Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Drwy gynllunio ymlaen llaw, bydd modd i chi nodi’n glir pwy ddylai gael beth o’ch ystâd. Bydd modd i chi hefyd fanteisio i’r eithaf ar ostyngiadau ac eithriadau’r Dreth Etifeddu os bydd eich ystâd efallai'n werth mwy na throthwy'r Dreth Etifeddu. £325,000 yw’r trothwy a bydd yn parhau felly tan 2014-15.
Gwneud ewyllys a bod yn siŵr bod pobl yn gwybod lle i ddod o hyd iddi yw'r cam cyntaf i sicrhau y bydd eich ystad yn cael ei rannu yn unol â'ch dymuniadau pan fyddwch chi’n marw.
Os na fyddwch chi’n gadael ewyllys, bydd eich ystad yn cael ei rannu rhwng eich perthnasau agosaf ar sail trefn blaenoriaeth gaeth o’r enw’r ‘rheolau diewyllysedd’. Bydd hyn efallai’n golygu y bydd pobl rydych chi'n dymuno i gael budd o'ch ystad – megis partner dibriod neu bartner sifil cofrestredig – yn cael dim byd. Mae’r rheolau’n wahanol yn yr Alban.
Gallwch chi ysgrifennu eich ewyllys eich hun neu brynu ffurflen wedi’i hargraffu’n barod mewn nifer o siopau nwyddau ysgrifennu neu siopau papur newydd. Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n llofnodi eich ewyllys, a hynny gyda thyst, neu ni fydd yr ewyllys yn ddilys.
Os yw eich materion ariannol yn fwy cymhleth, efallai y bydd angen cyngor cyfreithiol ac ariannol arnoch chi.
Caiff rhoddion eu trin mewn nifer o wahanol ffyrdd at ddibenion y Dreth Etifeddu. Fodd bynnag, does dim rhaid i chi boeni am wneud rhoddion oni bai eich bod chi’n meddwl y bydd eich ystad – gan gynnwys gwerth unrhyw roddion a wnewch chi – efallai’n uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu pan fyddwch chi’n marw. Os bydd eich ystad yn uwch na’r trothwy, bydd unrhyw roddion a wnewch chi fwy na saith mlynedd cyn i chi farw yn cael eu heithrio rhag y Dreth Etifeddu.
Efallai y bydd goblygiadau treth os byddwch chi’n rhoi eich cartref yn rhodd i’ch plant neu i rywun arall – yn enwedig tra’r ydych chi’n dal yn fyw.
Os byddwch chi’n rhoi eich cartref yn rhodd ac yn parhau i fyw ynddo, efallai y bydd yn dal rhaid i'ch ystad neu'r sawl y rhoesoch chi eich cartref iddo/iddi dalu:
O 6 Ebrill 2012, os byddwch yn gadael 10 y cant neu fwy o'ch ystâd net i ‘elusen gymwysedig’, efallai y bydd eich ystad yn gymwys i dalu Treth Etifeddu ar gyfradd is o 36 y cant.
Mae sawl ffordd y gallwch fod yn berchen ar asedau fel arian, tir neu adeiladau. Mae'r ffordd rydych yn berchen ar yr asedau a chyda phwy yn effeithio ar y ffordd y cânt eu trin wrth benderfynu a all y gyfradd dreth ostyngol fod yn berthnasol.
Gellir rhoi mathau penodol o eiddo yn rhodd heb dalu’r Dreth Etifeddu - neu am werth gostyngol at ddibenion y Dreth Etifeddu. Gallwch chi wneud hyn tra’r ydych chi’n dal yn fyw, neu drwy eich ewyllys.
Efallai y bydd modd i chi hawlio gostyngiad arbennig am yr asedau canlynol:
Gallwch chi ddefnyddio ymddiriedolaeth i drosglwyddo asedau i eraill, er enghraifft i’r rheini na allant ofalu am eu materion eu hunain ar y pryd, megis eich plant.
Efallai y bydd yn dal rhaid talu’r Dreth Etifeddu ar roddion i ymddiriedolaeth os yw eich ystad, gan gynnwys y swm sy’n cael ei drosglwyddo, yn uwch na throthwy’r Dreth Etifeddu (£325,000 yn 2012-13).
Gall ymddiriedolaethau fod yn gymhleth – mae’n syniad da cael cyngor proffesiynol.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs