Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych yn mynd ar wyliau gydag aelodau eraill y teulu neu gyda ffrindiau, mae cymorth wrth law os oes angen. Wrth gwrs, efallai eich bod am deithio ar eich pen eich hun neu gyda rhywun nad yw yno i fod yn 'ofalwr'.
Gallwch hurio cydymaith, gofalwr neu nyrs i ddarparu cymorth ychwanegol. Gallant eich helpu pan fyddwch yn mynd o gwmpas neu gallant ddarparu gofal personol dyddiol.
Bydd angen i chi drafod beth y byddant yn ei wneud pan fyddant gyda chi ar eich gwyliau. Ai yno 'yn y cefndir' y maent - rhag ofn i argyfwng godi - neu i fod gyda chi y rhan fwyaf o'r amser?
Mae 'na rai cwmnïau masnachol sy'n darparu'r gwasanaeth hwn. Mae 'na elusennau hefyd sydd wedi'u sefydlu i drefnu gwyliau ar gyfer pobl anabl a darparu cymdeithion a chynorthwywyr gwirfoddol.
Ymwelwch ein tudalen cysylltiadau teithio i gael manylion cyswllt mudiadau sy’n arbenigo mewn teithio ar gyfer pobl anabl.