Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Nid oes llawer o broblemau amgylcheddol mwy difrifol na newid yn yr hinsawdd. Mae hyn a cholli mwy a mwy o gynefinoedd naturiol a rhywogaethau yn peri heriau enfawr, ond mae atebion i'w cael. Mae'r erthygl hon yn bwrw golwg ar ambell stori am lwyddiannau amgylcheddol yn y DU.
Rhagwelir y bydd lefelau'r môr yn codi rhwng 18 a 59 cm dros y ganrif nesaf a thymereddau'n codi hyd at 6.4 gradd Celsius, gyda chanlyniadau difrifol. Mae'n debyg mai lleihau gollyngiadau'r nwyon tŷ gwydr sy'n achosi newid yn yr hinsawdd yw'r her fwyaf sy'n wynebu'r ddynoliaeth. Mae ffordd bell i fynd, ond mae pethau'n symud yn y cyfeiriad iawn.
Heddiw, mae'r aer yn lanach nag ar unrhyw adeg ers y chwyldro diwydiannol rhag llawer o lygryddion.
Er bod rhai heriau mawr o'n blaen, o edrych yn ôl dros y degawdau diwethaf, mae nifer o broblemau amgylcheddol anodd wedi'u datrys yn llwyddiannus.
Mwrllwch
Cyn lleied â 50 mlynedd yn ôl, roedd prif ddinasoedd y DU yn rheolaidd yn dioddef o fwrllwch tew a achoswyd gan losgi glo, ac roedd miloedd yn marw bob blwyddyn o ganlyniad iddo.
Ymdriniwyd â'r broblem drwy gyflwyno parthau 'tanwydd di-fwg', glo glanach a defnyddio trydan neu nwy. Heddiw, mae'r aer yn y DU yn lanach nag ar unrhyw adeg ers y chwyldro diwydiannol, rhag llawer o lygryddion - er bod heriau'n dal i fodoli o ran lleihau gollyngiadau ymhellach, yn enwedig o egsôsts ceir.
Llygredd plwm
Roedd ceir yn arfer gollwng symiau peryglus o blwm, ac roedd y broblem ar ei gwaethaf yn y 1980au. Mae plwm yn wenwyn sy'n casglu yng nghyrff pobl ac mae'n arbennig o niweidiol i blant. Ers y cyflwynwyd petrol plwm isel yn 1985, mae'r lefelau wedi gostwng yn sylweddol. Erbyn 1999, nid oedd plwm yn cael ei ddefnyddio mewn petrol o gwbl.
Yr haen osôn
Mae'r haen osôn yn amddiffyn y blaned rhag ymbelydredd uwchfioled (UV). Dros ugain mlynedd yn ôl cafwyd prawf cychwynnol bod yr haen osôn yn disbyddu dros Antartica. Gwelwyd bod yr haen uwchben y DU hefyd yn teneuo, gan adael i fwy o olau UV ddod i mewn, sy'n gallu achosi llosg haul, heneiddio'n rhy gynnar a chanser y croen.
Achoswyd hyn gan fath o gemegyn a ddefnyddiwyd mewn aerosolau ac oergelloedd, yn cynnwys clorofflworocarbonau (CFCs). Mae'r rhain bellach wedi diflannu'n raddol mewn gwledydd datblygedig a byddant yn diflannu mewn gwledydd sy'n datblygu erbyn 2010. Oherwydd y cytundeb hwn i beidio â defnyddio CFCs, ymddengys bod yr haen osôn bellach yn gwella. Disgwylir i'r lefelau ddychwelyd i'r hyn yr oeddent cyn 1980 erbyn 2050 i 2075.
Er 1970, cafwyd lleihad mewn gollyngiadau sy'n achosi glaw asid
Glaw asid
Achosir glaw asid pan fydd gollyngiadau nwyon diwydiannol, yn bennaf sylffwr deuocsid a nitrogen ocsid, yn cyfuno gyda diferion dŵr yn yr awyr i ffurfio asid gwan. Mae'r glaw sy'n disgyn wedyn yn amharu ar gydbwysedd cemegol afonydd a llynnoedd, yn enwedig mewn ardaloedd â phridd asidig, megis Cumbria, yr Alban ac Eryri. Yn Sweden, mae 18,000 o lynnoedd mor asidig nes bod yr holl bysgod ynddynt wedi marw.
Ers y darganfuwyd y broblem, mae gorsafoedd pŵer wedi dechrau defnyddio technolegau sy'n tynnu sylffwr, ac mae cytundebau rhyngwladol wedi'u cytuno er mwyn lleihau gollyngiadau llygryddion i'r aer. Er 1970, mae lleihad o 84 y cant wedi bod mewn gollyngiadau sylffwr deuocsid ac mae ocsid nitraidd wedi'i leihau o draean. Mae gwelliannau wedi bod mewn nifer o leoedd, er y bydd yn cymryd blynyddoedd lawer i'r sefyllfa wella'n llwyr.
Llygredd mewn afonydd ac ar draethau
Mae nifer o afonydd sy'n llifo drwy ardaloedd trefol wedi gwella'n gyflymach o effeithiau llygredd. Yn y 1960au, ystyriwyd bod rhannau o'r afon Tafwys yn 'fiolegol farw'. Bellach, mae 121 math o bysgod yn byw yno. Mae carthion yn gorlifo a llygredd yn dal i beri problemau, ac mae mwy i'w wneud. Fodd bynnag, o ganlyniad i welliannau mewn systemau trin carthffosiaeth mae'r afon Tafwys yn lanach nag y bu ers canrifoedd - patrwm sy'n cael ei efelychu mewn afonydd ledled y wlad.
Mae gwelliannau mewn systemau trin carthffosiaeth wedi bod o fantais i ddyfroedd ymdrochi hefyd. Yn 2008, bodlonodd 97 y cant o ddyfroedd ymdrochi'r DU y safon sylfaenol, o'i gymharu ag oddeutu 66 y cant yn 1988.
Plaleiddiaid ac adar ysglyfaethus
Roedd lleihad difrifol yn niferoedd yr adar ysglyfaethus yn y 1950au a'r 1960au. Lleihaodd niferoedd adar megis bwncathod, hebogiaid tramor, cudyllod coch ac eryrod fwy nag erioed o'r blaen. Canfwyd mai plaleiddiaid organoglorin oedd yn achosi hyn. Tynnwyd y rhain oddi ar y farchnad yn raddol, ac mae niferoedd yr hebogiaid tramor bellach yn uwch nag ar unrhyw adeg yn y ganrif ddiwethaf.
Mae cyfanswm gwastraff y cartref sy'n cael ei ailgylchu neu ei gompostio wedi cynyddu i 31 y cant.
Mae aelodau'r cyhoedd wedi chwarae rhan allweddol mewn llawer o lwyddiannau amgylcheddol yn y gorffennol. Mae angen i chi weithredu'n awr yn fwy nag erioed i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae adran yr 'amgylchedd a byw'n wyrdd' Cross & Stitch yn cynnwys gwybodaeth am sut y gallwch wneud gwahaniaeth. Mae llawer o bobl wedi dechrau arni eisoes: