Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Help i gynhesu eich cartref

Os oes angen cymorth arnoch i dalu am gynhesu neu gwella inswleiddio yn eich cartref, fe allech chi gael arian o gynllun grant y llywodraeth, yn dibynnu lle rydych chi'n byw.

Ffrynt Cynnes yng Nghymru a Lloegr

Cynllun dan nawdd y llywodraeth yw Ffrynt Cynnes sy'n darparu pecyn ar gyfer gwella insiwleiddio a gwresogi cartrefi.

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn a'ch bod yn byw mewn cartref sy'n eiddo i chi neu ar rent, mae'n bosib y cewch chi uchafswm y grant - Ffrynt Cynnes Mwy, sef £2,700 os ydych chi'n derbyn un o'r budd-daliadau cymhwyso sy'n gysylltiedig-ag-incwm. Os byddwch chi'n gosod system gwres canolog olew, fe allech chi dderbyn grant o hyd at £4,000.

Y Pecyn Cymorth Ynni yn yr Alban

Mae’r Pecyn Cymorth Ynni yn darparu amrywiaeth o fentrau sy’n anelu at leihau biliau tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni tai.

Gallwch gael cyngor ynni arbenigol am ddim drwy ffonio Canolfan Gyngor Arbedion Ynni'r Alban ar 0800 512 012. Efallai y bydd gennych yr hawl i gael cymorth pellach, megis camau inswleiddio am ddim neu osod system gwres canolog newydd.

Pwy sy'n gymwys?

Byddwch yn gymwys i gael grant os ydych chi, neu'ch partner, yn derbyn un o'r budd-daliadau cymhwyso canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • Budd-dal Treth Cyngor
  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Lwfans Gweithio i'r Anabl
  • Credyd Treth i Bobl Anabl
  • Credyd Teulu
  • Budd-dal Tai
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, a rhaid i hynny gynnwys y Lwfans Gweini Cyson
  • Pensiwn Anabledd Rhyfel a rhaid i hynny gynnwys yr atodiad symudedd neu'r Lwfans Gweini Cyson
  • Credyd Treth Gwaith

Os ydych chi'n 60 oed neu'n hŷn ac nad ydych yn derbyn un o'r budd-daliadau cymhwyso, fe allech fod yn gymwys i gael grant o hyd at £125.

Sut i wneud cais

I gael gwybod rhagor am y Fargen Gynhesrwydd neu i drefnu arolwg heb eich rhwymo o gwbl, ewch i wefan Llywodraeth yr Alban, neu ffoniwch 0800 316 6009 yn rhad ac am ddim. Mae rhif minicom ar gael i bobl sy'n drwm eu clyw neu'n cael anhawster gyda'u lleferydd ar 0131 244 1829. Gallwch ffonio rhwng 8.30 am a 5.30 pm, o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Rhaglen Gwres Canolog yr Alban

Mae Rhaglen Gwres Canolog Llywodraeth yr Alban yn helpu pobl i osod systemau gwres canolog yn eu cartrefi. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnig amrywiaeth o gamau insiwleiddio cartrefi.

Pwy sy'n gymwys?

I fod yn gymwys ar gyfer y Rhaglen Gwres Canolog:

  • rhaid i chi fod yn 60 neu'n hŷn
  • rhaid i chi fod yn byw yn yr Alban ac wedi bod yn eich cyfeiriad presennol ers 12 mis
  • rhaid i chi fod yn berchen ar eich cartref eich hun neu'n rhentu gan landlord preifat
  • rhaid i chi fod â system gwres-canolog sydd wedi torri a'r tu hwnt i'w drwsio, neu fod heb un o gwbl

Os ydych chi'n 80 oed neu'n hŷn, eich bod yn berchen ar eich cartref eich hun neu'n rhentu gan landlord preifat a bod gennych system gwres canolog rannol neu aneffeithiol, cewch wneud cais am gael gosod system gwres canolog lawn neu un newydd yn lle'r hen un.

Sut i wneud cais

I gael gwybod rhagor am y Rhaglen Gwres Canolog, ewch i wefan Llywodraeth yr Alban, neu ffoniwch 0800 316 1653 yn rhad ac am ddim.

Gwasanaeth cadw'n gynnes yn y gaeaf yn eich ardal leol

Efallai gallwch ddod o hyd i wybodaeth a chyngor ar gadw'n gynnes yn y gaeaf yn eich ardal leol. Gallwch lenwi eich manylion am eich ble yr ydych yn byw yn y ddolen ganlynol, bydd hyn wedyn yn eich tywys i'r wefan am eich awdurdod lleol.

Additional links

Cyngor iechyd

Ewch i NHS Choices i gael gwybodaeth am iechyd a gwasanaethau iechyd lleol yn Lloegr

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU