Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Dod yn benodai ar gyfer budd-daliadau nawdd cymdeithasol

Mae angen help ar rai pobl i hawlio budd-dal am na allant reoli eu materion eu hunain. Gallai hyn fod oherwydd anallu meddyliol neu am eu bod yn anabl iawn. Os felly, gellir rhoi hawl cyfreithiol i unigolyn arall - a elwir yn benodai - weithredu ar eu rhan. Mynnwch wybod am ddod yn benodai.

Sut i benderfynu a ydych yn benodai

Dim ond os yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi eich penodi i weithredu ar ran rhywun arall y gallwch fod yn benodai. Bydd hyn wedi cynnwys cyfweliad a chwblhau ffurflen BF56. Os nad ydych wedi gwneud hyn, yna nid ydych yn benodai.

Ni chewch eich gwneud yn benodai os yw rhywun yn ddigon abl i reoli neu gael ei fudd-dal ond bod angen rhywfaint o help cyffredinol arno. Hefyd, ni fyddwch yn benodai dim ond am ei bod yn ymddangos fel ffordd gyfleus o helpu rhywun.

Eich cyfrifoldebau fel penodai

Fel penodai, byddwch yn gwbl gyfrifol am wneud unrhyw gais a'i gynnal ac am reoli sut y caiff y budd-dal ei wario. Mae hyn yn golygu y byddwch:

  • yn llofnodi'r ffurflen gais yn hytrach na'r unigolyn sy'n gwneud cais am y budd-dal
  • yn gyfrifol am ddweud wrth y swyddfa fudd-daliadau am unrhyw newidiadau a all effeithio ar faint o fudd-dal y mae'r unigolyn yn ei gael
  • yn gorfod hawlio unrhyw fudd-daliadau y gall y cwsmer fod â hawl i'w cael
  • yn gorfod gwario'r budd-dal er budd y cwsmer - er y caiff y budd-dal ei dalu i chi, nid eich arian chi ydyw i'w wario arnoch chi eich hun
  • yn gallu bod yn gyfrifol am unrhyw ordaliadau, os byddwch yn darparu gwybodaeth anghywir yn fwriadol

Gwneud cais i fod yn benodai am y tro cyntaf

Er mwyn gwneud cais i fod yn benodai, bydd angen i chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau fod angen help ar rywun rydych yn ei adnabod i:

  • wneud cais am fudd-dal – gan na all wneud hynny ei hun
  • rheoli ei fudd-dal presennol – gan na all wneud hynny ei hun

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn trefnu i'ch cyfweld ac ymweld â'r cwsmer. Os bydd yn cytuno bod angen help ar y cwsmer a'ch bod yn unigolyn addas, cewch eich penodi'n ffurfiol i weithredu ar ran y cwsmer.

Taliadau

Os byddwch yn gweithredu fel penodai, caiff unrhyw daliadau budd-daliadau eu gwneud i chi.

Adolygiadau

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gwirio eich penodiad yn rheolaidd i sicrhau mai dyma’r trefniant mwyaf cyfleus i chi a’r person rydych yn benodai ar eu rhan.

Pan fydd penodiad yn dod i ben

Bydd penodiad yn dod i ben os profir nad ydych yn gweithredu er budd y cwsmer. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, defnyddiwch y ddolen ganlynol.

Allweddumynediad llywodraeth y DU