Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd

Pan fyddwch yn teithio i un o wledydd Ewrop, gwnewch yn siŵr bod gennych Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd. Mae'n talu am gostau meddygol yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop, ond nid yw'n gwneud yn lle yswiriant teithio.

Yswiriant teithio

Dylech gymryd yswiriant teithio bob tro cyn mynd ar wyliau. Ni fydd y Cerdyn bob amser yn talu'ch holl gostau meddygol ac nid yw byth yn cynnwys cost pethau fel dychwelyd i'r DU neu eiddo a gollwyd neu a ladratwyd.

Y Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd

Bydd angen Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (CYIE) arnoch wrth deithio i wlad arall yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu i'r Swistir. Mae wedi disodli'r ffurflen E111. Os cewch eich taro'n wael dramor, bydd y CYIE yn eich galluogi i gael triniaeth feddygol a ddarperir gan wladwriaeth y wlad y byddwch ynddi.

Mae'r cerdyn hefyd yn talu am unrhyw driniaeth y bydd ei hangen arnoch ar gyfer clefyd cronig neu salwch sydd gennych eisoes, a gofal mamolaeth arferol. Mae'r cerdyn yn ddilys ar gyfer triniaeth ocsigen a dialysis yr arennau hefyd ond bydd angen ichi drefnu'r triniaethau hyn ymlaen llaw. Nid yw'r CYIE yn berthnasol os mai triniaeth feddygol yw prif bwrpas eich siwrnai.

Nid yw'r Cerdyn Yswiriant Gwladol Ewropeaidd yn gwneud yn lle yswiriant teithio, ac argymhellir i chi gael hwnnw bob amser. Mae rhai pethau nad yw'r CYIE yn talu amdanynt, megis dychwelyd i'r DU.

Dyddiad dod i ben

Bydd EHIC yn ddilys am rhwng tair a phum mlynedd. Er mwyn gweld a yw eich cerdyn chi'n ddilys o hyd, edrychwch ar y dyddiad dod i ben ar y cerdyn. Ni allwch ddefnyddio'r cerdyn wedi iddo ddod i ben felly mae'n bwysig eich bod yn edrych arno cyn i chi deithio. Gallwch adnewyddu eich cerdyn hyd at chwe mis cyn y dyddiad dod i ben.

Cael Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd

Mae'r Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd am ddim. Gallwch wneud cais i gael Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd, neu ei adnewyddu, ar-lein. Gallwch hefyd wneud cais dros y ffôn ar 0845 606 2030 neu drwy'r post gan ddefnyddio ffurflen gais sydd ar gael o'ch swyddfa bost leol.

Cyngor cyffredinol am iechyd wrth deithio

Ceir cyngor am iechyd ar gyfer teithwyr ar wefan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Gall y rhan fwyaf o fudiadau ac elusennau sy'n gysylltiedig â nam penodol hefyd roi cyngor da am deithio dramor a chynllunio gwyliau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU