Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Teithio mewn awyren os oes gennych chi anhawster symud

Ni ddylai anhawster symud eich atal rhag teithio yn yr awyr. Y peth pwysig yw cynllunio ymlaen llaw a rhoi gwybod i'r cwmni awyrennau pa gymorth y byddwch ei angen ganddynt.

Archebu a hysbysu ymlaen llaw

Os bydd angen cymorth arnoch, sicrhewch eich bod yn rhoi cymaint â phosib o rybudd i'r cwmni. Drwy wneud hyn, gall y cwmni hedfan gynllunio ymlaen llaw a chael y staff a/neu'r offer iawn yn eu lle ar yr amser iawn ac yn y lle iawn.

Hyd yn oed os ydych chi fel arfer yn annibynnol, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch pan fyddwch yn hedfan. Er enghraifft, os oes gennych chi anawsterau cerdded, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio cadair olwyn neu fygi i fynd i'r giât gan fod pellteroedd mawr i'w cerdded mewn maes awyr yn aml.

Pobl sy'n defnyddio cadair olwyn

Mae’n rhaid i gwmnïau hedfan gludo’ch offer symudedd yn rhad ac am ddim. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y cwmni hedfan pan fyddwch yn archebu’r tocyn er mwyn iddynt allu cael manylion eich cadair olwyn neu sgwter. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych gadair olwyn neu sgwter gyda motor.

Rhaid i'r seddi ar awyren fodloni rheoliadau diogelwch yr awyr. Oherwydd hyn, allwch chi ddim mynd â'ch cadair olwyn eich hun ar fwrdd awyren. Bydd yn cael ei storio yn howld yr awyren.

Dylech allu aros yn eich cadair olwyn eich hun hyd nes i chi gyrraedd ochr yr awyren. Bydd angen i chi wedyn drosglwyddo i gadair arbennig i fynd ar yr awyren.

Bydd y man lle byddwch yn gorfod newid cadeiriau yn amrywio mewn gwahanol feysydd awyr a bydd yn dibynnu ar ba gyfleusterau ac offer sydd ar gael i staff symud eich cadair olwyn i'r awyren.

Os ydy'r awyren wedi'i chysylltu â'r terminal gyda 'phont-awyr' neu dwnnel, dylech allu aros yn eich cadair olwyn eich hun hyd nes i chi gyrraedd drws yr awyren, gan na fydd grisiau i mewn i gaban yr awyren.

Os nad ydy'r awyren wedi'i pharcio ger y terminal, bydd rhaid i'r teithwyr ddefnyddio grisiau i fynd ar yr awyren. Bydd rhaid i chi drosglwyddo i gadair drosglwyddo arbennig neu gadair olwyn i'w defnyddio ar yr awyren yn y giât ymadael, neu ar y ddaear y tu allan i'r awyren neu yn y cerbyd a'ch hebryngodd at yr awyren.

Os oes angen pacio'ch cadair olwyn yn arbennig, efallai y bydd angen i chi drosglwyddo i gadair o eiddo'r maes awyr wrth gofrestru. Mae hyn yn aml yn berthnasol i sgwteri neu gadeiriau olwyn gyda motor.

Yswiriant teithio

Nid oes rhaid i gwmnïau hedfan ddarparu iawndal llawn am unrhyw golled neu ddifrod i offer symudedd. Cyn ichi deithio, dylech sicrhau bod eich yswiriant teithio'n darparu yswiriant digonol ar gyfer eich cadair olwyn.

Polisïau cwmnïau hedfan

Gall rhai cwmnïau hedfan ofyn i chi brofi pam fod angen rhai cyfleusterau neu wasanaethau arnoch, megis lle ychwanegol i'r coesau. Mae hyn yn eu helpu i roi blaenoriaeth i'r rhai sydd wirioneddol angen y cyfleusterau hyn, gan mai nifer gyfyngedig sydd ar gael yn aml.

Mae gan wahanol gwmnïau hedfan wahanol bolisïau. Bydd y cwmni hedfan neu'r trefnydd teithiau yn dweud wrthych adeg archebu pa wybodaeth y bydd angen i chi ei darparu.

Hefyd, mae gan y cwmni hedfan hawl i fynnu bod teithiwr yn teithio gyda chydymaith os nad yw'r teithiwr yn gallu gofalu amdano'i hun. Er mwyn gallu teithio ar eich pen eich hun, dylech allu symud o sedd ar yr awyren i gadair olwyn ar fwrdd yr awyren, gan na chaiff y criw godi teithwyr i mewn ac allan o'u seddi am resymau iechyd a diogelwch.

Hawliau cyfreithlon

O dan gyfraith Ewropeaidd, mae gan bobl anabl a phobl eraill sydd â symudedd cyfyngedig hawliau cyfreithlon i gymorth wrth deithio yn yr awyr. Ceir gwybodaeth fanwl ynghylch hyn ar y wefan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU