Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Rhan fawr o unrhyw wyliau yw penderfynu ble i aros. Mae mynediad i bobl anabl wedi gwella'n fawr iawn dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn aml, nid yw anabledd yn amlwg i bobl eraill ac felly, gwnewch yn siwr eich bod yn esbonio'ch gofynion yn glir wrth archebu llety neu wrth ddelio gyda chwmni teithio.
Ni ddylech gymryd yn ganiataol y bydd staff yn gwybod am eich anghenion, neu'n eu deall, yn awtomatig. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth archebu dros y ffôn, y post neu ar y rhyngrwyd.
Yn bwysig iawn, gofynnwch beth sydd gan y lle yr ydych am aros ynddo i'w gynnig i chi.
Mae pob gwesty a busnes yn wahanol o ran yr hyn y maent yn ei gynnig. Er enghraifft, bydd rhai mannau'n gwbl hwylus i ddefnyddiwr cadair olwyn sy'n teithio'n annibynnol. Gall eraill fod yn hwylus i berson na all symud o gwmpas ryw lawer ond sy'n gallu cerdded ychydig o gamau.
Mae rhai elusennau - a chyhoeddwyr - yn cyhoeddi arweinlyfrau sy'n rhoi manylion llety gwyliau penodol. Gallant gynnwys gwybodaeth megis:
Mae'n werth holi hefyd a all cymdeithion, neu ofalwyr, ddod gyda chi am bris gostyngol - neu am ddim hyd yn oed.
Os mae darparwr llety yn cynnwys Cynllun Mynediad Cenedlaethol yn ei hysbysebiad neu arwyddion, mae hyn yn golygu bod y busnes yn cyrraedd safon y cynllun ar ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau hwylus i bobl anabl