Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
O fis Ebrill 2013, rhoddir cap ar swm y budd-dal y gall pobl rhwng 16 a 64 oed ei gael. Gelwir hyn yn gap ar fudd-daliadau. Mae'r cap ar fudd-daliadau yn golygu na ddylai pobl gael mwy o daliadau budd-dal na'r cyflog cyfartalog a delir i bobl sy'n gweithio.
Bydd y cap ar fudd-daliadau yn berthnasol i bobl rhwng 16 a 64 oed, a elwir hefyd yn 'oedran gweithio'.
Mae'r cap yn golygu na ddylai cartrefi lle nad oes neb yn gweithio gael mwy o fudd-daliadau na'r cyflog cyfartalog a delir i bobl sy'n gweithio. Mae hyn ar ôl didynnu treth ac Yswiriant Gwladol.
Mae cartref yn golygu chi, eich partner os oes gennych un, ac unrhyw blant rydych yn gyfrifol amdanynt ac sy'n byw gyda chi.
Defnyddiwch y gyfrifiannell cap ar fudd-daliadau i weld os bydd y cap ar fudd-daliadau yn berthnasol i chi. Bydd y gyfrifiannell ond yn cymryd ychydig o funudau i’w chwblhau.
Er mwyn ateb y cwestiynau bydd angen gwybodaeth arnoch am swm y dyfarniad wythnosol ar gyfer pob budd-dal neu lwfans rydych chi neu rywun yn eich cartref yn ei gael
Pan gânt eu hadio at ei gilydd, bydd y cap ar fudd-daliadau yn cyfyngu ar gyfanswm yr incwm y gallwch ei gael o’r budd-daliadau canlynol:
Faint yw’r cap ar fudd-daliadau
Ni chaiff swm gwirioneddol y cap ei osod tan yn ddiweddarach eleni, ond disgwylir iddo gael ei osod fel a ganlyn.
Uchafswm o £350 yr wythnos os ydych naill ai:
Uchafswm o £500 yr wythnos os ydych naill ai:
Ni fydd y cap yn berthnasol os ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith neu’n cael unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol:
Caiff y cap ei gymhwyso drwy dynnu arian o daliadau Budd-dal Tai.
Bydd y cap ar fudd-daliadau yn sicrhau na fydd cartrefi sy’n cael budd-daliadau yn cael mwy o fudd-dal na'r cyflog a gaiff aelodau cartref cyffredin sy’n gweithio.
Bydd y cap ar fudd-daliadau yn annog pobl i chwilio am waith ac yn helpu i hyrwyddo tegwch rhwng y rhai mewn gwaith a'r rhai sy'n cael budd-daliadau.
Os ydych eisoes yn cael budd-daliadau y gallai’r cap ar fudd-daliadau effeithio arnynt bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi. Byddant yn eich helpu i ddeall yr hyn y gallai'r cap ei olygu i chi. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich helpu i gael gwybodaeth am y newidiadau ac ystyried yr hyn y gallwch ei wneud yn awr i baratoi.
O fis Ebrill 2013, efallai y bydd eich Budd-dal Tai yn gostwng i sicrhau nad yw cyfanswm eich budd-dal yn fwy na lefel y cap. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi ddefnyddio arian o'ch budd-daliadau eraill i dalu tuag at y rhent ar gyfer eich cartref.
Os ydych yn cael budd-daliadau ac yn gweld ymgynghorydd Canolfan Byd Gwaith, darparwr Rhaglen Waith neu ddarparwr Dewis Gwaith, byddant yn parhau i’ch helpu. Byddant yn eich helpu i chwilio am waith a chael y sgiliau y gallai fod eu hangen arnoch i ddod o hyd i swydd. Os nad ydych mewn cysylltiad ag un o'r rhain ar hyn o bryd, byddwch yn cael cynnig apwyntiad i drafod y cymorth a chefnogaeth a allai fod ar gael. Os byddwch yn yn dod o hyd i waith efallai na fydd y cap yn berthnasol i chi.
Gallwch gael help i chwilio am waith, diweddaru eich CV, gwella eich sgiliau, gwneud cais am swyddi a pharatoi ar gyfer cyfweliad.
Gallwch gael gwybod mwy am Gredyd Treth Gwaith, gan gynnwys faint o oriau y mae angen i chi eu gweithio er mwyn bod yn gymwys.