Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cardiau debyd a chardiau credyd - y gwahaniaeth

Pan fyddwch yn prynu nwyddau neu'n codi arian parod gyda cherdyn debyd bydd yr arian yn mynd allan o'ch banc yn syth. Gyda cherdyn credyd byddwch yn cael bil yn fisol. Os na fyddwch chi'n ad-dalu'r swm sy'n ddyledus yn llawn ar gerdyn credyd, neu os byddwch yn tynnu arian parod allan o'ch banc gydag ef, bydd y costau'n uchel iawn.

Sut mae cardiau debyd yn gweithio

Mae cardiau debyd wedi eu cysylltu'n uniongyrchol â'ch cyfrif banc. Gallwch eu defnyddio i brynu nwyddau neu dynnu arian allan o'ch banc a bydd y swm yn cael ei dynnu o'ch cyfrif yn syth.

Gallwch hefyd ddefnyddio cardiau debyd i gael 'arian yn ôl' o siopau penodol pan fyddwch yn prynu nwyddau a hefyd yn gofyn am arian yn ôl gan yr ariannwr, er nid yw pob siop yn cynnig y gwasanaeth hwn. Bydd y cyfanswm yn cael ei dynnu o'ch cyfrif yn syth.

Pan fyddwch yn defnyddio peiriant twll yn y wal neu'n talu am nwyddau gyda cherdyn debyd bydd angen i chi bwyso eich rhif PIN (rhif adnabod defnyddiwr). Pan fyddwch yn prynu nwyddau byddwch fel arfer yn pwyso'r rhifau ar ddyfais llaw electronig, ond mewn rhai achosion mae'n bosib y bydd angen i chi lofnodi.

Mae'r rhan fwyaf o fanciau yn cynnig cardiau debyd. Mae'r rhan fwyaf o gardiau debyd hefyd yn medru cael eu defnyddio fel 'cardiau gwarantu siec', sy'n gwarantu y bydd eich siec yn cael ei derbyn gan eich banc hyd at swm penodol.

Beth sy'n digwydd os nad oes digon o arian yn fy nghyfrif?

Bydd hyn yn dibynnu ar y math o gerdyn debyd sydd gennych:

  • os oes gennych gerdyn debyd 'Solo' neu 'Electron' bydd balans eich cyfrif yn cael ei wirio cyn i chi allu talu - os nad oes digon o arian ni chewch dalu na chymryd arian allan gyda'r cerdyn debyd onid oes cytundeb wedi'i wneud ymlaen llaw i'ch galluogi i wneud hynny
  • os oes gennych gerdyn 'Switch', 'Visa' neu 'Delta' ni fydd balans eich cyfrif o anghenraid yn cael ei wirio ac mae'n bosib y bydd y taliad yn cael ei wneud

Os byddwch yn gordynnu bydd y costau a dalwch yn dibynnu a oes gennych drefniant gorddrafft wedi'i awdurdodi gan eich banc ai peidio. Os oes gennych, byddwch yn talu'r llog ar ddiwedd pob mis. Bydd y swm fel arfer yn llawer llai na'r llog a godir ar gardiau credyd.

Os nad oes gennych gytundeb gorddrafft, neu os byddwch yn mynd dros y terfyn y cytunwyd arno, efallai y bydd eich banc yn gadael i chi wneud y taliad ond byddwch fel arfer yn talu ffioedd llawer uwch nac y byddech pe bai gennych orddrafft wedi'i bennu.

Defnyddio cerdyn debyd dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd

Gellir defnyddio cardiau debyd i wneud taliadau dros y ffôn neu ar y we. Yn yr achos hwn bydd angen i chi ddarparu manylion penodol sydd wedi'u printio ar eich cerdyn. Cewch wybod mwy a gweld enghraifft o gerdyn debyd ar wefan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol.

Sut mae cardiau credyd yn gweithio

Mae cerdyn credyd yn ddull o gael benthyg arian. Rhaid i gwmnïau sy’n benthyg arian i gwsmeriaid fod wedi’u trwyddedu gan Y Swyddfa Masnachu Teg dan Ddeddf Credyd Defnyddwyr 1974. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod rhai cytundebau credyd a hur-bwrcas yn cael eu trefnu mewn ffordd benodol ac yn cynnwys gwybodaeth berthnasol am yr unigolyn sy’n cael benthyg arian.

Bydd cardiau credyd yn eich galluogi i 'brynu nwyddau yn awr a thalu eto' - gelwir hyn yn 'brynu ar gredyd'. Nid ydynt yn gysylltiedig â'ch cyfrif banc. Fel cardiau debyd, gellir eu defnyddio i brynu nwyddau mewn siopau dros y ffôn ac ar y we, a rhaid cael yr un manylion. Gallwch hefyd gael 'arian ymlaen llaw' wrth gymryd arian allan o beiriannau twll yn y wal.

Efallai y bydd eich banc yn cynnig cerdyn credyd i chi, neu gallwch wneud cais am un gan unrhyw sefydliad sy'n eu cynnig. Cyn cynnig cerdyn credyd i chi, bydd y darparwr fel rheol yn cynnal archwiliadau er mwyn gweld a ydych wedi cael problemau wrth ad-dalu dyledion (gelwir hyn yn 'archwiliad credyd').

Y risg o ddefnyddio cerdyn credyd

Meddyliwch yn ofalus cyn defnyddio cerdyn credyd. Os na fyddwch yn talu'ch bil yn llawn erbyn y dyddiad a ddangosir bydd rhaid i chi dalu llog ar gyfanswm y bil ar gyfer y mis hwnnw. Gall y cyfraddau llog - a ddangosir gan yr 'APR' (y gyfradd ganrannol flynyddol) - fod yn uchel iawn.

Os tynnwch arian parod allan o'ch cyfrif gyda cherdyn credyd codir llog arnoch o'r eiliad y byddwch yn tynnu'r arian hyd nes bydd bil y cerdyn credyd yn cael ei dalu'n llawn. Mae hon yn ffordd ddrud o fenthyg arian.

Bydd rhai cardiau credyd hefyd yn codi tâl arnoch dim ond am gael y cerdyn.

Os na allwch chi fforddio ad-dalu bil eich cerdyn credyd gallech fynd i ddyled yn hawdd iawn. Cewch wybod rhagor am beth i gadw llygad arno gyda chardiau credyd yn yr erthygl berthnasol a welir isod.

Additional links

Archwiliad iechyd ariannol

Cymryd 5-10 munud ar archwiliad iechyd ariannol cyfrinachol sydd am ddim

Banciau tramor

Os bydd banc yn methu, mae cynlluniau iawndal yn diogelu’ch cynilion. Ond efallai y mae banciau tramor yn cael eu diogelu mewn ffyrdd gwahanol

Allweddumynediad llywodraeth y DU