Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Efallai yr ydych am roi arian i'ch plant neu eich wyrion i'w hannog i gynilo neu i roi celc iddynt pan fyddant yn gadael cartref. Os ydych yn rhoi arian i'ch plant, neu'n ei fuddsoddi ar eu cyfer, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth ar y llog.
Does dim terfyn ar faint y gallwch ei roi neu ei fuddsoddi ar gyfer eich plant neu'ch wyrion. Ond mae'n bosibl y bydd y llog yn cael ei drethu fel eich incwm chi:
Mae gan bob rhiant derfyn ar wahân o £100. Felly, os bydd y ddau riant yn cyfrannu'r un swm, gallai eich plentyn cael llog o £200 y flwyddyn heb i'r naill na'r llall ohonoch orfod talu treth arno.
Mae terfyn ar wahân o £100 ar gyfer pob llysriant hefyd.
Dim ond i rieni a llysrieni y mae'r terfyn o £100 yn berthnasol. Gallwch roi gymaint ag y dymunwch i'ch wyrion neu i blant pobl eraill - ni fydd y llog yn cael ei drethu fel eich incwm chi. Fodd bynnag, efallai y bydd y plant yn gorfod talu treth etifeddu ar y swm y byddant yn ei dderbyn a thalu treth ar y llog o'r incwm o'u cynilion.
Mae gan eich plant lwfans di-dreth personol bob blwyddyn (£8,105 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-2013). Gallant gael y swm incwm hwn (yn cynnwys llog) yn y flwyddyn heb orfod talu unrhyw dreth.
Gall rhiant wneud cais i log o gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu eu plentyn gael ei dalu heb i dreth gael ei didynnu ohono:
Gallwch wneud cais gan ddefnyddio ffurflen R85 Cyllid a Thollau EM. Rhowch y ffurflen wedi’i llenwi i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu. Dylai ffurflen R40 gael ei llenwi i hawlio ad-daliad os ydych chi’n credu yr ydych wedi talu gormod o dreth ar log o’ch cynilion yn barod.
Os byddwch yn rhoi arian i'ch plant neu'ch wyrion (neu i blant yr ydych yn gofalu amdanynt) gall eithriadau i'r Dreth Etifeddu olygu nad oes yn rhaid talu treth arno. Os byddwch yn marw o fewn saith mlynedd i roi'r arian, efallai y bydd rhywfaint o Dreth Etifeddu i'w thalu.
Mae nifer o gynlluniau cynilo di-dreth y gallech eu defnyddio ar gyfer eich plant.
Y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Mae’r Gronfa Ymddiriedolaeth Plant yn gyfrif di-dreth hirdymor ar gyfer plant sydd wedi eu geni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011 yn unig.
Gall eich plentyn fel arfer fod yn gymwys am gyfrif:
Bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon taleb atoch i agor cyfrif. Gall y daleb fod gwerth £50 neu £250 gan ddibynnu ar bryd ganed eich babi. Gallwch gael taliad ychwanegol hefyd os er enghraifft eich bod ar incwm isel.
Gall unrhyw un rhoi arian mewn i gyfrif plentyn. O 1 Tachwedd 2011, y cyfyngiad ar gyfer yr holl gyfraniadau yw £3,600 y flwyddyn. Ni fydd yna dreth i dalu ar unrhyw log neu enillion. Dim ond pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 18 y byddant yn gallu defnyddio’r arian yn y cyfrif.
Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) i Bobl Iau
Cyfrifon cynilo di-dreth hirdymor i blant o dan 18 oed sydd heb gyfrif Cronfa Ymddiriedolaeth Plant (CTF) yw ISAs i Bobl Iau. O 1 Tachwedd 2011, gall eich plentyn gael ISA i Bobl Iau:
Mae’r arian mewn cyfrif Cynilo Unigol Plant yn eiddo i’r plentyn ac ni ellir tynnu’r arian allan o’r cyfrif nes bod y plentyn yn 18 oed.
Bondiau Bonws Plant (NS&I)
Gallwch fuddsoddi rhwng £25 a £3,000 am bum mlynedd. Mae'r llog a'r bonws sydd wedi'i warantu yn ddi-dreth i chi a'ch plant.
Cynnyrch cynilo eraill
Mae cynnyrch cynilo eraill ar gael y gallech eu hystyried ar gyfer plant. Gan nad yw'r rhain wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer plant mewn rhai achosion bydd rhaid i chi reoli'r cyfrif hyd nes i'r plentyn gyrraedd oed penodol.
Gallwch ddefnyddio ymddiriedolaeth deulu i ofalu am arian a darparu incwm i blant nad ydynt yn gallu rheoli eu materion eu hunain.
Mae sefydlu ymddiriedolaeth yn waith cymhleth felly efallai yr hoffech weithio gyda chyfrifydd neu gynghorydd treth. Bydd angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EM os ydych yn sefydlu ymddiriedolaeth.