Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cofrestru ymlaen llaw cyn teithio

Os ydych chi'n teithio i wlad arall, efallai y bydd y cwmni hedfan yn gofyn i chi ddarparu eich manylion ymlaen llaw. Nid yw hyn yr un fath â chael fisa ac yn y rhan fwyaf o achosion gallwch gyflwyno eich manylion ar-lein. Yma, cewch wybod beth mae angen i chi ei wneud cyn teithio.

Cael manylion teithwyr ymlaen llaw

Am resymau diogelwch, erbyn hyn, mae'r Unol Daleithiau, y rhan fwyaf o Wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, a gwledydd eraill yn gofyn i gwmnïau hedfan ddarparu manylion am eu teithwyr cyn y daith. Gelwir hyn yn Fanylion Teithwyr Ymlaen Llaw (API).

Mae gofynion API yn amrywio o un wlad i'r llall. Bydd eich cwmni hedfan yn rhoi gwybod i chi beth mae arnynt ei angen gennych. Fel arfer, byddant yn gofyn i chi ddarparu’r manylion hyn pan fyddwch yn archebu’r tocyn neu’n cofrestru. Cysylltwch â’ch cwmni hedfan os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch gofynion API.

Nid yw darparu API yr un fath â gwneud cais am fisa. Bydd dal angen i chi ddilyn rheolau mynediad bob gwlad y byddwch yn ymweld â hi, ac mae hynny'n wir hefyd am unrhyw reoliadau o ran archwilio pasbortau a thollau.

Cofrestru eich API

Fel arfer, bydd y cwmni hedfan yn gofyn i chi ddarparu'r manylion a welir ar y dudalen yn eich pasbort sy'n cael ei darllen â pheiriant. Hon yw’r dudalen sy'n cynnwys eich llun.

Mae'n bosib y gofynnir am:

  • eich enw llawn
  • eich dyddiad geni
  • eich rhyw
  • rhif eich pasbort
  • enw'r wlad a roddodd eich pasbort i chi
  • y dyddiad y mae'ch pasbort yn dod i ben

O bryd i'w gilydd, efallai y gofynnir i chi am wybodaeth ychwanegol, fel y cyfeiriad y byddwch yn aros ynddo y noson gyntaf.

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chasglu naill ai pan fyddwch yn archebu neu gan ddarllenydd pasbortau awtomatig pan fyddwch yn cofrestru yn y maes awyr. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae'n bosib na chewch chi deithio os na fyddwch yn darparu eich API ar yr adeg briodol.

Teithio i'r Unol Daleithiau

Gan ddechrau ar 12 Ionawr 2009, dan y Rhaglen Visa Waiver (VWP) mae angen i deithwyr o Brydain gofrestru eu manylion ar-lein gyda llywodraeth yr Unol Daleithiau cyn hedfan yno.

Pan fyddwch wedi cofrestru, bydd eich manylion yn ddilys am ddwy flynedd, neu am oes eich pasbort (nes bydd yn dod i ben), pa gyfnod bynnag yw'r byrraf.

Nid yw'r API yr un fath â:

  • gwneud cais am fisa
  • gwybodaeth ychwanegol y mae ei hangen ar awdurdodau rheoli pasbortau'r Unol Daleithiau, fel y wlad yr ydych yn byw ynddi a chyfeiriad y man y byddwch yn aros yn yr Unol Daleithiau

Cewch ddysgu mwy am Raglen Visa Waiver yr Unol Daleithiau drwy ymweld â gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Mae'n debygol y bydd teithwyr o Brydain nad ydynt wedi cofrestru ar System Deithio Electronig yr Unol Daleithiau cyn teithio yn cael eu hatal rhag mynd i mewn i'r wlad ac yn cael eu hanfon adref

Cofrestru â System Deithio Electronig yr Unol Daleithiau

Mae'n rhaid cofrestru ar System Deithio Electronig yr Unol Daleithiau. Mae Adran Diogelwch y Famwlad yr Unol Daleithiau yn awgrymu cofrestru ddim llai na 72 awr cyn teithio. Fodd bynnag, gallwch gyflwyno eich manylion unrhyw bryd cyn teithio i'r Unol Daleithiau.

Teithio i'r Unol Daleithiau - â phwy y dylid cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, fe'ch cynghorir yn gryf i gysylltu â Llysgenhadaeth UDA yn Llundain cyn teithio. Rhif ffôn y llinell Gwybodaeth am Fisas yw 0904 245 0100 (codir £1.20 y funud am bob galwad).

Teithio i wledydd eraill (heblaw'r Unol Daleithiau)

Wrth i'r rhestr o wledydd sy'n gofyn am fanylion teithwyr ymlaen llaw dyfu, nid yw'n bosib rhestru'r holl ofynion yn llawn yn y fan hon.

Os nad ydych yn siŵr beth mae ei angen arnoch, gallwch:

  • holi is-genhadaeth neu lysgenhadaeth y wlad
  • ymweld â gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sy'n rhoi cyngor ar deithio
  • cysylltu â'ch cwmni hedfan cyn teithio – yn ddelfrydol, wrth archebu

Additional links

Cynlluniwr siwrnai

Cynllunio’ch siwrnai lawn ar drafnidiaeth gyhoeddus neu mewn car a chael gwybodaeth teithio byw

Allweddumynediad llywodraeth y DU