Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cwyno am wasanaethau hedfan

Yma cewch wybod sut mae gwneud cwyn am gwmni hedfan, am faes awyr neu am asiant teithio, a beth ddylech chi ei wneud os ydych yn anfodlon â'r ymateb. Cewch hefyd wybod beth ddylech chi ei wneud os bydd eich bagiau yn mynd ar goll neu'n cael eu difrodi.

Beth ddylech chi ei wneud os bydd eich bagiau'n mynd ar goll neu'n cael eu difrodi

Mae bagiau sydd wedi mynd ar goll, wedi cael eu difrodi neu wedi cael eu dal yn ôl yn dod dan delerau Cytundeb Montreal 1999. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y cwmni hedfan yn atebol am fagiau sydd wedi cael eu dal yn ôl, wedi cael eu difrodi neu sydd wedi mynd ar goll dan delerau’r Cytundeb. Cyfyngir yr atebolrwydd hwn i tua £1,129.

Os bydd eich bagiau'n mynd ar goll neu'n cael eu difrodi, dylech roi gwybod am hyn yn y ddesg gwasanaeth yn y neuadd gasglu cyn i chi adael y maes awyr. Bydd yr asiant ar ddyletswydd yn ffeilio adroddiad ac yn rhoi copi i chi. Gwnewch yn siŵr na fyddwch yn ei golli, gan y bydd yn haws i chi wneud hawliad i'ch cwmni hedfan os byddwch chi’n dangos yr adroddiad iddynt.

Os ydych yn cario eitemau gwerthfawr, dylech ddweud hynny wrth y cwmni hedfan cyn cofrestru eich bagiau. Mewn nifer o achosion gallwch dalu ffi a gwneud 'datganiad arbennig' a fydd yn gwarchod eich eitem yn llawn. Cysylltwch â'ch cwmni hedfan yn uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth am ffioedd arbennig.

Cwyno am gwmnïau hedfan neu am feysydd awyr

Siarad â staff y maes awyr neu gwmni hedfan

Ceisiwch siarad â rhywun yn y maes awyr neu'r cwmni hedfan. Efallai y byddan nhw'n gallu datrys eich problem yn syth. Os na fyddant yn gallu eich helpu, neu os ydych dal yn anfodlon, ceisiwch ganfod pwy sy'n gyfrifol am yr hyn a aeth o'i le. Mae'n bosib nad oes bai ar y cwmni hedfan.

Cadwch gofnod o'r holl bobl y byddwch yn siarad â nhw, y dyddiadau, yr amseroedd, ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall.

Cyflwyno'ch cwyn ar bapur

  • yr adran cysylltiadau â chwsmeriaid y cwmni hedfan
  • y cwmni sy'n trefnu eich taith
  • y cwmni sy'n trefnu eich gwyliau pecyn
  • y maes awyr

Eglurwch yn fras beth aeth o'i le a dywedwch beth hoffech iddynt ei wneud am eich cwyn. Os ydych am hawlio iawndal, dywedwch hynny, a dywedwch faint o arian yr ydych chi'n disgwyl ei gael. Beth bynnag fyddwch chi'n ei ysgrifennu, byddwch yn rhesymol a chadwch at y ffeithiau.

Anfonwch gopïau o docynnau neu dderbynebau gyda'ch llythyr cyntaf, a chadwch y fersiynau gwreiddiol. Os byddwch yn hawlio arian yn ôl, bydd angen y tocynnau gwreiddiol ar y cwmni hedfan neu'r asiant teithio yn y pen draw. Ond dylech ddal eich gafael arnynt nes cewch addewid ysgrifenedig y cewch eich arian yn ôl (oni bai fod modd i chi fynd at yr asiant teithio neu i swyddfa'r cwmni hedfan eich hun a chael eich arian yn ôl yn y fan a'r lle).

Cofiwch gadw copi o'r holl ohebiaeth.

Mynd â'ch cwyn ymhellach

Os ydych wedi gwneud cwyn ysgrifenedig i gwmni hedfan neu faes awyr ond eich bod yn anfodlon â'r canlyniad, cysylltwch ag Awdurdod Hedfan Sifil.

Os ydych yn ysgrifennu at yr Awdurdod Hedfan Sifil, sicrhewch eich bod yn cynnwys copïau o'r holl ohebiaeth a fu rhyngoch chi a'r cwmni hedfan neu'r maes awyr.

Anfonwch eich cwyn i:
Cwynion Teithwyr
Awdurdod Hedfan Sifil/Civil Aviation Authority
CAA House
45-59 Kingsway
Llundain
WC2B 6TE

Ffôn – 020 7240 6061

Ffacs – 020 7453 6754

Cwynion am drefnwyr teithiau neu asiantau teithio

Os ydych wedi cwyno wrth eich asiant neu'r trefnwr ac rydych yn anfodlon â'r ymateb, holwch i weld a ydynt yn aelod o gymdeithas fasnachol. Mae gan aelodau cymdeithasau masnachol weithdrefnau cyflafareddu ar gyfer cwynion cwsmeriaid.

Y ddwy brif gymdeithas fasnach yw'r Gymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) a Chymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA).

Cwynion heb eu datrys

Mae'r Gymdeithas Trefnwyr Teithiau Annibynnol (AITO) a Chymdeithas Asiantau Teithio Prydain (ABTA) yn cynnig gwasanaeth datrys anghydfod annibynnol. Mae hyn yn golygu cael trydydd parti sy’n ceisio cyfryngu’n gyflym mewn anghydfodau anodd.

Additional links

Gweld yr awyrennau sy’n cyrraedd a gadael

Cael gwybodaeth hedfan byw o feysydd awyr y DU ar Gynlluniwr Siwrnai Cross & Stitch

Allweddumynediad llywodraeth y DU