Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Teithio mewn awyren os ydych chi'n ddall neu â nam ar eich golwg

Pan fyddwch yn teithio mewn awyren, dylech bob amser roi gwybod i'ch trefnydd teithiau a'r cwmni awyrennau os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch. Cysylltwch â'r cwmni awyrennau o leiaf 48 awr cyn hedfan, fel eu bod yn cael amser i drefnu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch.

Yn y maes awyr

Mae'r gwasanaethau cefnogi sydd ar gael mewn meysydd awyr ar gyfer pobl ddall neu bobl sydd â nam ar eu golwg yn cynnwys:

  • rhywun i ddod i'ch cyfarfod ac i'ch tywys trwy'r camau wrth gofrestru, archwilio bagiau ac yn yr adran dollau
  • rhywun i ddweud wrthych yn bersonol pryd mae'n amser mynd ar yr awyren os ydych mewn 'maes awyr distaw'
  • rhywun i'ch helpu i fynd ar yr awyren a chadw unrhyw fagiau

Mewn archwiliad diogelwch, dylech bob amser egluro eich anabledd a gofyn i staff diogelwch y maes awyr ailbacio'ch bagiau mewn trefn benodol, er mwyn i chi wybod lle mae eitemau hanfodol.

Ar yr awyren

Dylai'r arddangosiad diogelwch a roddir gan griw'r caban i'r holl deithwyr ar ddechrau'r daith fod ar gael ar ffurfiau eraill, gan gynnwys Braille a fersiynau sain. Dylai criw'r caban hefyd roi mwy o wybodaeth gyffredinol i chi am yr awyren, y cyfleusterau a'r gwasanaethau. Byddant hefyd yn disgrifio sut mae'r hambwrdd bwyd wedi'i osod, yn agor unrhyw becynnau chwithig i'w hagor ac yn eich helpu i ddod o hyd i'r toiled.

Cŵn cymorth a theithio ar awyren

Os oes arnoch eisiau mynd â'ch ci tywys ar awyren gyda chi, rhowch wybod i'r cwmni awyrennau am hyn ymlaen llaw. Gall y cwmni awyrennau ofyn i'r perchennog am brawf fod y ci wedi'i hyfforddi gan sefydliad cymeradwy. Yn y DU, mae'r sefydliadau hyn yn aelodau o Assistance Dogs UK. Dylech hefyd edrych beth yw polisi'r cwmni awyrennau ynghylch cario cŵn tywys. Bydd cŵn tywys yn cael teithio am ddim fel arfer, ar fwrdd yr awyren gyda chi, ond gyda rhai cwmnïau hedfan, byddant yn gorfod teithio yn howld yr awyren.

Pan fyddwch yn teithio gyda chi tywys, dylech gario rhyw fath o brawf adnabod ar eich cyfer chi a'r ci, yn ogystal â harnais ddiogelwch ar gyfer teithio mewn car, a fyddai'n addas i gadw'r ci yn ddiogel pan fydd yr awyren yn codi ac yn glanio, ac ar unrhyw adeg arall y bydd y cwmni awyrennau yn dymuno hynny.

Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes

Os ydych yn dymuno mynd â'ch ci gyda chi ar daith i wlad arall, gallai'r Cynllun Teithio Anifeiliaid Anwes (PETS) eich helpu i atal eich ci rhag gorfod treulio cyfnodau maith mewn cwarantin ar ôl i chi ddychwelyd i'r DU.

Nid yw pob cwmni awyrennau yn gweithredu'r cynllun felly mae'n well cadarnhau hynny â nhw ymlaen llaw. Caiff anifeiliaid anwes sy'n teithio â chwmnïau hedfan sy'n gweithredu'r cynllun eu cario yn howld yr awyren, ond ceir eithriad sy'n caniatáu i gŵn tywys a chŵn eraill sy'n rhoi cymorth deithio ar fwrdd yr awyren gyda'u perchnogion.

Ceir mwy o fanylion am y cynllun yn adran teithio a thrafnidiaeth y wefan hon.

Allweddumynediad llywodraeth y DU