Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Yswiriant teithio ar gyfer pobl anabl

Mae sawl gwahanol fath o yswiriant teithio ar gael. Bydd angen i chi benderfynu pa fath o yswiriant y mae ei angen arnoch a sicrhau bod y polisi a ddewiswch yn diwallu'ch anghenion.

Dewis polisi

Yn ogystal â'r math 'arferol' o yswiriant, er enghraifft, ar gyfer oedi yn y maes awyr ac eiddo'n cael ei ddwyn, rhaid meddwl am bethau eraill wrth ddewis polisi yswiriant. Ymhlith y rhain, mae’r canlynol:

  • yswiriant am unrhyw gostau meddygol sy'n deillio o'ch nam - gan fod llawer o bolisïau'n gwrthod talu am hawliadau sy'n deillio o gyflyrau meddygol a oedd eisoes arnoch
  • os nad yw cwmni hedfan yn gallu'ch cludo am ryw reswm, er enghraifft, newid awyren i fath nad yw'n hwylus i chi o ran mynediad

Fe'ch cynghorir i gael yswiriant teithio hyd yn oed os ydych yn teithio yn y DU. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych yn mynd â chyfarpar arbennig megis cadair olwyn gyda chi neu os yw'n debygol y bydd angen sylw meddygol arnoch, a all gwtogi'ch gwyliau.

Gwybodaeth feddygol

Mae'n bwysig datgan eich anabledd neu eich salwch wrth drefnu yswiriant, er nad yw yswiriant teithio cyffredinol yn briodol ar gyfer salwch neu broblem iechyd a oedd yn bodoli neu a gafodd eu diagnosio cyn i'ch gwyliau gychwyn.

Gall y cwmni yswiriant ofyn am fanylion penodol, neu efallai y bydd yn rhaid i'ch meddyg lenwi ffurflen yn nodi eich bod yn ffit i deithio. Efallai y gofynnir i chi lenwi ffurflen yn nodi nad ydych yn disgwyl am driniaeth, er enghraifft.

Cyfarpar

Os oes angen cyfarpar anabledd drud arnoch ar wyliau, gwnewch yn siŵr eich bod wedi'ch yswirio yn erbyn eu colli neu ddifrod.

Nid yw'n debygol y bydd cymhorthion symud - gan gynnwys cadeiriau olwyn a sgwteri - wedi'u hyswirio dan bolisïau yswiriant teithio safonol. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu premiwm ychwanegol. Weithiau, efallai bod eich yswiriant tŷ yn darparu yswiriant ar gyfer y rhain.

Yswiriant arbenigol?

Mae'r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant yn cynnig yswiriant i bobl anabl sy'n addas ar gyfer eu hanghenion. Fodd bynnag, nid yw pob cwmni yswiriant yn rhoi yswiriant i bobl gyda chyflwr meddygol difrifol neu gyda hanes o salwch meddwl. Efallai y bydd yn rhaid i chi fynd at gwmni yswiriant arbenigol.

Gall cwmni yswiriant arbenigol fod yn addas i chi os ydych yn teithio dramor am gyfnod hir.

Eich hawliau fel person anabl

Nod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yw rhoi diwedd ar y gwahaniaethu y mae llawer o bobl anabl yn ei wynebu. Mae Rhan 3 y Ddeddf yn gosod dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau, sy'n cynnwys cwmnïau yswiriant a chwmnïau teithio a fydd yn darparu gwasanaethau yn y DU.

Mae gan gwmnïau ddyletswydd i sicrhau nad ydynt yn eich trin chi, fel cwsmer anabl, yn llai ffafriol na chwsmeriaid arall, am reswm sy'n gysylltiedig â'ch anabledd, oni allant gyfiawnhau hynny. Felly, er enghraifft, ni chânt wrthod darparu gwasanaeth i berson anabl heb gyfiawnhad, os ydynt yn barod i gynnig y gwasanaeth hwnnw i aelodau eraill o'r cyhoedd. Ni chânt chwaith ddarparu'r gwasanaeth ar delerau gwaeth neu i safon waeth.

Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn caniatáu i yswirwyr roi amod neu bremiwm arbennig i bobl anabl dan amgylchiadau penodol. Er enghraifft, gallant godi premiwm uwch ar berson anabl os gallant ddangos bod mwy o risg yn gysylltiedig ag yswirio person anabl nag o yswirio person nad yw'n anabl.

Dim ond dan yr amgylchiadau canlynol y caiff y cwmni yswiriant gyfiawnhau trin person anabl yn wahanol:

  • mae'r penderfyniad yn seiliedig ar wybodaeth sy'n berthnasol i'r asesiad o'r risg sy'n cael ei yswirio
  • mae'r wybodaeth (fel data ystadegol, neu adroddiad meddygol) yn dod o ffynhonnell y mae'n rhesymol dibynnu arni
  • mae trin yn llai ffafriol yn rhesymol pan ystyrir y wybodaeth hon ac unrhyw ffactorau perthnasol eraill

Os nad ydych yn fodlon gyda'ch cwmni yswiriant

Fel arfer y cwmni yswiriant ei hun sy'n delio â'r rhan fwyaf o gwynion. Os oes ganddynt wasanaeth cwynion cwsmeriaid, dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, rhaid iddynt gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn hwylus i bobl anabl ei ddefnyddio.

Mae gan Gymdeithas Yswirwyr Prydain wybodaeth i ddefnyddwyr am bob math o yswiriant - gan gynnwys teithio a beth i'w wneud os aiff pethau o chwith.

Oni allwch ddatrys y materion gyda'ch cwmni yswiriant, gall Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ddarparu gwasanaeth annibynnol am ddim i chi ar gyfer datrys anghydfodau gyda chwmnïau ariannol. Maent yn darparu gwybodaeth mewn fformatau amrywiol gan gynnwys Braille a thâp sain.

Allweddumynediad llywodraeth y DU