Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
P'un ai a ydych yn teithio at ddibenion busnes ynteu bleser, mae bob amser yn syniad da cyrraedd y maes awyr mewn da bryd. Gall gwybod beth i'w ddisgwyl a gadael digon o amser i chi eich hun helpu i sicrhau y cewch siwrnai ddidrafferth.
Dim ond eitemau gwerthfawr a phethau y bydd arnoch eu hangen yn ystod y siwrnai ddylech chi eu rhoi yn eich bag llaw.
Cofiwch am y canlynol:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich taith neu am y rheolau bagiau sydd ar waith, cysylltwch â'ch maes awyr neu'ch cwmni hedfan.
Cyrraedd y maes awyr
Dylech ganiatáu digon o amser i gyrraedd y maes awyr. Bydd hyn yn amrywio yn ôl faint o'r gloch yr ydych yn teithio a maint y maes awyr. Yn gyffredinol, dylech anelu i gyrraedd:
Er mwyn arbed amser a sicrhau y cewch siwrnai ddidrafferth dylech:
Mae sganwyr corff a mesurau diogelwch eraill yn cael eu cyflwyno ym meysydd awyr y DU
Mae mwy o fesurau diogelwch ar waith yn holl feysydd awyr y DU, felly mae'n well caniatáu digon o amser ar gyfer archwiliadau diogelwch. Bydd angen sgrinio eich bag llaw, a gofynnir i chi gerdded drwy borth diogelwch.
Efallai y gofynnir i chi hefyd os ydych wedi pacio eich bagiau eich hun. Ni ddylech gario unrhyw beth ar awyren ar ran rhywun arall. Os ydych yn credu bod rhywun wedi rhoi eitem yn eich bagiau heb i chi wybod, rhaid i chi roi gwybod yn syth i’r swyddog cofrestru.
Bydd y staff diogelwch yn gofyn am eich:
Cewch fynd ag unrhyw beth y byddwch yn ei brynu yn y siopau yn y lolfa ymadael gyda chi ar yr awyren. Mae hyn yn cynnwys anrhegion a bwyd neu ddiod ar gyfer eich siwrnai.
Os rhoddir y nwyddau i chi mewn bag arbennig wedi'i selio, peidiwch â'i agor nes byddwch wedi cyrraedd eich cyrchfan derfynol. Cadwch eich derbynneb gan ei bod yn bosib y bydd angen i chi ei dangos yn ddiweddarach – os byddwch yn newid awyren er enghraifft.
Mae cyfyngiadau ar nwyddau di-dreth a ddaw i mewn i’r DU o du allan yr Undeb Ewropeaidd (UE). Mae hefyd rheolau sy’n gymwys wrth ddod â nwyddau i mewn i’r DU o’r UE. Dilynwch y dolenni ar dreth a tholl isod i gael gwybod mwy.
Os oes gennych y pasbort biometrig ‘sglodyn’ newydd, gallwch ddefnyddio’r gatiau eBasbort i gyflymu eich amser yn rheolaeth pasbort
Os ydych yn teithio o'r UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu'r Swistir, mae'r holl reolau ar fagiau llaw yn berthnasol.
Teithio o faes awyr mewn gwlad arall
Bydd trefniadau lleol ar waith. Holwch eich cwmni hedfan.
Gwybodaeth arbennig ynghylch hylifau ar gyfer teithwyr sy'n gorfod newid awyren
Os yw'ch siwrnai yn cynnwys newid awyren mewn maes awyr yn yr UE, neu mewn maes awyr yn Norwy, Gwlad yr Iâ neu'r Swistir, bydd cyfyngiadau arbennig yn berthnasol.
Os ydych am fynd â hylifau (gan gynnwys hylifau di-dreth) drwy'r gatiau diogelwch yn eich maes awyr cyswllt, rhaid bod un o'r rheolau hyn yn berthnasol:
maent wedi cael eu prynu mewn lolfa ymadael mewn maes awyr yn yr UE, Norwy, Gwlad yr Iâ neu'r Swistir, neu ar fwrdd awyren sy'n rhan o gwmni hedfan o'r UE neu o Norwy, Gwlad yr Iâ neu'r Swistir (rhaid i'r hylifau fod mewn bag arbennig heb ei agor a ddarperir gan y maes awyr/cwmni hedfan, a rhaid cael derbynneb ar eu cyfer sy'n dangos i'r eitemau gael eu prynu ar y diwrnod yr ydych yn teithio)
Cysylltwch â'ch cwmni hedfan os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch pa hylifau y cewch fynd â hwy gyda chi ar eich siwrnai.
Aelodau’r wladwriaethau’r UE
Dyma aelod-wladwriaethau'r UE: