Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'n bosib y daw adeg yn eich bywyd pan fyddwch chi dal yn gallu cadw trefn ar eich sefyllfa ariannol ond ei bod hi'n anodd i chi fynd i'r banc i nôl eich pensiwn neu fudd-daliadau eraill. Neu efallai y bydd arnoch angen rhywun arall i gael y taliadau ar eich rhan. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, gallwch enwebu cynorthwy-ydd, megis perthynas neu ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo, i'ch cynorthwyo.
Y ffordd arferol o dalu Pensiynau'r Wladwriaeth, budd-daliadau, lwfansau neu gredyd treth i'ch cyfrif yw Taliad Uniongyrchol.
Bydd y rhan fwyaf o ddarparwyr cyfrifon yn caniatáu i chi bennu cynorthwy-ydd i gael mynediad at eich cyfrif ar eich rhan, naill ai'n barhaol neu dros dro. Dylech gysylltu â'ch banc, eich cymdeithas adeiladu neu'ch darparwr cyfrif arall i gael manylion am sut mae gwneud hyn.
Nid yw Taliad Uniongyrchol yr un fath â thaliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol. Gallwch dderbyn taliadau uniongyrchol gan eich cyngor os oes gennych hawl i gael help ariannol ar gyfer gwasanaethau gofal ond eich bod yn dymuno gwneud eich trefniadau eich hun.
Os nad ydych yn gallu rheoli cyfrif banc - ac felly nad oes modd talu i chi drwy Daliad Uniongyrchol - efallai y gallwch gael siec.
Sut mae cynorthwy-ydd yn cyfnewid siec am arian parod ar eich rhan?
Bydd y cynorthwy-ydd yr ydych wedi'i enwebu yn cyfnewid y siec am arian parod ar eich rhan.
Bydd angen i chi lofnodi cefn y siec i ddangos eich bod wedi gofyn i rywun ei chyfnewid am arian parod ar eich rhan. Bydd y cynorthwy-ydd hefyd yn llofnodi datganiad ac yn rhoi tystiolaeth o bwy ydyw ac o bwy ydych chi yn eich banc neu'ch cymdeithas adeiladu.
Efallai yr hoffech sefydlu eich Atwrneiaeth Arhosol eich hun. Mae Atwrneiaeth Arhoson yn caniatáu i chi benodi ffrind, perthynas neu berson proffesiynol yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eich rhan os na fyddwch chi’n gallu gwneud y penderfyniadau hynny. Mae’r penderfyniadau hyn megis eich eiddo, eich arian a'ch lles.
Mae'r opsiwn hwn yn addas os ydych yn dymuno ffurfioli trefniant lle mae'r berthynas neu'r ffrind y mae gennych ffydd ynddo yn cael mynediad ar eich cyfrif fel eich asiant.
Eto i gyd, bydd angen i chi drafod y trefniadau talu gyda'ch banc neu'ch cymdeithas adeiladu.