Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaethau hedfan y DU

Mae gwasanaethau hedfan yn y DU yn cynnwys nifer o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan feysydd awyr, cwmnïau teithio a chwmnïau hedfan yn ogystal â chyrff llywodraethol. Caiff meysydd awyr eu rheoli gan wahanol grwpiau yn dibynnu ar y gweithgarwch dan sylw. Mae rheoliadau diogelwch cwmnïau hedfan yn cael eu pennu'n rhyngwladol.

Prif feysydd awyr y DU a'u cyfrifoldebau

Mae BAA (yr Awdurdod Meysydd Awyr Prydeinig gynt) yn rhedeg ac yn berchen ar chwe maes awyr ym Mhrydain:

  • Heathrow Llundain
  • Stansted Llundain
  • Aberdeen
  • Caeredin
  • Glasgow
  • Southampton

O fewn y meysydd awyr hyn, mae'r cwmnïau hedfan yn gyfrifol am y canlynol:

  • cofrestru
  • delio â bagiau (o'r amser cofrestru hyd at eu trosglwyddo yn ôl i chi ar ben y daith)
  • cargo
  • paratoi'r awyren a rhoi tanwydd ynddi
  • cael teithwyr ar yr awyren (gan gynnwys y rheini gydag anghenion arbennig)
  • diogelwch y teithwyr
  • arlwyo ar yr awyren

Fodd bynnag, mae llawer o gwmnïau hedfan yn rhoi gwasanaethau megis delio â bagiau ac arlwyo allan dan gontract.

Cyllid a Thollau EM sy'n gyfrifol am fewnforio/allforio nwyddau.

Asiantaeth Ffiniau'r DU, sy'n dod dan adain y Swyddfa Gartref, sy'n gyfrifol am warchod ffiniau'r DU ac am reoli mewnfudo yn y DU.

Y Gwasanaethau Traffig Awyr Cenedlaethol (NATS) sy'n gyfrifol am reoli traffig awyr uwchben Prydain.

Mae gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg gwasanaethau i'r meysydd awyr ac oddi yno.

Rheoleiddio cwmnïau hedfan a siwrneiau awyr

Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) yw rheoleiddiwr hedfan y DU, sy'n rheoli holl lwybrau a theithiau awyrennau ym meysydd awyr y DU. Mae'r Awdurdod Hedfan Sifil yn rheoleiddio cwmnïau hedfan, meysydd awyr a'r Gwasanaeth Traffig Awyr Cenedlaethol, a hefyd yn gyfrifol am bennu ffioedd meysydd awyr ym meysydd awyr Llundain.

Y Gymdeithas Trafnidiaeth Awyr Ryngwladol (IATA) yw'r corff llywodraethu sy'n rheoleiddio trafnidiaeth awyr rhyngwladol.

Gwneud yn siŵr bod awyrennau'n ddiogel

Pennir y safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer awyrennau gan y Sefydliad Hedfan Sifil Rhyngwladol (ICAO). Mae pob gwladwriaeth yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw awyren sydd wedi'i chofrestru neu ei lleoli yno yn cyrraedd y safonau hyn.

Mae Grŵp Rheoleiddio Diogelwch yr Awdurdod Hedfan Sifil yn gyfrifol am reoli diogelwch awyrennau sydd wedi'u cofrestru yn y DU a chwmnïau hedfan sydd wedi'u lleoli yn y DU.

Mae'n rhaid i awyrennau sydd wedi'u cofrestru neu'u lleoli y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd wneud cais i'r Adran Drafnidiaeth am drwydded i weithredu yn y DU. Os oes gan yr Adran Drafnidiaeth le i gredu nad yw cwmni hedfan neu awyren yn bodloni'r safonau rhyngwladol, gall drefnu i'r Awdurdod Hedfan Sifil gynnal ymchwiliad.

Rheoliadau diogelwch newydd

Cyhoeddwyd cyfyngiadau newydd ar fagiau llaw gan yr Adran Drafnidiaeth ym mis Tachwedd 2006. Mae'r rheoliadau yn nodi beth y gallwch fynd gyda chi drwy'r giatiau diogelwch a beth sydd wedi'i wahardd, ac maent yn berthnasol i unrhyw un sy'n teithio o unrhyw faes awyr yn y DU. Mae'r rheoliadau'n llymach nag yr oeddent felly gall gymryd mwy o amser i chi fynd drwy'r man archwiliadau diogelwch.

Gweler 'Rheolau hedfan gyda bagiau llaw' am wybodaeth fanylach.

Os ydych yn teithio i UDA, mae cyfyngiadau hefyd ar yr hyn y gellir ei brynu ar ôl i chi fynd drwy'r giatiau diogelwch a mynd â nhw gyda chi ar yr awyren.

Archebu a phrynu tocynnau

Nid yw'r llywodraeth yn rheoleiddio'r ffi a godir arnoch gan y cwmnïau hedfan a gallant amrywio'n helaeth. Mae'n syniad da gweld beth arall sydd ar gael bob tro.

Mae yna nifer cynyddol o ffyrdd i archebu seddi ar awyren:

  • drwy'r cwmni hedfan ei hun
  • drwy asiantau teithio
  • yn bresennol ei hun
  • dros y ffôn
  • dros y rhyngrwyd

Bydd y rhan fwyaf o gwmnïau hedfan yn rhestru trethi a thaliadau, megis treth tanwydd a Threth Teithwyr Awyr ar wahân i'r pris sylfaenol.

Nod IATA yn y dyfodol agos yw darparu pob tocyn yn electronig (fel e-docynnau).

Eich hawliau fel teithiwr

Fel teithiwr, rydych wedi'ch gwarchod rhag colli arian os bydd trefnwr teithiau'n mynd i'r wal, cyn belled ag y bydd eich gwyliau wedi'i ddiogelu gan Drwydded Trefnwyr Teithiau Hedfan (ATOL).

Bydd ATOL yn rhoi arian yn ôl i chi os bydd y cwmni'n mynd i'r wal cyn eich gwyliau, neu bydd yn trefnu i chi gael eich hedfan gartref os byddwch chi dramor.

Os byddwch yn hedfan o faes awyr yn yr UE neu gyda chwmni hedfan o'r UE ac y bydd gormod o docynnau wedi cael eu gwerthu ar gyfer y daith, neu os bydd y daith yn cael ei gohirio neu ei chanslo, mae'n bosib y byddwch wedi'ch diogelu gan yswiriant. Mae’r Awdurdod Hedfan Sifil yn rhoi manylion llawn am eich hawliau.

Additional links

Gweld yr awyrennau sy’n cyrraedd a gadael

Cael gwybodaeth hedfan byw o feysydd awyr y DU ar Gynlluniwr Siwrnai Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU