Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwasanaethau meysydd awyr a chwmnïau awyrennau ar gyfer teithwyr anabl

Pan fyddwch yn archebu, dylech bob amser roi gwybod i'r cwmni awyrennau neu'r trefnwr teithiau os bydd angen cymorth arnoch pan fyddwch yn teithio. Os bydd arnoch angen cymorth gan staff y maes awyr neu'r cwmni awyrennau ar unrhyw adeg o'ch taith, dylech bob amser ofyn am hyn o leiaf 48 awr cyn hedfan.

Gwasanaethau ar gyfer teithwyr anabl

Dylai'r gwasanaethau hyn fod ar gael ym mhob maes awyr yn Ewrop os oes gennych anabledd synhwyraidd, anabledd corfforol neu anabledd dysgu sy'n effeithio ar eich symudedd pan fyddwch yn defnyddio trafnidiaeth:

  • cyfleusterau i ofyn am gymorth mewn mannau cyrraedd dynodedig, megis wrth fynedfa'r terminalau, mewn mannau cyfnewid trafnidiaeth ac mewn meysydd parcio
  • cymorth i gyrraedd y man cofrestru
  • cymorth gyda chofrestru
  • cymorth i symud drwy'r maes awyr, gan gynnwys i'r toiled os oes angen
  • cymorth i fynd ar yr awyren ac oddi arni
  • cludiant ar gyfer offer meddygol a hyd at ddau offer symud, am ddim
  • rhoi gwybod i chi ac unrhyw gydymaith am y drefn mewn argyfwng ac am gynllun y caban
  • cymorth i gadw'ch bagiau ar yr awyren
  • cymorth i symud i'r toiled ar yr awyren (bydd gan rai awyrennau gadair olwyn arnynt)
  • rhywun i'ch cyfarfod pan fydd yr awyren yn glanio ac i'ch helpu i gyrraedd yr awyren nesaf y mae'n rhaid i chi ei dal neu gyrraedd rhan nesaf eich siwrnai

Cynlluniau Meysydd Awyr

Mae map Bathodyn Glas Cross & Stitch yn cynnwys cynlluniau ar gyfer 20 maes awyr yn y DU. Mae'r cynlluniau'n dangos cynllun y maes awyr a lleoliad gwahanol gyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys y desgiau cofrestru, meysydd parcio, toiledau hwylus, desgiau gwybodaeth a mwy.

Teithio ar eich pen eich hun

Am resymau diogelwch, mae gan gwmnïau awyrennau hawl i fynnu eich bod yn teithio gyda chydymaith os nad ydych yn ‘hunanddibynnol’. I deithio ar eich pen eich hun, mae gofyn eich bod yn gallu gwneud y canlynol:

  • agor eich gwregys diogelwch
  • gadael eich sedd a chyrraedd un o'r allanfeydd brys
  • gwisgo masg ocsigen a siaced achub
  • deall y wybodaeth ddiogelwch ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y criw mewn sefyllfaoedd brys

Ni fydd y criw yn gallu darparu gofal personol i chi, felly os oes angen cymorth arnoch i fwyta, i anadlu, i ddefnyddio meddyginiaeth neu i ddefnyddio'r toiled bydd angen i chi hefyd deithio gyda chydymaith.

Eistedd yn yr awyren

Dylai cwmnïau awyrennau adael i chi ddewis y sedd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion chi. Fodd bynnag, ni chaiff pobl â symudedd cyfyngedig eistedd mewn seddi lle gallant rwystro mynediad at allanfeydd brys.

Seddi ychwanegol

Os oes angen i chi deithio gyda chydymaith, dylai'r cwmni awyrennau wneud pob ymdrech resymol i sicrhau eu bod yn cael sedd wrth eich ymyl chi. Mae'n bosibl y gall ambell gwmni hedfan gynnig pris gostyngol am yr ail docyn. Bydd hwn fel arfer yn ostyngiad ar y pris llawn.

Efallai mai dim ond nifer fechan o seddi am bris gostyngol y gallant eu cynnig ar un daith, yn enwedig gyda gwyliau pecyn neu daith siarter. Gofynnwch i’ch trefnydd teithiau neu'r cwmni awyrennau am ragor o fanylion.

