Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Pan fyddwch yn teithio mewn awyren, dylech bob amser roi gwybod i'r cwmni awyrennau os bydd angen cymorth ychwanegol arnoch. Cysylltwch â'r cwmni awyrennau o leiaf 48 awr cyn hedfan, fel eu bod yn cael amser i drefnu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.
Os oes angen, efallai y gallech drefnu i rywun eich helpu wrth gofrestru, wrth archwilio bagiau ac yn yr adran dollau. Gallwch hefyd ofyn i aelod staff roi gwybod i chi'n bersonol pan fydd y teithwyr yn dechrau mynd ar yr awyren.
Dylai bod gan y rhan fwyaf o systemau annerch mewn meysydd awyr gyfleusterau dolen sain, sy'n chwyddo sain i bobl sydd â swits 'T' ar eu teclynnau clywed. Dylai bod ffonau testun a ffonau cyhoeddus gyda dolenni sain a dolenni chwyddo sain ar gael hefyd. Dylai staff desg wybodaeth y maes awyr allu dweud wrthych lle i gael y rhain.
Mae'n syniad da egluro'ch anabledd wrth aelod o'r criw, fel y gallant roi gwybod i chi am unrhyw gyhoeddiadau pwysig, megis ynghylch oedi wrth lanio, neu os bydd angen glanio mewn argyfwng.
Dylai fideos sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch diogelwch gynnwys isdeitlau, ac efallai y bydd modd i chi hefyd glywed cyhoeddiadau cyhoeddus drwy ddolen glyw ar yr awyren.
Mae sawl mudiad ac elusen yn rhoi cyngor defnyddiol am deithio ar awyren i bobl fyddar neu bobl sydd â nam ar eu clyw.
Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) wedi cynhyrchu taflen ffeithiau o'r enw 'Flying and the ear', sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am effaith teithio ar awyren ar eich clustiau.
Os oes arnoch eisiau mynd â'ch ci cymorth neu'ch ci tywys ar awyren gyda chi, rhowch wybod i'r cwmni awyrennau am hyn ymlaen llaw. Dylech hefyd edrych beth yw polisi'r cwmni awyrennau ynghylch cario cŵn cymorth. Bydd cŵn cymorth yn cael teithio am ddim fel arfer, ar fwrdd yr awyren gyda chi, ond gyda rhai cwmnïau awyrennau, byddant yn gorfod teithio yn howld yr awyren.
Pan fyddwch yn teithio â chi sy'n cynorthwyo, dylech gario rhyw fath o brawf adnabod ar eich cyfer chi a'r ci, a harnais ddiogelwch ar gyfer teithio mewn car a fyddai'n addas ar gyfer cadw'r ci yn ddiogel pan fydd yr awyren yn codi ac yn glanio, ac ar unrhyw adeg arall y bydd y cwmni awyrennau yn dymuno hynny.
Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes
Os ydych yn dymuno mynd â'ch ci gyda chi ar daith i wlad arall, gallai'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes (PETS) eich helpu i atal eich ci rhag gorfod treulio cyfnodau maith mewn cwarantin ar ôl i chi ddychwelyd i'r DU.
Nid yw pob cwmni awyrennau yn gweithredu'r cynllun felly mae'n well cadarnhau hynny â nhw ymlaen llaw. Caiff anifeiliaid anwes sy'n teithio â chwmnïau hedfan sy'n gweithredu'r cynllun eu cario yn howld yr awyren, ond ceir eithriad sy'n caniatáu i gŵn tywys a chŵn eraill sy'n rhoi cymorth deithio ar fwrdd yr awyren gyda'u perchnogion.
Ceir mwy o fanylion am y cynllun yn adran teithio a thrafnidiaeth y wefan hon.