Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cymryd meddyginiaeth dramor

Os ydych yn cymryd meddyginiaeth, mae'n bwysig gwneud yn siwr eich bod yn mynd â'r dogn cywir gyda chi ar eich taith. Dylid ystyried rhai pethau eraill hefyd.

Mynd â meddyginiaeth gyda chi

Os ydych yn mynd â meddyginiaeth gyda chi ar daith neu ar wyliau:

  • gwnewch yn siwr fod gennych ddigon ar gyfer yr holl gyfnod - a chyflenwad ychwanegol rhag ofn y byddwch yn dioddef argyfwng neu oedi
  • gofynnwch am lythyr gan eich meddyg yn dweud bod angen y feddyginiaeth arnoch a chadwch restr rhag ofn y byddwch yn eu colli neu'n gorfod cael mwy yn ystod eich arhosiad
  • rhestrwch enwau iawn y feddyginiaeth - nid yr enwau masnachu'n unig. Cadwch y feddyginiaeth yn y pecyn gwreiddiol
  • cadwch gofnod ysgrifenedig gyda chi o unrhyw gyflwr meddygol sy'n effeithio arnoch megis diabetes a haemoffilia

Os ydych yn hedfan

Mae gan gwmni hedfan hawl i fynnu bod teithiwr yn teithio gyda chydymaith os nad yw'r teithiwr yn hunan-gynhaliol. Mae hyn yn cynnwys cymryd ei foddion ei hun a chyflawni gweithdrefnau meddygol.

Yn gyffredinol, peidiwch byth â honni eich bod yn hunan-gynhaliol os nad ydych. Efallai y byddwch yn achosi problemau difrifol i chi a'r cwmni hedfan gan na fyddant yn gallu diwallu'ch anghenion sylfaenol.

Hefyd, cadwch eich meddyginiaeth yn eich bag llaw rhag ofn i'ch bagiau mawr fynd ar goll.

Meddyginiaeth a gwledydd eraill

Mae'n bosibl y bydd angen i chi holi Llysgenhadaeth neu Uchel Gomisiwn y wlad yr ydych yn ymweld â hi rhag ofn fod ganddynt gyfyngiadau ar fynd â'ch meddyginiaeth i mewn i'r wlad.

Y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad sy'n gyfrifol am faterion tramor. Mae adran teithio'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ar gyfer unrhyw un sy'n cynllunio taith dramor a gwybodaeth fesul gwlad.

Allweddumynediad llywodraeth y DU