Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Eitemau peryglus ac eitemau wedi’u gwahardd: beth na chewch fynd gyda chi ar awyren

Mae gan y DU fesurau diogelwch llym i sicrhau nad yw eitemau peryglus yn cael eu cludo ar awyrennau. Cewch wybod yma beth y cewch chi ei gario neu ni chewch ei chario yn eich bag llaw (bag y cewch fynd ag ef ar yr awyren) a bagiau cofrestru (neu’r howld).

Gwybod beth y cewch fynd gyda chi ar yr awyren

Mae rheolau llym ar gyfer beth y cewch fynd gyda chi ar yr awyren, yn enwedig ar gyfer bagiau llaw. Cysylltwch â’ch cwmni hedfan os oes gennych gwestiynau ynghylch faint o fagiau llaw y cewch eu cario neu eu maint a siâp.

Gwirio’r rheolau am hylifau yn eich bagiau llaw

Yr ydych yn gallu cymryd hylifau yn eich bagiau howld, ond y mae yna rheolau llym ar gyfer cario hylifau yn eich bagiau llaw. Mae ‘hylifau’ yn cynnwys geliau, chwistrellau a phastau. I gael manylion llawn ar y rheolau ar hylifau, gweler ‘Rheolau bagiau llaw ar gyfer teithio mewn awyren’.

Cysylltwch â’ch maes awyr am gyngor

Caiff y staff diogelwch yn y maes awyr gymryd unrhyw beth y maent yn ei ystyried yn beryglus oddi arnoch - hyd yn oed os mae’r rhestrau isod yn dweud y cewch gario’r eitem yn eich bagiau

Eitemau peryglus ac eitemau wedi’u gwahardd

Ni chewch fynd â dim byd yn eich bag llaw a allai eich anafu chi a theithwyr eraill. Efallai y gallwch gario rhai o'r eitemau hyn yn y bag sy’n mynd i’r howld (y bag y byddwch yn ei gofrestru) yn hytrach na'u cario yn eich bag llaw.

Os na chewch chi gario eitem yn eich bag llaw, mae hyn yn golygu na chewch fynd â'r eitem, ar unrhyw adeg:

  • i'r mannau siopa yn y maes awyr
  • i gaban yr awyren

Defnyddiwch y tablau isod i weld pa eitemau y cewch eu cario ar yr awyren, a pha eitemau sydd wedi'u gwahardd. Efallai y bydd cyfyngiadau eraill, felly cysylltwch â’ch cwmni hedfan neu faes awyr gadael yn uniongyrchol os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch beth y cewch fynd gyda chi.

Pethau personol

Eitemau

Eitem a ganiateir yn eich bagiau llaw?

Eitem a ganiateir yn eich bagiau yn yr howld?

Teclyn tynnu corcyn

nac ydy

ydy

Llwy

ydy

ydy

Cyllell (gyda llafn finiog neu bigfain a/neu lafn sy’n hirach na 6cm)

nac ydy

ydy

Siswrn bach (gyda llafnau sy’n llai na 6cm)

ydy

ydy

Siswrn mawr (gyda llafnau sy’n fwy na 6cm)

nac ydy

ydy

Siswrn â llafn crwn/siswrn heb fin (unrhyw hyd)

ydy

ydy

Llafnau rasel tafladwy

ydy

ydy

Teclyn torri ewinedd/ffeil ewinedd

ydy

ydy

Teclyn plycio blew

ydy

ydy

Gweill

ydy

ydy

Nodwyddau gwnïo

ydy

ydy

Ymbarél

ydy

ydy

Ffon gerdded, cymhorthion cerdded

ydy

ydy

Cadair wthio

ydy

ydy

Cadair olwyn

ydy

ydy

Matsis diogelwch

ydy

nac ydy

Matsis eraill

nac ydy

nac ydy

Tân gwyllt, fflerau a phyrotechnegau eraill, gan gynnwys popwyr parti a chapiau tegan (toy caps)

nac ydy

nac ydy

Taniwr sigarét

nac ydy (ond cewch gario un taniwr sigaret ar eich corff

nac ydy

Hylif glanhau lensys cyffwrdd

ydy (ond dim mwy na 100ml)

ydy

I gael gwybodaeth fanwl am beth y cewch chi ei gario yn eich bag llaw, gweler ‘Rheolau hedfan a bagiau llaw’.

Eitemau electronig a thrydanol

Cofiwch na allwch ddefnyddio dyfeisiau electronig ar adegau penodol wrth hedfan. Gall y criw hedfan eich cynghori neu gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil – dilynwch y ddolen o dan y tabl hwn.

Eitem

Eitem a ganiateir yn eich bagiau llaw?

Eitem a ganiateir yn eich bagiau yn yr howld?

Ffôn symudol

ydy

(ond ni chewch ddefnyddio’ch ffôn symudol ar ôl i ddrysau’r awyren gau)

ydy

Gliniadur

ydy

ydy

MP3/CD/peiriant chwarae tâp

ydy

ydy

Camera Fideo

ydy

ydy

Negesydd

ydy

ydy

PDA/Blackberry

ydy

ydy

Teclyn sychu gwallt neu sythu gwallt

ydy

ydy

Camera ac offer camera

ydy

ydy

Haearn smwddio bach

ydy

ydy

Teclyn eillio/rasel trydanol

ydy

ydy

Offer chwaraeon

Eitem

Eitem a ganiateir yn eich bagiau llaw?

Eitem a ganiateir yn eich bagiau yn yr howld?

Parasiwt chwaraeon

ydy

ydy

Bat, raced neu ffon chwaraeon

nac ydy

ydy

Ciw snwcer, pŵl neu biliard

nac ydy

ydy

Clybiau golff

nac ydy

ydy

Dartiau

nac ydy

ydy

Polion cerdded/heicio

nac ydy

ydy

Esgidiau sglefrio ar rew

nac ydy

ydy

Gwiail pysgota

nac ydy

ydy

Catapwlt

nac ydy

ydy

Gynnau (gan gynnwys gynnau replica)

nac ydy

holwch y cwmni hedfan cyn teithio

Dryll tryfer (Harpoon/Spear gun)

nac ydy

ydy

Bwa Croes

nac ydy

ydy

Offer crefftau ymladd, gan gynnwys knuckledusters, clybiau, coshes, rice flails a nuchucks

nac ydy

ydy

Offer deifio (sylwer na chaniateir cario silindrau ocsigen ar gyfer deifio mewn bag llaw nac mewn bag a roddir yn yr howld)

ydy

ydy

Offer gwaith

Eitem

Eitem a ganiateir yn eich bagiau llaw?

Eitem a ganiateir yn eich bagiau yn yr howld?

Offer â llafn sy’n hirach na 6cm (sgriwdreifer, cŷn ac ati)

nac ydy

ydy

Dril a darnau dril

nac ydy

ydy

Cyllell Stanley

nac ydy

ydy

Llif (gan gynnwys llif pŵer cludadwy)

nac ydy

ydy

Sgriwdreifer

nac ydy

ydy

Morthwyl

nac ydy

ydy

Gefail

nac ydy

ydy

Tyndro neu sbaner

nac ydy

ydy

Gwn bollten neu wn hoelen

nac ydy

ydy

Trosol

nac ydy

ydy

Lamp losgi

nac ydy

ydy

Meddyginiaeth ac offer meddygol

Efallai y gofynnir i chi brofi bod unrhyw feddyginiaeth neu offer meddygol yn angenrheidiol ar gyfer eich taith. Gallwch wneud hyn drwy ddangos copi o’ch presgripsiwn neu lythyr gan eich meddyg. Ni ddylech gario mwy nag y bydd ei angen arnoch ar gyfer y daith yn eich bag llaw.

Eitem

Eitem a ganiateir yn eich bagiau llaw?

Eitem a ganiateir yn eich bagiau yn yr howld?

Pecynnau gel oeri

ydy

(ond bydd arnoch angen caniatâd y cwmni hedfan neu’r maes awyr)

ydy

Offer meddygol (peiriannau CPAP a TENS, ac ati)

ydy

ydy

Tabledi a chapsiwlau

ydy

(does dim cyfyngiad ar nifer y tabledi neu gapsiwlau y cewch eu cario)

ydy

Meddyginiaethau hylif hanfodol

ydy

(ond bydd arnoch angen caniatâd y cwmni hedfan neu’r maes awyr i gario mwy na 100ml)

ydy

Chwistrelli hypodermig

ydy

ydy

Mewnadlyddion

ydy

ydy

Silindrau ocsigen

ydy

(ond dylech bob amser holi eich cwmni hedfan yn gyntaf)

nac ydy

I gael gwybodaeth fanwl am beth y cewch chi ei gario yn eich bag llaw, gweler ‘Rheolau hedfan a bagiau llaw’.

Bwyd a llaeth babanod

Cewch gario digon o fwyd babi neu laeth babi ar gyfer y siwrnai yn eich bag llaw – gall hyn fod yn fwy na 100ml mewn rhai achosion. Gellir gofyn i'r oedolyn sy'n cario'r bwyd babi neu'r llaeth ei flasu.

Eitem

Eitem a ganiateir yn eich bagiau llaw?

Eitem a ganiateir yn eich bagiau yn yr howld?

Llaeth ar y fron, llaeth fformiwla neu laeth buwch

ydy

(ond dim ond os yw'r babi yn teithio gyda'r rhiant

ydy

Llaeth powdr

ydy

(does dim cyfyngiad ar faint y cewch ei gario)

ydy

Dŵr wedi’i steryllu

ydy

(rhaid ei gario mewn potel babi)

ydy

Llaeth soia i fabanod

ydy

ydy

Gwahanol fathau o fwyd babi

ydy

ydy

I gael gwybodaeth fanwl am beth y cewch chi ei gario yn eich bag llaw, gweler ‘Rheolau hedfan a bagiau llaw’.

Sylweddau cemegol a gwenwynig

Eitem

Eitem a ganiateir yn eich bagiau llaw?

Eitem a ganiateir yn eich bagiau yn yr howld?

Ocsidyddion a pherocsidau organig, gan gynnwys cannydd a chit adnewyddu car

nac ydy

nac ydy

Asidau ac alcalïau (batris ‘gwlyb’ y gellir eu llenwi â chemegau, ac ati)

nac ydy

nac ydy

Cyfryngau cannu neu gyrydol, gan gynnwys mercwri a chlorin

nac ydy

nac ydy

Batris ar gyfer cerbydau a systemau tanwydd ar gyfer cerbydau

nac ydy

nac ydy

Chwistrellau analluogi/amddiffynnol, gan gynnwys byrllysg, chwistrell pupur a nwy dagrau

nac ydy

nac ydy

Deunyddiau ymbelydrol, gan gynnwys isotopau masnachol neu feddygol

nac ydy

nac ydy

Sylweddau gwenwynig a gwenwyn, gan gynnwys gwenwyn llygod mawr

nac ydy

nac ydy

Sylweddau heintus neu beryglon biolegol (gwaed wedi'i heintio, bacteria a firysau ac ati)

nac ydy

nac ydy

Deunyddiau a allai gynnau neu danio yn ddigymell (mynd ar dân)

nac ydy

nac ydy

Diffoddwyr tân

nac ydy

nac ydy

Ffrwydron a gynnau

Eitem

Eitem a ganiateir yn eich bagiau llaw?

Eitem a ganiateir yn eich bagiau yn yr howld?

Unrhyw fath o wn neu arf tanio (gan gynnwys reiffl aer, pistol cychwyn ac ati)

nac ydy

holwch eich cwmni hedfan cyn teithio

Cap chwythu (Blasting cap)

nac ydy

nac ydy

Tanwyr a ffiwsiau

nac ydy

nac ydy

Dyfeisiadau ffrwydrol replica neu ffug, gan gynnwys gynnau replica ac enghreifftiol

nac ydy

nac ydy

Ffrwydron militaraidd, grenadau a chyflenwadau ffrwydrol militaraidd eraill

nac ydy

nac ydy

Tân gwyllt a phyrotechnegau eraill

nac ydy

nac ydy

Blychau sy’n cynhyrchu mwg

nac ydy

nac ydy

Cetris mwg

nac ydy

nac ydy

Dynameit

nac ydy

nac ydy

Powdr gwn

nac ydy

nac ydy

Ffrwydron plastig, gan gynnwys powdr du a chapiau ffrwydro

nac ydy

nac ydy

Unrhyw fath o ffagliadau (Flares)

nac ydy

nac ydy

Grenâd llaw

nac ydy

nac ydy

Tanwyr sigarét ar ffurf gwn

nac ydy

nac ydy

Additional links

Cynlluniwr siwrnai

Cynllunio’ch siwrnai lawn ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car a chael gwybodaeth teithio byw

Allweddumynediad llywodraeth y DU