Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nod y Cynllun Mynediad Cenedlaethol yw helpu darparwyr gwasanaethau yn y diwydiant twristiaeth i hwyluso mynediad at eu gwasanaethau, gan alluogi mwy o bobl anabl i'w defnyddio.
Cynllun gwirfoddol yw'r Cynllun Mynediad Cenedlaethol, a gall darparwyr llety gymryd rhan ynddo er mwyn hyrwyddo'r cyfleusterau y maent yn eu cynnig i westeion anabl neu ymwelwyr hŷn.
Mae'r Cynllun Mynediad Cenedlaethol yn canfod pa mor hygyrch yw'r llety i bobl a all fod ag anhawster cerdded, yn defnyddio cadair olwyn, neu â nam synhwyrol.
Mae'r graddau wedi'u rhannu'n dri chategori, ar gyfer:
Cynrychiolir y graddau unigol gan symbolau a ddangosir ar wefannau ac a ddefnyddir mewn llenyddiaeth hyrwyddo megis y llawlyfr Mynediad Hwylus Prydain.
Gellir cael gwybodaeth am y cynllun, gan gynnwys lluniau ac eglurhad o'r symbolau, ar wefan enjoyEngland, lle gallwch hefyd chwilio am westai, llety gwely a brecwast, meysydd gwersylla a llety hunanarlwyo, gyda gradd gan y Cynllun Mynediad Cenedlaethol.
Mae pob eiddo sy'n dangos symbol y Cynllun Mynediad Cenedlaethol yn dangos eu bod yn bodloni gofynion y Cynllun Mynediad Cenedlaethol a'u bod wedi'u harchwilio'n annibynnol gan aseswyr hyfforddedig.
Mae perchenogion llety sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Mynediad Cenedlaethol wedi gwneud ymdrech arbennig i sicrhau bod eu gwesteion ag anghenion clyw, gweledol neu symudedd yn gallu aros yn eu llety'n gyfforddus.
Gall nodweddion hwyluso mynediad gynnwys rheiliau llaw, rampiau a mynedfeydd heb risiau, cawodydd mynediad gwastad a chyferbyniad lliw yn yr ystafelloedd ymolchi.
Efallai y bydd aelodau staff wedi mynychu cwrs ymwybyddiaeth anabledd, ac yn gwybod pa fath o gymorth gaiff ei werthfawrogi fwyaf.
Pan welwch un o'r symbolau, gallwch fod yn siŵr bod y llety a'r prif gyfleusterau wedi cael eu hasesu'n drwyadl yn erbyn meini prawf llym. Os oes gennych chi anghenion ychwanegol neu ofynion arbennig, dylech sicrhau y gall y llety a ddewiswch ddiwallu'r rhain cyn i chi gadarnhau eich archeb.
Mae gwybodaeth fanwl i fusnesau, gan gynnwys sut mae gwneud cais, ar gael ar wefan masnach twristiaeth VisitEngland.
Hefyd, gall darparwyr llety lwytho dogfennau mewn fformat pdf oddi ar y we sy'n eu helpu i arolygu eu hunain, er mwyn asesu statws presennol eu busnes.