Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Rhoddion sydd wedi’u heithrio rhag y Dreth Etifeddu

Os yw’ch ystad werth mwy na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2012-13) ceir rhai eithriadau pwysig rhag y Dreth Etifeddu sy’n gadael i chi roi rhoddion i eraill heb orfod talu treth arnynt ar ôl i chi farw.

Buddiolwyr eithriedig

Gallwch roi rhoddion i rai pobl a mudiadau heb orfod talu unrhyw Dreth Etifeddu. Bydd y rhoddion hyn wedi’u heithrio p’un ai a fyddwch yn eu gwneud yn ystod eich bywyd neu fel rhan o’ch ewyllys.

Gallwch roi rhoddion wedi’u heithrio i’r canlynol:

  • eich gŵr, eich gwraig neu’ch partner sifil, ar yr amod bod ganddynt gartref parhaol yn y DU
  • elusen ‘gymwys’ wedi’i sefydlu yn yr UE neu wlad penodol arall (cael gwybod mwy isod)
  • rhai sefydliadau cenedlaethol, megis amgueddfeydd cenedlaethol, prifysgolion a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
  • unrhyw blaid wleidyddol yn y DU gydag o leiaf dau aelod wedi’u hethol i’r Tŷ Cyffredin neu sydd ag un aelod etholedig ond i’r blaid gael o leiaf 150,000 o bleidleisiau

Nid yw rhoddion a roddwch i’ch partner dibriod, neu bartner nad oes gennych bartneriaeth sifil gofrestredig ag ef, yn cael eu heithrio.

Eithriad blynyddol

Gallwch roi rhoddion gwerth hyd at gyfanswm o £3,000 ym mhob blwyddyn dreth, a bydd y rhoddion hyn wedi’u heithrio rhag y Dreth Etifeddu pan fyddwch yn marw. Gallwch ddwyn ymlaen unrhyw ran o’r eithriad £3,000 nad ydych wedi’i defnyddio i’r flwyddyn ganlynol. Ond os fyddwch yn ei defnyddio yn ystod y flwyddyn honno, bydd yr eithriad a ddygwyd ymlaen yn dod i ben.

Yn ogystal â’r eithriad blynyddol ceir eithriadau eraill ar gyfer mathau penodol o roddion. Ceir eglurhad o’r rhain isod. Ni ellir cyfuno eithriadau i gynyddu’r symiau a roddir i’r un unigolyn.

Rhoddion eithriedig

Caiff rhai anrhegion a roddir yn ystod eich oes eu heithrio rhag y Dreth Etifeddu oherwydd y fath o anrheg neu’r rheswm dros ei rhoi.

Rhoddion priodas/rhoddion seremoni partneriaeth sifil

Mae anrhegion priodas neu seremoni partneriaeth sifil wedi’u heithrio rhag y Dreth Etifeddu, hyd at derfyniadau penodol:

  • gall rhieni roi arian parod neu anrhegion gwerth £5,000
  • gall neiniau a theidiau a pherthnasau eraill roi arian parod neu anrhegion gwerth hyd at £2,500
  • gall unrhyw un arall roi arian parod neu anrhegion gwerth £1,000

Rhaid i chi roi'r rhodd – neu addo ei rhoi – ar ddyddiad y briodas neu'r bartneriaeth sifil neu ychydig ddyddiau cyn hynny. Os caiff y seremoni ei chanslo a'ch bod yn dal i roi'r rhodd - neu os ydych yn rhoi'r rhodd ar ôl y seremoni heb eich bod wedi'i addo i ddechrau – mae hwn yn eithriad na fydd yn berthnasol.

Rhoddion bychain

Gallwch ddal roi rhoddion gwerth hyd at £250 i gynifer o unigolion ag a ddymunwch mewn unrhyw flwyddyn dreth. Fodd bynnag, ni allwch roi mwy na £250 a gwneud cais mai rhodd fechan yw’r £250 cyntaf. Os byddwch yn rhoi swm sy’n fwy na £250 collir yr eithriad yn gyfan gwbl.

Ni allwch ddefnyddio eich lwfans rhoddion bach ynghyd ag unrhyw eithriad arall wrth roi rhodd i’r un unigolyn.

