dros y lwfansau a/neu os na fyddwch yn bodloni’r amodau ychwanegol a ddynodir uchod bydd yn rhaid i chi dalu’r costau priodol a allai gynnwys:

  • Toll Dramor
  • Toll Gartref os mai tybaco neu alcohol yw’r nwyddau
  • TAW Mewnforio (bydd yn rhaid i chi dalu TAW hefyd ar unrhyw dollau y gellir codi tâl arnynt)


Cyfraddau Toll Dramor

Ym mhob achos, caiff y Doll Dramor ei hepgor os bydd swm y doll sy’n daladwy’n llai na £9.

Ar gyfer nwyddau eraill y daw teithwyr gyda nhw i’r DU, dim ond gyda nwyddau gwerth dros £270 neu £390 (pa un bynnag sy’n briodol) mewn gwerth. Codir tâl unffurf Toll Dramor o 2.5 y cant ar unrhyw nwyddau sydd dros y lwfans hwn a hyd at £630 yn eu gwerth.

Ar gyfer nwyddau dros £630 yn eu gwerth, bydd cyfradd y Doll Dramor a godir arnoch chi’n dibynnu ar y math o nwyddau sydd gennych. Gallwch gael gwybod beth yw’r cyfraddau drwy ffonio’r Llinell Gymorth TAW, Tollau Tramor a Chartref.

Cyfraddau Toll Gartref

Mae Toll Gartref yn daladwy ar holl gynhyrchion alcohol neu dybaco sy’n uwch na’r lwfansau di-dreth neu nad ydynt yn bodloni’r amodau ychwanegol. Gallwch weld cyfraddau’r Doll Gartref ar alcohol a thybaco ar wefan Cyllid a Thollau EM.

TAW Mewnforio

Codir TAW Mewnforio fel canran o gyfanswm gwerth y nwyddau yn ogystal ag unrhyw dollau eraill sy’n daladwy. Mae’r gyfradd yr un fath â’r gyfradd TAW sy’n berthnasol i nwyddau tebyg a gaiff eu gwerthu yn y DU.

Nwyddau gwaharddedig a nwyddau y cyfyngir arnynt

Ceir rhai nwyddau na chewch ddod â nhw i’r DU byth, gan gynnwys cyffuriau anghyfreithlon a phob math o arf bygythiol. Hefyd, ceir cyfyngiadau ar rywfaint o nwyddau a bydd angen trwydded neu ganiatâd arnoch i’w mewnforio.

Ceir cyfyngiadau ar rywfaint o fwydydd hefyd - er enghraifft, chewch chi ddim dod â chig na chynhyrchion llaeth i’r DU o’r rhan fwyaf o wledydd y tu allan i’r UE.

Cael rhagor o help a chyngor

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am ddod â nwyddau i’r DU o’r UE, gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth TAW, Tollau Tramor a Chartref drwy ddilyn y ddolen isod.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Gwirio pa fwydydd o wledydd tramor y gellir eu mewnforio

Cael gwybod beth y gallech ac na allech fewnforio pan yr ydych yn teithio y tu allan i’r UE

Allweddumynediad llywodraeth y DU