Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Diogelwch wrth deithio mewn awyren

Gall cynllunio rywfaint o flaen llaw wneud eich siwrnai'n fwy diogel a chyfforddus. Dyma'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi ynghylch peryglon iechyd a rheoliadau'n ymwneud â chyfarpar a bagiau.

Materion iechyd wrth hedfan

Lledaenu afiechydon yng nghaban yr awyren

Nid oes unrhyw dystiolaeth wyddonol sy'n cysylltu systemau aerdymheru awyren â lledaenu afiechydon. Bydd clefydau heintus, fel annwyd cyffredin, yn debygol o gael eu lledaenu wrth eistedd neu sefyll yn agos at berson heintiedig, un ai cyn hedfan, ar ôl hedfan, neu yn ystod y daith ei hun. Ceir ffilteri aer yn y rhan fwyaf o awyrennau, a bydd yr aer o fewn y caban yn cael ei newid bob tri i saith munud.

Ansawdd yr aer yn y caban

Mae'r aer yn amgylchedd y caban yn iawn ar gyfer y mwyafrif o'r teithwyr. Fodd bynnag, os ydych yn dioddef yn ddifrifol o glefyd yr ysgyfaint, dylech gael cyngor gan eich meddyg teulu neu gan wasanaeth meddygol y cwmni hedfan, yn enwedig cyn cychwyn ar deithiau hir.

Thrombosis gwythiennau dwfn

Dangoswyd llawer o ddiddordeb wedi bod yn y cyswllt posib rhwng thrombosis gwythiennau dwfn (DVT) a hedfan. Y ffactor risg mwyaf cyffredin ar gyfer DVT yw eistedd yn llonydd. Gall hynny fod yng nghyswllt unrhyw fath o daith hir, boed yn yr awyr, mewn car, ar fws neu ar drên. Tarwch olwg ar adran yr Uned Iechyd Hedfan ar wefan yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) am fwy o wybodaeth.

Defnyddio cyfarpar electronig

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai defnyddio ffonau symudol a chyfarpar electronig eraill megis gemau cyfrifiadurol ar awyren ymyrryd â systemau cyfathrebu a llywio yr awyren. Am resymau diogelwch, diffoddwch eich ffôn symudol yn ystod y daith os gwelwch yn dda, a pheidiwch â defnyddio unrhyw gyfarpar electronig eraill pan fo'r awyren yn codi ac yn glanio.

Eitemau na chewch eu cario ar awyren

Mae nifer o eitemau na chewch eu cario mewn bagiau llaw, megis cyllyll neu sisyrnau mawr. Gallwch gael gwybodaeth fanwl ar ‘Eitemau peryglus a chyfyngedig’.

Am wybodaeth gyffredinol ar fagiau llaw, gweler 'Rheolau hedfan gyda bagiau llaw'.

Cael cyngor diogelwch

Dan ei gynllun gwarchod ATOL, mae'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) wedi cyhoeddi taflen o'r enw 'Teithio'n Ddiogel'. Rhydd y daflen gyngor am faterion sy'n ymwneud â hedfan - megis yfed alcohol ar yr awyren, sut i ymddwyn a gweithdrefnau'r awyren. Gallwch lwytho copi oddi ar wefan Yr Awdurdod Hedfan Sifil (CAA).

Additional links

Gweld yr awyrennau sy’n cyrraedd a gadael

Cael gwybodaeth hedfan byw o feysydd awyr y DU ar Gynlluniwr Siwrnai Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU