Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Bydd cadw llygad cyson ar eich sefyllfa ariannol bersonol yn eich helpu i wneud y gorau o'ch arian. Hefyd, bydd adolygu pethau megis eich cyfrifon banc, morgais, pensiwn a chynilion yn eich helpu i sicrhau eu bod yn dal yn iawn i chi. Bydd hefyd yn eich rhybuddio'n gynnar am unrhyw broblemau ariannol posibl.
Mae'n syniad da gwirio'n rheolaidd a yw eich incwm:
Gallwch ddefnyddio'r cyfrifiannell cyllidebu ar-lein ar wefan y Gwasanaeth Cyngor am Arian i gymharu'ch gwariant gyda'ch incwm.
Os oes gennych arian dros ben, chwiliwch am opsiynau cynilo/buddsoddi sy'n addas i'ch amgylchiadau chi ac a fydd yn rhoi mwy o elw i chi.
Os oes gennych ddiffyg bydd angen i chi gymryd camau i leihau eich gwariant a/neu gynyddu eich incwm. Os ydych yn pryderu am ddyledion, gallwch gael cyngor di-dâl.
Hyd yn oed os ydych o'r farn fod eich sefyllfa ariannol mewn trefn, mae'n syniad da cael golwg ar eich cynilion, eich benthyciadau a'ch buddsoddiadau i sicrhau eich bod yn cael y bargeinion gorau sydd ar gael.
Edrychwch ar bethau megis:
Mae gan wefan y Gwasanaeth Cyngor am Arian dablau cymharu ar gyfer ystod eang o gynnyrch cynilo a buddsoddi, ac mae'n darparu gwybodaeth am sut i gymharu cynigion cardiau credyd. Mae hefyd yn cynnig cyfrifianellau ad-daliadau morgais yn dangos sut y byddai cyfraddau llog gwahanol yn effeithio ar eich taliadau morgais.
Wrth adnewyddu yswiriant cartref, iechyd neu yswiriant arall, cofiwch ddarllen y print mân i weld beth sydd wedi newid. Ydych chi'n dal i gael gwerth am arian a’r yswiriant sydd ei angen arnoch chi?
Os bydd angen help arnoch i roi trefn ar eich blaenoriaethau ariannol, man cychwyn da yw 'prawf cyflwr ariannol' ar-lein y Gwasanaeth Cyngor am Arian. Bydd yn rhoi awgrymiadau ynghylch ffordd o fyw sy'n ariannol iachach ac yn nodi meysydd y bydd angen eu hadolygu ymhellach o bosibl.