Rhoddion rheolaidd neu sy'n rhan o'ch gwariant arferol

Mae unrhyw roddion rheolaidd a roddwch o’ch incwm ar ôl treth, heb gynnwys eich cyfalaf, wedi’u heithrio rhag y Dreth Etifeddu. Mae’n rhaid i chi fod â digon o incwm ar ôl gwneud y rhoddion i gynnal eich ffordd o fyw arferol er mwyn i’r rhoddion hyn gael eu heithrio.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • taliadau misol neu daliadau rheolaidd eraill i rywun
  • rhoddion rheolaidd ar gyfer y Nadolig a phen-blwyddi, neu ben-blwydd priodas/partneriaeth sifil
  • premiymau rheolaidd ar bolisi yswiriant bywyd – i chi neu i rywun arall

Gallwch hefyd wneud taliadau cynhaliaeth eithriedig i’r canlynol:

  • eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner sifil
  • eich cyn bartner priod neu gyn bartner sifil
  • perthnasau sy'n ddibynnol arnoch oherwydd henaint neu lesgedd
  • eich plant, gan gynnwys plant mabwysiedig a llysblant, sydd dan 18 oed neu sydd mewn addysg amser llawn

Y rheol saith mlynedd – ‘trosglwyddiadau y gellid eu heithrio’

Bydd unrhyw roddion a roddwch i unigolion wedi’u heithrio rhag y Dreth Etifeddu ar yr amod na fyddwch yn marw o fewn saith mlynedd ar ôl rhoi’r rhodd. Gelwir y mathau hyn o roddion yn ‘drosglwyddiadau y gellid eu heithrio’.

Fodd bynnag, os byddwch yn rhoi ased i ffwrdd ar unrhyw adeg ond yn cadw buddiant ynddo – er enghraifft eich bod yn rhoi eich tŷ i ffwrdd ond yn dal i fyw ynddo heb dalu rhent – ni fydd y rhodd hon yn drosglwyddiad y gellid ei eithrio. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Os byddwch yn marw o fewn saith mlynedd a bod cyfanswm gwerth eich holl roddion yn llai na throthwy’r Dreth Etifeddu, fe gaiff gwerth y rhoddion eu hychwanegu at eich ystad a defnyddir arian yr ystad i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus.

Fodd bynnag, os byddwch yn marw o fewn saith mlynedd ers i chi roi rhodd, a bod gwerth y rhodd yn uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu, bydd angen talu gwerth y Dreth Etifeddu, a hynny naill ai gan y sawl a gafodd y rhodd neu gan gynrychiolwyr yr ystad.

Os byddwch yn marw rhwng tair a saith mlynedd ar ôl rhoi rhodd, a bod cyfanswm gwerth y rhoddion yn fwy na’r trothwy, caiff unrhyw Dreth Etifeddu sy’n ddyledus ar y rhodd ei leihau ar sail graddfa symudol. Gelwir hyn yn Ostyngiad Meinhau. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran ‘Gweithredu ‘Gostyngiad Meinhau’ (Taper Relief) ar roddion’ yn ‘Sut mae prisio rhoddion at ddibenion Treth Etifeddu’.

Rhoddion i gronfa ymddiriedolaeth

Yn gyffredinol, ni chaiff rhoddion i ymddiriedolaethau eu heithrio rhag y Dreth Etifeddu.

Pwysigrwydd cadw cofnodion

Os byddwch chi’n cadw cofnod o unrhyw roddion a roddwch ac yn cofnodi pa eithriadau yr ydych wedi’u defnyddio, bydd hynny’n help i’ch ysgutor neu’ch cynrychiolydd personol wrth iddynt roi trefn ar eich materion ariannol.

Mae hefyd yn syniad da cadw cofnod o’ch incwm ar ôl treth os ydych yn rhoi rhoddion rheolaidd o’ch incwm fel rhan o’ch gwariant arferol. Bydd hyn yn dangos bod eich rhoddion yn rheolaidd a bod gennych ddigon o incwm i dalu amdanynt a'ch gwariant beunyddiol arferol heb orfod defnyddio'ch cyfalaf.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Additional links

Marwolaeth a phrofedigaeth

Ewyllysiau, profiant a phethau eraill y bydd angen i chi feddwl am ar ôl marwolaeth

Allweddumynediad llywodraeth y DU