Gall yr un cyfyngiad fod yn berthnasol mewn achosion lle mae angen i'r teithiwr anabl ddefnyddio dwy sedd am reswm sy'n gysylltiedig â'i anabledd.

Pan gynigir tocynnau am brisiau gostyngol, efallai y bydd angen tystiolaeth feddygol ar gwmnïau hedfan i brofi eich bod angen teithio â chydymaith neu archebu sedd ychwanegol. Dylech holi'r cwmni awyrennau neu'r trefnwr teithiau pa wybodaeth y bydd angen i chi ei rhoi. Gallai hyn fod yn llythyr gan eich meddyg neu'n drwydded parcio Bathodyn Glas, er enghraifft.

Gofynion cwmnïau awyrennau os oes gennych anghenion meddygol

Ffurflenni cwmnïau hedfan

Os oes gennych unrhyw anghenion meddygol, efallai y bydd y cwmni awyrennau yn gofyn i chi lenwi ffurflen Cyngor wrth Drin Teithwyr Anabl (INCAD) a/neu Ffurflen Wybodaeth Feddygol (MEDIF). Dyma'r ffurflenni safonol a ddefnyddir gan amryw o gwmnïau awyrennau er mwyn cynorthwyo staff i drefnu unrhyw gymorth neu offer y gallai fod eu hangen arnoch yn ystod y daith ac i benderfynu a ydych yn abl i deithio. Gyda rhai cwmnïau awyrennau bydd INCAD a MEDIF yn ddwy ran o'r un ffurflen.

Gallwch lenwi ffurflen INCAD eich hun, ond mae'n rhaid i'ch meddyg lenwi'r ffurflen MEDIF.

Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yn gorfod llenwi ffurflen MEDIF, nac yn gorfod gwneud cais am ganiatâd gan feddyg i hedfan drwy unrhyw drefn arall y gallai'r cwmni awyrennau ei chael. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd â chyflyrau meddygol ac anableddau hirdymor sefydlog.

Dylech gysylltu â'r cwmni awyrennau a thrafod eich anabledd neu'ch cyflwr meddygol gyda nhw - hyd yn oed os yw'ch meddyg yn dweud ei bod yn iawn i chi hedfan - oherwydd bydd gan gwmnïau awyrennau wahanol bolisïau ynghylch cario teithwyr anabl a phobl sydd â chyflyrau meddygol. Bydd y cwmni awyrennau yn gallu rhoi i chi unrhyw ffurflenni sydd angen eu llenwi. Gallwch hefyd gael y ffurflenni hyn gan rai asiantau teithio.

Cerdyn Meddygol ar gyfer Pobl sy'n Teithio'n Aml

Dim ond am un siwrnai y bydd ffurflenni MEDIF ac INCAD yn para. Os ydych chi'n teithio'n aml, gallwch gael Cerdyn Meddygol i Bobl sy'n Teithio'n Aml (FREMEC). Gellir cael hwn gan nifer o gwmnïau awyrennau a bydd yn rhoi cofnod parhaol o'ch anghenion penodol chi i'r cwmni. Golyga hyn na fydd angen i chi lenwi ffurflen na gwneud trefniadau arbennig bob tro y byddwch yn hedfan. Cyn i chi deithio â chwmni awyrennau gwahanol i'r un a roddodd gerdyn FREMEC i chi, dylech wneud yn siŵr y byddant yn ei dderbyn.

Cod ymarfer ar gyfer teithio mewn awyren

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cyhoeddi cod ymarfer o'r enw 'Mynediad i deithio ar awyren i bobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig'.

Mae'n rhoi arweiniad i ddiwydiant hedfan y DU ar sut y gall fodloni ei rwymedigaethau cyfreithiol ac yn nodi'r arfer da sydd ei angen er mwyn sicrhau bod pobl anabl a phobl â symudedd cyfyngedig yn mwynhau gwasanaeth cyson a di-dor wrth hedfan. Mae'r cod yn sôn am y daith i gyd, o'r broses gael gwybodaeth wrth drefnu i gyrraedd pen y daith.

Hawliau cyfreithiol

Dan gyfraith Ewropeaidd, mae gan bobl anabl a phobl eraill â symudedd cyfyngedig hawliau cyfreithiol i gymorth wrth deithio ar awyren. Ceir gwybodaeth fanwl am hyn ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU