Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Y gwahaniaeth rhwng Taliad Uniongyrchol a 'thaliadau uniongyrchol'

Mae'r system Taliad Uniongyrchol ar gyfer talu budd-daliadau a phensiynau yn wahanol i ‘daliadau uniongyrchol’ gan eich cyngor lleol.

Taliad Uniongyrchol - pensiynau a budd-daliadau

Os byddwch yn cael budd-daliadau neu bensiynau'r wladwriaeth, fel arfer, bydd eich arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch cyfrif mewn banc neu gymdeithas adeiladu. Dyma'r ffordd fwyaf diogel o'ch talu ac mae'n gadael i chi ddewis sut a phryd y byddwch yn cael eich arian.

Taliadau uniongyrchol - trefnu eich gofal a'ch gwasanaethau eich hun

Os ydych chi'n gymwys i gael help gan y gwasanaethau cymdeithasol ar ôl asesiad, cewch ddewis derbyn taliadau ganddyn nhw (gelwir y rhain yn 'daliadau uniongyrchol') i brynu'r gwasanaethau y mae eu hangen arnoch i ateb eich anghenion. Telir y taliadau hyn i chi yn lle'ch bod yn cael y gwasanaethau'n uniongyrchol gan eich cyngor lleol.

Gellir talu taliadau uniongyrchol:

  • i bobl anabl sy'n 16 oed neu'n hŷn (gydag anghenion cyfnod byr neu gyfnod hir)
  • i rieni anabl i dalu am wasanaethau plant
  • i ofalwyr 16 oed neu hŷn (gan gynnwys pobl sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl)
  • i bobl hŷn sydd angen gwasanaethau gofal yn y gymuned

Mwy o ddolenni defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU