Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cael pasport

Bydd angen pasport deng mlynedd llawn arnoch os ydych eisiau teithio dramor, hyd yn oed os yw hynny am ddiwrnod yn unig. Rhaid iddo hefyd fod yn ddilys ar gyfer cyfnod y gwyliau cyfan. Gellir cael ffurflen gwneud cais am basport yn swyddfa'r post neu gallwch ei llenwi ar-lein.

Gwneud cais am basport ar-lein

Gallwch lenwi'r cais ar-lein ar wefan y Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau (IPS).

Ar ôl ichi lenwi a chyflwyno'r ffurflen ar-lein, bydd yn cael ei dychwelyd atoch i'w llofnodi a'i dyddio. Bydd angen i chi wedyn gynnwys y lluniau, y dogfennau a'r tâl cywir, cyn ei dychwelyd i Swyddfa'r Gwasanaeth Hunaniaeth a Phasportau i'w phrosesu.

Os bydd angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflen, mae 'na linell gymorth genedlaethol sydd ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Llinell Gymorth Pasportau: 0870 521 0410

Rhif ffôn testun: 0870 240 8090

E-bost: info@passport.gov.uk

Llinell ar gyfer gofyn am ffurflen gais: 0901 4700 110

Cymorth ar y stryd fawr

Mae gan Wasanaeth Pasport y DU dros 2,000 o 'Bartneriaid Stryd Fawr' ledled y DU - swyddfeydd post yn bennaf.

Am ffi fechan, sy'n ychwanegol at gost y pasport, byddant yn anfon yr holl waith papur perthnasol, ynghyd â'ch taliad am y pasport yn syth i Wasanaeth Pasport y DU.

Cymorth sydd ar gael yn y Swyddfa Basport

Ceir saith o Swyddfeydd Pasport rhanbarthol yn y DU. Gallant ddarparu cymorth ychwanegol os cysylltwch â nhw.

Gellir llwytho canllaw byr am wneud cais am basport os oes gennych ofynion arbennig oddi ar y we (ar ffurf PDF).

Mae'r Swyddfa Basport yn cynhyrchu nifer o daflenni mewn Braille, ar dâp sain ac mewn print bras. Ymhlith y rhain, mae:

  • pasportau i blant
  • beth i’w wneud os collwch eich pasport neu os caiff ei ddwyn

Os ydych chi'n ddall neu'n rhannol ddall
Mae'r ffurflen gais am basport ar gael mewn print bras. Mae fformatau Braille, print bras a thâp sain ar gael i'ch helpu i lenwi'r ffurflen gais am basport. Gallwch hefyd ofyn am ffurflenni a llenyddiaeth mewn print bras gan eich Swyddfa Bost. Gallwch ofyn am gael gosod sticer Braille ar eich pasport i'ch helpu i'w weld trwy dicio'r blwch perthnasol ar y ffurflen gais.

Os ydych chi'n fyddar neu'n drwm eich clyw
Mae gan bob swyddfa staff sydd wedi derbyn hyfforddiant ar iaith arwyddion i'ch helpu chi i lenwi'ch ffurflen gais ac ateb unrhyw gwestiynau. Mae gan bob cownter cyhoeddus sgriniau a dolenni sain a fydd yn eich helpu. Neu gallwch ofyn i aelod o staff siarad â chi mewn ystafell dawel. Mae gwasanaeth ffôn testun a gwasanaeth Typetalk cenedlaethol ar gael hefyd.

Rhif ffôn testun: 0870 240 8090

Rhif Typetalk: 18001 0870 521 0410

Os ydych chi'n defnyddio cadair olwyn
Gellir defnyddio cadeiriau olwyn ymhob un o'r Swyddfeydd Pasport rhanbarthol ac mae ganddynt i gyd doiledau sy'n hwylus i bawb. (Os oes angen toiled hwylus arnoch yn Swyddfa Basport Belfast, cysylltwch â'r swyddfa hon ymlaen llaw.)

Pryd i wneud cais am fisa

Mae angen fisa i ymweld â rhai gwledydd. Dylech gysylltu â swyddfa is-gennad y wlad lle byddwch yn teithio iddi neu holi'ch trefnydd teithiau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU