Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beth i'w ddisgwyl mewn archwiliad diogelwch maes awyr

Gwneir archwiliadau diogelwch ar bob teithiwr a phob bag cyn mynd ar awyren. Nid yw pobl anabl ac offer symudedd megis cadeiriau olwyn wedi'u heithrio rhag yr archwiliadau hyn.

Cael archwiliad diogelwch

Dylai'r staff diogelwch fod yn ymwybodol o sawl peth i sicrhau bod yr archwiliad yn cael ei gynnal yn yr un ffordd ag ar gyfer teithwyr eraill, gan ystyried eich anabledd a/neu eich anghenion meddygol.

Mae'n bwysig rhoi gwybod i staff diogelwch am unrhyw anabledd neu gyflwr meddygol sydd gennych a all effeithio ar y ffordd y cynhelir yr archwiliad. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer unrhyw anableddau cudd megis diabetes neu anawsterau dysgu.

Rhowch wybod i staff os oes unrhyw ran o'r broses yn anghyfforddus - er enghraifft, os yw'n boenus i godi'ch breichiau.

Dylai'r staff diogelwch:

  • sicrhau bod pob cam o'r broses yn cael ei esbonio'n glir ac yn syml
  • cynnig yr opsiwn i wneud yr archwiliad mewn man preifat, os oes angen
  • gwrando ac ystyried eich anghenion a gwneud yr hyn a allant i hwyluso'r archwiliad
  • cynnig cymorth ar unrhyw gam o'r archwiliad os oes angen hynny arnoch

Dylai staff diogelwch fod yn ymwybodol o rai pethau wrth archwilio pobl gydag anableddau penodol. Er enghraifft, os oes gennych anabledd corfforol, dylech gael cymorth i godi eich bagiau ar y peiriant pelydr-x a'u tynnu i ffwrdd.

Os ydych yn ddall neu â nam ar eich golwg, gofynnwch am i dyst fod yn bresennol os bydd eich bag yn cael ei archwilio. Hefyd, dylai eich bag gael ei ailbacio yn union fel ag yr oedd.

Meddyginiaeth

Dylai'r staff diogelwch drin unrhyw feddyginiaeth yn ddisylw a'i ailbacio'n ofalus.

Os ydych chi'n teithio gydag unrhyw feddyginiaeth neu offer meddygol - yn enwedig chwistrelli a llawer o feddyginiaeth - bydd angen llythyr gan eich meddyg yn egluro beth ydyw a pham fod ei angen arnoch.

Noder, heb lythyr gan eich meddyg neu ysbyty, mae'n debygol na chewch ganiatâd i fynd ar yr awyren os ydych chi'n cludo chwistrelli neu nodwyddau hypodermig yn eich bagiau llaw.

Dylech hefyd ddweud wrth y cwmni awyrennau ymlaen llaw os byddwch chi'n cludo chwistrelli, naill ai yn eich bagiau llaw neu yn y bagiau a roddir yng ngwaelod yr awyren.

Allweddumynediad llywodraeth y DU