Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae wyth deg y cant o'r ynni a ddefnyddir yn y cartref yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwresogi. Drwy droi eich thermostat i lawr, inswleiddio'n dda a chael boeler mwy effeithlon, gallwch helpu i leihau'ch biliau tanwydd a'ch allyriadau carbon. Mae cymorth ariannol hefyd ar gael er mwyn sicrhau bod eich cartref yn defnyddio ynni'n fwy effeithlon.
Ynni a ddefnyddir yn y cartref sy'n gyfrifol am fwy na chwarter allyriadau carbon y DU. Un o'r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud i helpu i leihau'r newid yn yr hinsawdd yw defnyddio llai o ynni i wresogi.
Gallwch gael cymorth ariannol os ydych chi'n bwriadu gwella'ch cartref er mwyn arbed ynni - er enghraifft, drwy inswleiddio neu gael boeler newydd.
Ffrynt Cynnes
Os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol, mae'n bosib eich bod yn gymwys ar gyfer cael grant Ffrynt Cynnes. Gall y grant eich helpu i wella eich system inswleiddio a gwresogi. I gael gwybod mwy, darllenwch 'Y cynllun ffrynt cynnes yn Lloegr'.
Ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 512 012 i gael cyngor di-duedd ynghylch cynigion arbed ynni
Cymorth gan gyflenwyr ynni
Mae'n bosib eich bod hefyd yn gymwys i gael cynigion arbed ynni gan gwmniau ynni. Gallwch chi fanteisio ar gynigion unrhyw un o'r cwmniau sy'n eu gwneud, ni waeth pwy sy'n cyflenwi eich nwy a'ch trydan. Cewch wybod yn union pa gefnogaeth y gallech ei dderbyn drwy wneud y canlynol:
Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid
Os ydych yn landlord ac os ydych yn gwellia'ch eiddo er mwyn arbed ynni, gallech hawlio Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid a lleihau eich bil treth. Dilynwch y ddolen Lwfans Arbed Ynni i Landlordiaid isod i gael mwy o wybodaeth.
Trowch eich thermostat i lawr i arbed arian a thanwydd
Gallwch wastraffu llai o lawer o ynni drwy ddefnyddio botymau rheoli eich gwres canolog yn ofalus. Gall y rhain gynnwys:
Gallwch arbed arian a lleihau'ch ôl troed carbon drwy gymryd ychydig o gamau syml:
Defnyddir dros 80 y cant o ynni'r cartref er mwyn gwresogi a chael dŵr poeth, felly, gall boeler sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon wneud byd o wahaniaeth. Cadwch lygad am y label 'Energy Saving Recommended' pan fyddwch yn dewis boeler newydd. Dim ond ar y cynhyrchion gorau am ddefnyddio ynni'n effeithlon y rhoddir y label hwn, sef yr 20 y cant gorau ar y farchnad fel rheol.
Mae'n bosib eich bod yn gymwys i gael £400 oddi ar gost gosod boeler sy'n defnyddio ynni'n fwy effeithlon. Os ydych chi'n byw yn Lloegr a bod gennych chi foeler gradd G sy'n gweithio, gallwch wneud cais i'r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.
A yw deunydd inswleiddio eich atig yn 270 milimedr o drwch?
Mae dros hanner y gwres a gollir mewn cartref cyffredin yn dianc drwy'r waliau neu'r to. Bydd inswleiddio'r atig a'r waliau ceudod yn lleihau faint o wres sy'n dianc. Gall hyn, ynghyd â system atal drafft, helpu i ostwng hyd at £180 ar eich biliau tanwydd bob blwyddyn.
Gellir inswleiddio waliau ceudod mewn tŷ tair ystafell wely cyffredin mewn ychydig oriau, a gellir gwneud hyn o'r tu allan. Mae angen i'ch adeilad gael waliau ceudod. Gallwch inswleiddio waliau solet hefyd, ond mae hyn yn brosiect mwy sy'n fwy costus.
Mae'n hawdd inswleiddio atig – gallwch hyd yn oed ei wneud eich hun. Hyd yn oed os ydych wedi inswleiddio'ch atig yn barod, edrychwch pa mor drwchus yw'r deunydd. Drwy ychwanegu haen arall er mwyn iddo fod yn 270 milimedr o drwch fel yr argymhellir, byddwch yn arbed ynni ac arian.
Er mai waliau a thoeau sy'n bennaf gyfrifol am golli gwres, gallwch wneud pethau eraill hefyd:
Weithiau gall ynni adnewyddadwy fod yn opsiwn ar gyfer gwresogi a phweru cartrefi. Y technolegau ynni adnewyddadwy mwyaf cyffredin yw ynni solar, pŵer y gwynt, pŵer dŵr (hydro) a biomas, sy'n cynnwys llosgi cynhyrchion planhigion neu wastraff anifeiliaid. Drwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy gallwch wneud cyfraniad sylweddol at leihau'r effeithiau ar y newid yn yr hinsawdd.