Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Cefnogaeth i aros yn eich cartref eich hun

Os ydych chi am fyw mor annibynnol ag y bo modd, mae'n bosib y bydd angen cefnogaeth arnoch i aros yn eich cartref eich hun. Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol ddarparu amrywiaeth eang o wasanaethau a all fod o gymorth i chi.

Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol

I gael gwybod pa fath o gymorth y gallech ei gael, bydd angen i chi gael asesiad iechyd a gofal cymdeithasol. Gallwch gael un gan eich tîm gwasanaethau cymdeithasol lleol. Dyma'ch cyfle i roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol beth fyddai'n gwneud eich bywyd beunyddiol yn haws. Er enghraifft, efallai y byddai angen help arnoch i lanhau neu y byddai cael gosod rheilen ar y bath o gymorth i chi. Mae'n bosib bod gennych yr hawl i gael cymorth ariannol i gynnal a chadw'ch cartref.

Fe allech chi hefyd fod â'r hawl i gael 'taliadau uniongyrchol'. Taliadau gan y cyngor lleol yw'r rhain ar gyfer unrhyw un sydd wedi cael ei asesu, a’r asesiad wedi dangos bod angen cymorth y gwasanaethau cymdeithasol arno. Gallwch eu defnyddio ar gyfer prynu'r gwasanaethau hynny gan rywun arall yn hytrach na'u derbyn gan y cyngor lleol. Er enghraifft, gellid defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am gymorth yn y cartref.

Asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal chi

Holwch ynghylch asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn eich ardal chi. Mae'n bosib y byddwch chi'n gallu gwneud cais am un ar-lein. Bydd y ddolen ganlynol yn gofyn i chi deipio manylion ble rydych chi'n byw cyn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.

Gofal yn eich cartref eich hun

Cynigir gofal yn eich cartref eich hun i bobl sydd ag angen cymorth gyda'u gofal personol megis wrth ymolchi, gwisgo, coginio, glanhau neu gymorth i gadw trefn ar faterion ariannol.

Mae gwybodaeth ar gael am ofal yn y cartref yn eich ardal leol. Bydd y ddolen ganlynol yn gofyn i chi deipio manylion ble rydych chi'n byw cyn mynd â chi at wefan eich awdurdod lleol.

Gwneud eich cartref yn haws byw ynddo

Mae'n bosib y byddai addasu'ch cartref o gymorth i chi, er enghraifft gosod rheiliau llaw, atal drafft neu osod teclyn codi yn y bath. Fe all eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol eich cynghori am hyn, ac mewn rhai achosion, fe allant roi cymorth ariannol i chi addasu eich cartref.

Gofal a Thrwsio

Mae’r cynllun Gofal a Thrwsio yn darparu cymorth a chyngor i bobl sy’n berchen ar eu cartrefi eu hunain fel eu bod yn gallu trwsio, gwella neu addasu’u cartref ac aros yn gyfforddus yn eu cymunedau.

Bydd Gofal a Thrwsio yr Alban yn goruchwylio'r gwaith ar eich cartref.

Bydd staff y prosiect yn gwneud y canlynol:

  • rhoi cyngor
  • argymell masnachwyr lleol
  • helpu i gael gafael ar arian (grantiau gan gynghorau lleol fel arfer)
  • trefnu gwaith atgyweirio mawr

Mae nifer o brosiectau'n cynnwys gwasanaethau trwsio bychan, gan gynnwys cynlluniau tasgmon ar gyfer gwneud gwaith atgyweirio bychan a allai fod yn ddrud fel arall.

System Grantiau Atgyweirio a Gwelliannau

Efallai y gall eich cyngor lleol eich helpu gyda chost atgyweirio, gwella neu addasu eich cartref. Mae’r help yma ar gael i bobl sy’n berchen ar eu cartrefi a thenantiaid preifat.

Yn y rhan fwyaf o achosion, y cyngor lleol sydd i benderfynu ar roi grant i chi neu beidio. Ond ceir rhai amgylchiadau lle byddai’n rhaid i'r cyngor roi grant i chi.

Bydd y grant sydd ar gael yn dibynnu ar eich incwm ac ar y math o waith sydd angen ei wneud. Ni fydd yn rhaid i chi dalu treth ar y grantiau hyn.

Eich cyngor lleol sy'n gyfrifol am y cynllun grant. Byddant hefyd yn gallu rhoi mwy o wybodaeth i chi ynghylch y cymorth sydd ar gael yn eich ardal.

Mae'n bosib y gallech hefyd gael cymorth ariannol ar gyfer cynhesu’ch cartref. Gall hyn gynnwys:

  • insiwleiddio'r atig, waliau dwbl a thanciau dŵr poeth
  • atal drafft
  • gwresogyddion storio trydan

Cyflogi gofalwr neu gynorthwyydd personol

Os ydych chi'n chwilio am weithiwr gofal i'ch helpu chi i fyw yn annibynnol gartref, mae’n bosib y gallwch ddod o hyd i un drwy eich adran gwasanaethau cymdeithasol leol neu drwy asiantaeth gofal yn y cartref. Neu efallai y gallwch gael un drwy asiantaeth gofal cartref neu drwy ddewis cyflogi rhywun yn uniongyrchol.

Siopa a danfon nwyddau i'ch cartref

Os yw hi'n anodd i chi siopa weithiau, efallai yr hoffech ystyried siopa ar y we. Bydd rhai archfarchnadoedd a siopau'n danfon eich neges i'ch drws.

Cynllun Warm Front a chefnogaeth o fath arall

Mae'n bosib y gallech gael cymorth ariannol ar gyfer cynhesu'ch cartref. Gall hyn gynnwys:

  • insiwleiddio'r atig, waliau dwbl a thanciau dŵr poeth
  • atal drafft
  • gwresogyddion storio trydan

Mae'n bosib y cewch chi gymorth ariannol hefyd megis y Taliad Tanwydd Gaeaf neu'r Taliad Tywydd Oer.

Cefnogaeth pan fyddwch chi'n gofalu am rywun

Os ydych chi’n ofalwr, efallai y byddai cael rhywfaint o gymorth gartref o fudd i chi. Efallai y byddai'n fuddiol petai'r person rydych chi'n gofalu amdano'n ymweld â chanolfan ddydd am ychydig oriau er mwyn i chi gael rhywfaint o amser personol. Mae'n bosib hefyd y byddech chi'n elwa o gael rhywfaint o gymorth yn y cartref gyda phethau fel glanhau.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU