Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi'n teithio dramor gyda thrên neu fferi, bydd angen i chi ystyried nifer o bethau. Mae'n bwysig cynllunio ymlaen llaw a sicrhau bod modd diwallu'ch anghenion.
Cyn archebu tocyn ar gyfer eich taith, holwch y cwmni trenau neu'r trefnydd teithiau a fydd cymorth ar gael ar gyfer unrhyw ofynion sydd gennych ac a fydd cyfleusterau'r trên a'r orsaf y byddwch yn eu defnyddio'n hygyrch i chi. Gallai hyn olygu cael mynedfa neu fan storio ar gyfer eich cadair olwyn neu gymorth symudedd arall, neu bod eich ci cymorth yn gallu dod gyda chi.
Mae gan y rhan fwyaf o drenau Ewrop, gan gynnwys yr Eurostar, nifer gyfyngedig o fannau sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Bydd angen i chi roi gwybod i staff y swyddfa docynnau eich bod yn bwriadu teithio yn eich cadair olwyn eich hun.
Gall y rhan fwyaf o drenau gludo cadeiriau olwyn o fathau gwahanol, ond efallai na fyddant yn gallu cludo sgwteri neu gadeiriau olwyn mawr sy'n rhedeg ar fatri.
Hefyd, mae rhai teithiau a chwmnïau trên ar draws Ewrop yn cynnig tocynnau am bris llai i deithwyr anabl ac efallai y byddant yn caniatáu i gydymaith deithio gyda chi am bris gostyngedig. Holwch beth sydd ar gael cyn trefnu. Efallai y bydd aelodau Mobilise yn gymwys am ostyngiad ar yr Eurotunnel.
Mae rhai gorsafoedd yn fwy hwylus i bobl anabl nag eraill ac felly dylech holi ymlaen llaw bob tro er mwyn i'ch taith fod mor ddidrafferth â phosibl.
Cyn trefnu'ch taith neu fordaith, holwch y cwmni fferi, y cwmni mordeithiau neu'r trefnydd teithiau a fyddant yn gallu cynorthwyo gydag unrhyw ofynion sydd gennych.
Yn aml, bydd cwmnïau fferi a chwmnïau mordeithiau yn mynnu bod person anabl yn teithio gyda chydymaith abl, gan ddibynnu ar natur a difrifoldeb yr anabledd. Os ydych yn bwriadu teithio ar eich pen eich hun, dylech drafod hyn gyda'r cwmni yn gyntaf.
Mae gan borthladdoedd mwyaf y DU gyfleusterau da; gall hyn amrywio y tu allan i'r DU. Os yw'n bosibl, holwch cyn i chi drefnu i wneud yn siŵr y bydd eich gofynion yn cael eu bodloni. Er enghraifft, holwch am rampiau ar gyfer cadeiriau olwyn a thoiledau hwylus.
Os ydych yn bwriadu mynd â'ch car a chithau'n gyrru, efallai y bydd rhai cwmnïau fferi, yn ogystal â'r Eurotunnel, yn cynnig gostyngiad ar y pris. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi fod yn aelod o Mobilise. Cysylltwch â Mobilise i gael y wybodaeth lawn.
Bydd rhai cwmnïau mordeithiau'n mynnu bod gennych adroddiad meddygol. Holwch y cwmni neu'ch trefnydd teithiau pan fyddwch yn archebu eich tocynnau ynghylch hyn ac unrhyw ofynion eraill sydd gennych.