Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Agor a defnyddio cyfrif banc

Er mwyn agor cyfrif banc bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a darparu gwybodaeth bersonol benodol. Ar gyfer rhai cyfrifon bydd angen i chi hefyd dalu arian i mewn i'r banc ac efallai bydd y banc yn dymuno edrych ar eich hanes credyd. Unwaith bydd y cyfrif wedi agor gallwch gychwyn rheoli'ch arian.

Agor cyfrif banc

Er mwyn agor cyfrif banc, fel arfer, gofynnir i chi:

  • brofi pwy ydych chi
  • profi lle rydych chi'n byw
  • profi eich statws fel myfyriwr, os yw hynny'n berthnasol
  • llenwi ffurflen gais
  • talu rhywfaint o arian i mewn i'ch cyfrif mewn rhai achosion

Ar gyfer y cyfrifon sy'n caniatáu i chi gael benthyg arian neu ordynnu, mae'n bosib y bydd y banc yn dymuno gwneud 'archwiliad credyd'; mewn geiriau eraill, cael geirda gan fanciau neu fenthycwyr y bu i chi eu defnyddio yn y gorffennol cyn agor y cyfrif i brofi eich bod yn gwsmer cydwybodol.

Pam bod angen i chi brofi pwy ydych chi

Rhaid i chi brofi pwy ydych chi er mwyn helpu banciau i frwydro yn erbyn 'gwyngalchu arian' (money laundering) lle bydd troseddwyr yn ceisio agor cyfrifon gydag arian a enillwyd o weithgareddau anghyfreithlon neu a fwriedir ar gyfer gweithgareddau o'r fath, yn aml iawn dan enwau ffug neu gan ddwyn a defnyddio manylion personol pobl eraill. Yn ôl y gyfraith, rhaid i fanciau sicrhau eu bod yn 'adnabod eu cwsmer' cyn gadael i chi agor cyfrif neu brynu eu cynnyrch neu wasanaethau ariannol.

Cewch wybod mwy ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Defnyddio cyfrif banc

Bydd eich banc yn rhoi gwybodaeth i chi am sut i ddefnyddio'ch cyfrif. Mae nodweddion cyfrifon yn amrywio, ond gallai'r dulliau gweithredu a'r dogfennau y byddwch yn eu defnyddio neu'n eu cael gynnwys

Dogfennau/cardiau

  • llyfr siec ac/neu gerdyn codi arian neu gerdyn debyd i wneud taliadau neu i gael arian parod
  • slipiau talu i mewn er mwyn talu arian neu sieciau i mewn i'r banc
  • Cyfriflenni banc misol, chwarterol neu flynyddol

Gweithdrefnau awtomataidd

  • gallwch sefydlu debydau uniongyrchol neu archebion sefydlog (trefniadau i drosglwyddo arian yn awtomatig) i dalu biliau ac i wneud taliadau rheolaidd
  • gallwch sefydlu taliadau BACS (System glirio awtomatig y banc) fel y gallwch chi dderbyn taliadau rheolaidd, fel cyflog, pensiwn, budd-daliadau neu incwm o fuddsoddiadau yn uniongyrchol i mewn i'ch cyfrif
  • efallai y bydd modd i chi fancio dros y ffôn neu ar y we gan dalu biliau neu symud arian rhwng cyfrifon

Beth sy'n digwydd os byddwch yn gordynnu arian?

Bydd rhai cyfrifon yn gadael i chi ordynnu swm bychan (er enghraifft £50) heb godi tâl arnoch. Ond os byddwch yn gordynnu heb gytundeb codir llog ar y swm arian fel arfer - a ffi ar ben hynny. Yn ogystal â hyn, efallai y bydd y banc yn gwrthod talu eich sieciau a'ch debydau uniongyrchol, a byddant hefyd, mwy na thebyg, yn codi tâl arnoch am beri iddynt 'fownsio' (eu gwrthod). Gall y ffioedd fod yn uchel iawn, ac efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi gweinyddol ar ben hynny.

Mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu ffi am drefnu cytundeb gorddrafft, ond bydd hyn, mwy na thebyg, yn rhatach na gordynnu'n rheolaidd heb gytundeb. Os ydych yn poeni am ordynnu arian, efallai y byddai cyfrif banc sylfaenol, na fydd yn caniatáu i chi wneud hynny, yn addas ar eich cyfer.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Banciau tramor

Os bydd banc yn methu, mae cynlluniau iawndal yn diogelu’ch cynilion. Ond efallai y mae banciau tramor yn cael eu diogelu mewn ffyrdd gwahanol

Allweddumynediad llywodraeth y DU